Harri Morgan ddim am ddychwelyd i rygbi oherwydd iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr rygbi wedi dweud na fydd yn dychwelyd i'r g锚m broffesiynol er mwyn gwarchod ei iechyd meddwl.
Fe gyhoeddodd Harri Morgan, 24, a oedd yn chwarae i鈥檙 Gweilch, ei fod yn cymryd seibiant o'r gamp yn 2023 ar 么l iddo geisio lladd ei hun.
Fe gollodd ei nain a'i daid o fewn cyfnod agos i鈥檞 gilydd, ac roedd pwysau chwarae鈥檔 broffesiynol wedi gwaethygu鈥檙 sefyllfa, meddai.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod y cyfnodau o fewn y gamp yn gallu bod yn heriol, a'u bod wedi ymroi i weithio ar sut mae chwaraewyr yn cael eu cefnogi yn y cyfnodau hyn.
'Teimlo 'mod i methu dweud dim'
Cafodd Morgan, a oedd arfer chwarae i Gymru dan-20 a chlwb Pen-y-bont ar Ogwr, sawl anaf yn ystod ei yrfa fer.
Dywedodd fod yr anafiadau wedi gwaethygu鈥檙 galar yr oedd yn profi.
鈥淩o'n i wir ddim yn teimlo fod 'na lawer o gefnogaeth o amgylch y rheiny oedd wedi eu hanafu o fewn y byd rygbi," meddai wrth raglen 大象传媒 Wales Live.
鈥淩o'n i鈥檔 teimlo fel 'mod i methu dweud dim, neu fydden i鈥檔 gadael fy nghyd-chwaraewyr a'n hyfforddwyr i lawr.
"Ar ddiwedd y dydd ro'n i dal angen cytundeb."
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
Roedd y teimlad o fod yn unig ac ynysig wedi cynyddu ar 么l iddo golli ei nain a thaid o fewn cyfnod agos i'w gilydd.
鈥淔e gychwynnodd fel gor-bryder," meddai.
鈥淏ydde fy nghalon yn cychwyn curo yn sydyn a byddwn i鈥檔 mynd yn fyr o anadl."
Dywedodd nad oedd yn gallu delio 芒'r sefyllfa a'i fod wedi ystyried lladd ei hun.
鈥淩o'n i ddim wir yn teimlo unrhyw beth, ro鈥檔 i鈥檔 teimlo鈥檔 wag.鈥
Ar 么l iddo siarad am ei iechyd meddwl, dywedodd ei fod wedi derbyn cefnogaeth wych gan ranbarth y Gweilch.
鈥淒wi methu rhoi bai ar y clwb, roedden nhw鈥檔 anhygoel,鈥 meddai.
鈥淔e wnaethon nhw roi amser i fi a鈥檙 gwagle o'n i angen, a鈥檙 cyfle i ddychwelyd os o'n i鈥檔 dymuno."
Ond mae Morgan yn bendant bellach nad yw am ddychwelyd i鈥檙 byd rygbi proffesiynol.
鈥淒wi wedi cael y cyfle i ddychwelyd a dwi wedi gwrthod, pob tro," meddai.
"Bydde well gen i fod yn hapus na chael yr holl fanteision o fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol."
Erbyn hyn mae鈥檔 rheoli campfa ac yn gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd, ac yn gobeithio gweld mwy o gefnogaeth yn cael ei chyflwyno i chwaraewyr.
鈥淢ae am greu鈥檙 lle am drafodaethau, gyda鈥檙 rheiny sydd mewn p诺er o fewn y byd rygbi yn holi 'beth allwn ni wneud i helpu?'" meddai Morgan.
鈥淢ae鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 diwylliant a deall anghenion yr unigolyn.鈥
Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru: 鈥淢ae wastad yn anodd clywed y problemau mae rhai unigolion o fewn rygbi wedi dioddef.
"Tra ein bod yn meddwl am y rheiny sy鈥檔 dioddef neu wedi dioddef, rydym yn hynod ddiolchgar i鈥檙 rheiny sy鈥檔 annog chwaraewyr i siarad mor ddewr am y pwnc."
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl yma, mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan 大象传媒 Action Line.