大象传媒

Foden: Galw am adolygiad brys o brosesau diogelu plant Gwynedd

Neil Foden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae galw ar Gyngor Gwynedd i gomisiynu adolygiad annibynnol ar unwaith i'w prosesau diogelu plant yn dilyn achos y cyn-brifathro Neil Foden.

Mae AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru bod yna "ddyletswydd o ofal i'r rhai sydd yn system addysg Gwynedd ar hyn o bryd", gan gynnwys disgyblion, rhieni a'r gymuned.

Daw hyn yn ogystal 芒'r galw cynyddol am ymchwiliad cyhoeddus llawn, fyddai'n gorfodi tystion i gyfrannu at y broses.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, maen nhw'n disgwyl canlyniadau'r Adolygiad Ymarfer Plant sydd eisoes ar y gweill cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod yn cyfrannu'n llawn i'r adolygiad hwnnw a bod angen yr adolygiad annibynnol er mwyn "deall yn union beth aeth o'i le er mwyn dysgu gwersi".

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd Neil Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol

Cafodd Foden ei garcharu am gam-drin pedwar o blant yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Ond mae rhaglen 大象传媒 Wales Investigates wedi clywed ei bod yn bosib bod y pedoffeil 66 oed wedi cam-drin disgyblion am dros 40 mlynedd.

Mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru ddydd Mercher, dywedodd Liz Saville Roberts: "Dwi'n teimlo'n gryf iawn mae ganddo' ni ddyletswydd o ofal i'r plant sydd yn system addysg Gwynedd ar hyn o bryd - Ysgol Friars ac ysgolion eraill, eu rhieni nhw a'u cymunedau nhw.

"Mae 'na ddyletswydd felly ar Gyngor Gwynedd i gomisiynu adolygiad o'u prosesau diogelu plant r诺an hyn, a hwnna'n adolygiad annibynnol.

"'Da ni wedi, fel gr诺p cynghorwyr, mae'r trafodaethau yna wedi dod ac mae'r gr诺p wedi galw am adolygiad annibynnol.

"Dwi'n disgwyl i arweinyddiaeth Cyngor Gwynedd ymateb i'r galw yna gan y gr诺p am adolygiad annibynnol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Dwi eisiau i'r cyhoedd fod 芒 hyder yn y cyngor a dwi'n chwilio am dystiolaeth i brofi hynny," meddai Liz Saville Roberts

Gwrthododd Ms Roberts ag amddiffyn na chefnogi arweinyddiaeth Cyngor Gwynedd a'r modd mae wedi delio gyda'r sefyllfa, er i 大象传媒 Cymru ofyn sawl gwaith am ei safbwynt hi ar y mater.

Meddai: "Mae gen i fel gynrychiolydd Dwyfor Meirionnydd ddyletswydd i weithredu ar ran y cyhoedd.

"R诺an hyn dwi eisiau i'r cyhoedd fod a hyder yn y cyngor a dwi'n chwilio am dystiolaeth i brofi hynny."

'Croesawu rhagor o ymchwiliadau'

Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn: 鈥淏yddwn yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i gynorthwyo arbenigwyr annibynnol yr Adolygiad [Ymarfer Plant] i gwblhau eu gwaith.

"Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi ymrwymo'n llwyr i weithredu pob argymhelliad ddaw o鈥檙 broses ar unwaith."

Ychwanegodd y byddai'r cyngor yn "croesawu" rhagor o ymchwiliadau.

鈥淔el cyngor, rydym hefyd wedi datgan yn glir y byddwn yn ymrwymo鈥檔 llwyr i bob ymchwiliad ac adolygiad sydd eu hangen yn sgil yr achos difrifol hwn gan mai ein blaenoriaeth yw sefydlu鈥檙 holl ffeithiau a gwersi i鈥檞 dysgu o hynny," meddai'r arweinydd.

"Os bydd ymchwiliadau eraill o unrhyw fath yn cael eu sefydlu, byddwn yn croesawu hynny ac yn cefnogi eu gwaith yn llawn."

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes ei bod am gael "trafodaethau brys" gyda phanel yr Adolygiad Ymarfer Plant.

"Ers i'r datblygiadau sylweddol ddod i鈥檙 amlwg yr wythnos hon, rydw i wedi bod yn ystyried fy opsiynau, o ystyried cyfyngiadau鈥檙 amserlen yr aeth yr Adolygiad Ymarfer Plant ati i ddechrau ei chwmpasu," meddai.

"Fel Comisiynydd Plant Cymru, mae gen i bwerau i archwilio achosion unigol neu adolygu gweithredoedd rhai cyrff cyhoeddus, ond dim ond pan nad yw asiantaeth neu broses adolygu arall yn edrych ar hyn.

"Felly er mwyn i mi sefydlu a oes sail gyfreithiol i mi ymgymryd 芒鈥檓 gwaith fy hun ar hyn, rwyf am gael trafodaethau brys gyda鈥檙 Panel Adolygu i gael eglurhad ynghylch a yw cylch gorchwyl yr adolygiad, gan gynnwys yr amserlen, yn mynd i newid yn sgil datblygiad yr wythnos hon, ac a fyddant yn archwilio set ehangach o amgylchiadau neu bryderon.

"Rwyf hefyd yn ceisio am eglurhad gan Heddlu Gogledd Cymru ynghylch a oes unrhyw achosion troseddol pellach yn cael eu hystyried yn sgil datblygiadau diweddar."

Galw am ddiddymu ei bensiwn

Mae Liz Saville Roberts yn galw hefyd am ddiddymu pensiwn y cyn-brifathro.

"Dwi'n falch hefyd i ddweud fy mod i a nifer o Aelodau Seneddol yn y gogledd-orllewin yn cefnogi undeb athrawon NASUWT sy'n rhoi pwysau ar Weinidog Addysg San Steffan - oherwydd mai nhw'n sy'n gyfrifol am bensiynau - a thynnu pensiwn cyhoeddus Neil Foden oddi arno fo," esboniodd.

"Os ydy'r ffordd mae o wedi troseddu wedi tanseilio hyder y cyhoedd mewn gwasanaeth cyhoeddus, mae 'na le i gwestiynu i weld a oes modd fforffedu ei bensiwn.

"Dwi'n meddwl bod hwnna'n gam gwbl angenrheidiol yn y sefyllfa yma."

Cysylltodd 大象传媒 Cymru gyda'r llywodraethau a'r awdurdod lleol ond maen nhw鈥檔 anghytuno ynghylch pwy sy'n gyfrifol am benderfynu ar ddyfodol pensiwn Foden.