Gwahardd cynghorydd am rannu neges 'sarhaus' am Israel
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd tref yn y gogledd wedi cael ei gwahardd gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar 么l iddi rannu neges ar wefan X oedd, yn ymddangos, yn dathlu ymosodiad Hamas ar Israel fis Hydref diwethaf.
Leena Sarah Farhat, sy鈥檔 aelod o gyngor tref Llanfairfechan, oedd ymgeisydd y blaid yn Ynys M么n yn yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru ei bod yn ymddiheuro am y "camgymeriad", gan gydnabod bod y neges yn "hollol amhriodol".
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid fod y neges wreiddiol yn "sarhaus iawn ac yn annerbyniol".
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020
Lladdwyd tua 1,200 o bobl yn ystod yr ymosodiad ar 7 Hydref 2023, a alwodd Hamas yn "Operation al-Aqsa Flood".
Cymerodd Hamas 251 o wystlon hefyd, ac mae 97 ohonynt yn parhau ar goll.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae bron i 42,000 o bobl wedi cael eu lladd yn ystod ymosodiad Israel yn Gaza, yn 么l y weinyddiaeth iechyd sy鈥檔 cael ei rheoli gan Hamas.
Sylwadau 'amhriodol'
Rhannodd Farhat neges o gyfrif X gwahanol union flwyddyn wedi'r ymosodiadau gan Hamas.
"Operation Al-Aqsa Flood yw un o'r gwrthryfeloedd gwrthdrefedigaethol pwysicaf, dewr ac ysgytwol ein hoes," meddai'r neges.
"Ar doriad gwawr fe wnaethon nhw daro drwy'r mur trefedigaethol, gan drechu a tharo'r teyrn Goliath gyda mellten... Hir oes i'r gwrthsafiad."
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol fod y neges yn "sarhaus iawn ac annerbyniol" ac nad oedd yn "adlewyrchu gwerthoedd ein plaid".
鈥淢ae鈥檙 person yma wedi ei gwahardd o鈥檙 blaid tra bod cwyn yn ei herbyn yn cael ei hymchwilio fel rhan o'n proses gwynion annibynnol,鈥 ychwanegodd.
Dywedodd Farhat wrth 大象传媒 Cymru: 鈥淔e wnes i gamgymeriad. Fe wnes i aildrydar rhywbeth a dad-drydarais ef cyn gynted ag y sylweddolais ond mae hynny'n amlwg yn aros ar linell amser pobl am gyfnod.
鈥淩oedd rhywun yn amlwg wedi dod o hyd iddo ac wedi cyflwyno cwyn, sy鈥檔 gyfiawn, a鈥檙 cyfan y gallaf ei wneud yw ymddiheuro.
鈥淩oedd yn gwbl amhriodol," meddai.