大象传媒

Cyn-hyfforddwr Cymru, Kevin Bowring, wedi marw

Kevin Bowring Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-hyfforddwr Cymru, Kevin Bowring, wedi marw yn 70 oed.

Bowring oedd hyfforddwr llawn amser cyntaf Cymru pan ddechreuodd y swydd yn 1995.

Bu'n arwain Cymru mewn 29 o gemau lle welodd y t卯m yn ennill 15 g锚m, cyn ymddeol yn 1998.

Ym mis Medi 2001, fe wnaeth corff rygbi Lloegr, Yr Undeb Rygbi P锚l-droed (RFU), benodi Bowring fel eu pennaeth datblygu hyfforddwyr elitaidd.

Fe arhosodd Bowring gyda'r RFU hyd nes iddo ymddeol yn 2016 ond bu'n mentora hyfforddwyr ifanc, gan gynnwys treulio cyfnodau gyda hyfforddwyr rhanbarthol Cymru.

Cafodd ei eni yng Nghastell-nedd gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd.

Fe chwaraeodd ambell g锚m i d卯m profiadol Castell-nedd yn y rheng 么l gyda'i arwr Dai Morris, cyn-flaenasgellwr Cymru.

Pynciau cysylltiedig