Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024
- Cyhoeddwyd
Mae Cowbois Rhos Botwnnog, Georgia Ruth, Gruff Rhys a CHROMA ymhlith yr artistiaid sydd ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024.
15 o artistiaid sydd wedi eu cynnwys ar y rhestr fer - gyda'r enillydd yn cipio gwobr ariannol o 拢10,000.
Llynedd Rogue Jones enillodd y wobr am eu halbwm, Dos Beb茅s, tra bod Dafydd Iwan hefyd wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad oes i gerddoriaeth yng Nghymru.
Bydd enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024 yn cael ei gyhoeddi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fawrth 8 Hydref - mewn seremoni fydd yn cael ei harwain gan gyflwynydd 大象传媒 Radio 1, Sian Eleri.
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd17 Awst
- Cyhoeddwyd9 Awst
Mae Cowbois Rhos Botwnnog - enillwyr Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024 gyda'u chweched albwm, Mynd 芒鈥檙 t欧 am dro - wedi eu cynnwys ar y rhestr fer.
Mae Georgia Ruth, sy'n briod 芒 phrif leisydd Cowbois - Iwan Huws - hefyd ar y rhestr ar 么l rhyddhau ei phedwaredd albwm hi, Cool Head.
Gruff Rhys, enillydd y wobr yn 2011, yw un o'r enwau mwyaf sydd wedi eu henwebu eleni.
Ond mae sawl enw cyfarwydd i ddilynwyr cerddoriaeth iaith Gymraeg gyda Mellt, Chroma, HMS Morris ac Ynys i gyd ymhlith y 15.
Mae sawl genre gwahanol yn ymddangos ar y rhestr hefyd - gyda'r artist reggae, Aleighcia Scott, yr artist dawns electronig Elkka a'r band metel Skindred i gyd wedi eu cynnwys.
Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2011 gan y cyflwynydd Huw Stephens a'r ymgynghorwr cerddoriaet,h John Rostron, gyda phanel o farnwyr arbenigol o'r diwydiant yn dewis yr enillydd.
"Mae rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni yn gasgliad gwych o albymau," meddai cyd-sylfaenydd y wobr, Huw Stephens.
"Mae artistiaid o Gymru鈥檔 parhau i greu gwaith hardd, arloesol a nodedig, sy鈥檔 mynd 芒鈥檜 cerddoriaeth ledled y byd.
"Rydyn ni鈥檔 ddiolchgar iawn i Cymru Greadigol am gefnogi鈥檙 wobr yma, y gall pob ffan cerddoriaeth yng Nghymru fod yn falch ohoni."
Beirniaid y wobr eleni oedd; Caroline Cullen, CassKid, Jude Rogers, Molly Palmer, Owain Elidir Williams, Sofia Ilyas a Tom Morgan.
Y rhestr fer yn llawn:
Aleighcia Scott - Windrush Baby
Angharad - Motherland
Buzzard Buzzard Buzzard - Skinwalker
CHROMA - Ask for Angela
Cowbois Rhos Botwnnog - Mynd 芒'r t欧 am dro
Elkka - Prism of Pleasure
Georgia Ruth - Cool Head
Gruff Rhys - Sadness Sets Me Free
HMS Morris - Dollar Lizard Money Zombie
L E M F R E C K - BLOOD SEWAT & FEARS
Mellt - Dim Dwywaith
Pys Melyn - Bolmynydd
Skindred - Smile
Slate - Deathless
Ynys - Dosbarth Nos