Mwy o bensiynwyr yn hawlio budd-dal wedi ymgyrch
- Cyhoeddwyd
Ers mis Ionawr mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn dweud wrth bensiynwyr a ydyn nhw'n gymwys am gredyd pensiwn ai peidio.
O ganlyniad, mae henoed yr ardal wedi derbyn bron i 拢250,000 mewn budd-daliadau ychwanegol.
Y gaeaf hwn, bydd y mwyafrif o bensiynwyr yn colli lwfans tanwydd - oni bai eu bod yn derbyn credyd pensiwn.
Ond mae credyd pensiwn yn fudd-dal sy'n aml yn mynd heb ei hawlio.
Mae Policy in Practice, sy'n gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, yn dweud bod targedu pensiynwyr cymwys "ddwy i dair gwaith yn fwy effeithiol" wrth sicrhau bod pobl yn hawlio'r credyd.
Ar hyn o bryd, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn annog pensiynwyr i wirio a ydyn nhw'n gymwys mewn ymgyrchoedd cyffredinol.
- Cyhoeddwyd22 Medi
- Cyhoeddwyd11 Medi
- Cyhoeddwyd11 Medi
Gallwch hawlio credyd pensiwn os ydych chi'n derbyn y pensiwn gwladol ac ar incwm isel.
Dechreuodd Janette, sy'n 80 ac o'r Creunant yng Nghastell-nedd Port Talbot, hawlio'r credyd ar 么l clywed amdano ar raglen deledu.
"Ro'n i'n meddwl y gallen i fod yn gymwys felly edryches i mewn iddo fe ac ro'n i.
"Dwi ddim yn cael llawer bob mis ond mae werth e am y manteision sy'n dod gyda fe."
Ei neges i'r rhai sydd efallai'n gymwys yw i "fynd amdani".
"Does ganddoch chi ddim i'w golli. Tr茂wch amdano fe, mae'n ddigon syml."
Amcan Llywodraeth y DU yw bod 880,000 o bensiynwyr sy'n gymwys am y credyd pensiwn ond sydd ddim yn ei hawlio.
Felly fe fyddan nhw'n colli'r cyfle i gael y lwfans tanwydd y gaeaf hwn, yn ogystal 芒 nifer o fudd-daliadau eraill.
Yng Nghymru, mae oddeutu 拢117m o gredyd pensiwn yn mynd heb ei hawlio eleni.
Ond nid gofyn i bensiynwyr edrych i weld a ydyn nhw'n gymwys yw'r ffordd fwyaf effeithiol i annog hawlio credyd pensiwn, yn 么l Rachael Walker o Policy in Practice.
"Mae ymgyrchoedd lleol wir yn targedu a chanfod y bobl yna rydyn ni'n gwybod trwy'r data sy'n gymwys," meddai.
"Beth ry'n ni'n gwneud gyda'r ymgyrchoedd lleol yw cymryd y cyfrifo yn y pen i ffwrdd, a'r ofn y gallai rhywun ymgeisio a chael ei wrthod."
- Cyhoeddwyd22 Awst
- Cyhoeddwyd23 Awst
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn rhedeg yr ymgyrch ers mis Ionawr.
Yn y saith mis cyntaf mae 73 o gartrefi wedi cael 拢232,326 yn ychwanegol mewn credyd pensiwn, yn ogystal 芒 bod yn gymwys am 拢14,600 mewn lwfans tanwydd.
"Rydyn ni'n credu ei fod wedi bod yn ddechrau da, ond dim ond y dechrau yw hyn," meddai'r Cynghorydd Simon Knoyle, aelod o'r cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol.
"Ry'n ni'n gobeithio dod o hyd i fwy o bobl sy'n gymwys a heb hawlio eto er mwyn eu harwain i'r cyfeiriad cywir i gael y budd-daliadau yna."
Y cynllun yn 'fan cychwyn'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Alun Llewelyn, fod "73 o deuluoedd neu unigolion" wedi cael help drwy'r cynllun gan y cyngor.
"Fi'n gweld hwn fel man cychwyn," meddai gan ychwanegu fod y cyngor "am barhau 芒'r gwaith yma a hybu ymwybyddiaeth ohono fe, a ni'n gobeithio y gallwn ni helpu llawer llawer mwy."
Dywedodd fod "bron chwarter miliwn o bunnoedd wedi ei glustnodi i helpu'r teuluoedd hynny yn barod" ond roedd o'r farn fod nifer o deuluoedd ac unigolion "ddim yn sylweddoli bod nhw'n gymwys i hawlio credyd pensiwn".
"Os ni'n gallu helpu nhw i gael y credyd pensiwn, mae hwnna'n gyfystyr 芒 thua 拢65 yr wythnos, sy'n 拢4,000 y flwyddyn - ffigwr sylweddol," meddai.
Wrth annog cynghorau eraill i ddilyn yr un drefn, gobaith y cyngor yw sicrhau fod mwy o deuluoedd a phensiynwyr yr ardal yn manteisio ar y cynllun.
Gyda biliau ynni ar gynnydd, mae Age Connects yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gefnogol o'r ymgyrch.
Maen nhw'n annog pensiynwyr i ddod atyn nhw i gael cymorth gyda'r ffurflenni i wneud cais am gredyd pensiwn.
"Does dim byd i'w golli o wneud cais gyda aelod o鈥檔 staff ni," eglura Katrin Shaw, un o ymddiriedolwyr yr elusen.
"Mae鈥檔 bosib bod hawl i bobl gael y credyd pensiwn ac efallai bydd hynny鈥檔 gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl dros y gaeaf."
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2023
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod yn cydweithio ag awdurdodau lleol i annog pensiynwyr i wirio a ydyn nhw'n gymwys am y credyd pensiwn ac i wneud cais.
Maen nhw wedi gweld "cynnydd o 115%" yn yr hawliadau, bum wythnos ar 么l i'r Canghellor gyhoeddi newidiadau i daliadau tanwydd y gaeaf.
Maen nhw'n annog "unrhyw un sy'n meddwl eich bod yn gymwys i hawlio credyd pensiwn" i wirio hynny nawr.
Y dyddiad olaf i hawlio credyd pensiwn a bod yn gymwys am y lwfans tanwydd hefyd yw 21 Rhagfyr.
Gallwch wirio a ydych chi'n cael yr holl fudd-daliadau sydd ar gael i chi trwy gysylltu 芒 llinell gymorth .