Medal aur i'r Gymraes Emma Finucane ar y trac seiclo
- Cyhoeddwyd
Mae'r bencampwraig seiclo Emma Finucane, o Gaerfyrddin, wedi ennill y ras wib unigol ym Mhencampwriaeth Trac y Byd i gipio ei hail fedal aur yn y gystadleuaeth ar 么l ei llwyddiant y llynedd.
Mae wedi bod yn flwyddyn arbennig i'r seiclwr 21 oed, a oedd yn rhan o'r triawd a enillodd fedal aur yn y ras wib i dimau a dwy fedal efydd yn y Gemau Olympaidd ym Mharis ym mis Awst.
Roedd Finucane yn rhy gryf i鈥檙 seiclwr o鈥檙 Iseldiroedd Hetty van de Wouw a Mina Sato o Japan a gurodd Sophie Capewell i gipio鈥檙 efydd yn y ras nos Wener.
鈥淢ae鈥檔 anodd iawn ceisio amddiffyn teitl a delio 芒 phwysau a disgwyliadau ond rydw i鈥檔 wirioneddol falch o鈥檙 person rydw i wedi dod yn gwneud hynny,鈥 meddai Finucane, a enillodd ei theitl ras wib cyntaf yng Nglasgow y llynedd.
"Roeddwn i wir ei eisiau. Does dim byd yn hawdd. Mae gorffen gyda'r aur yn wallgof, mae'n deimlad anhygoel. Yn fy mhen roeddwn i eisiau mynd i ryfel.
"Dyna'r math o ofod pen sydd gennych i ddechrau sbrintio. Dydw i ddim yn berson ymosodol naturiol ond allan ar y trac rwy'n wahanol."
Daeth buddugoliaeth Finucane wrth i Brydain gasglu pum medal ar nos Wener lwyddiannus yn Ballerup, Denmarc.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst
- Cyhoeddwyd8 Awst
- Cyhoeddwyd5 Awst