大象传媒

Ffermwr o F么n yn euog o droseddau lles anifeiliaid

Daniel Jones a'i bartner Ellis Judson yn gadael y llys ddydd Llun
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daniel Jones a'i bartner Ellis Judson yn gadael y llys ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr o Ynys M么n wedi cyfaddef achosi dioddefaint i wartheg yn ddiangen yn dilyn marwolaethau pum anifail, gan gynnwys tri y bu'n rhaid eu difa.

Fe wnaeth Daniel Jones, 30, bledio'n euog i 13 o gyhuddiadau, gan gynnwys achosi dioddefaint i wartheg, methu 芒 sicrhau lles anifeiliaid, a pheidio 芒 chadw cofnodion cywir.

Mae'r cyhuddiadau'n ymestyn dros gyfnod rhwng Ionawr 2023 ac Ebrill 2024, pan yr oedd Jones yn cadw gwartheg ym Modafon y Glyn ger Llannerch-y-Medd.

Dywedodd y barnwr wrth Lys y Goron Caernarfon ddydd Llun ei bod hi bron yn anochel fod Jones yn wynebu cyfnod yn y carchar pan fydd yn cael ei ddedfrydu ar 3 Hydref.

Mae partner Jones, Ellis Judson, hefyd yn wynebu 12 o gyhuddiadau tebyg, ond clywodd y llys na fyddai'r erlyniad yn cynnig unrhyw dystiolaeth yn ei herbyn, ac mae disgwyl iddi ei chael yn ddieuog yn ffurfiol fis nesaf.

Ar 13 Ionawr 2023, cafodd 84 o loi eu canfod heb dd诺r gl芒n, neu unrhyw fynediad at dd诺r o gwbl.

O ganlyniad, roedd tri llo angen triniaeth gan y milfeddyg.

Ar yr un diwrnod, cafodd pedair buwch eu darganfod "yn denau ac angen d诺r" gyda phob un yn methu 芒 sefyll. Roedd yn rhaid difa tri o'r pedwar.

Ym mis Ionawr fe gafodd cyrff "o leiaf 18 o wartheg a lloi, a nifer anhysbys o garcasau" eu darganfod wedi "eu claddu mewn tomen tail a'r hen gronfa silwair".

Fis yn ddiweddarach, cafodd milfeddygon eu galw gan fod llo a buwch wedi eu canfod yn methu 芒 sefyll a heb fynediad at dd诺r. Bu farw'r ddau anifail yn ddiweddarach.

'Achos difrifol'

Clywodd y gwrandawiad, a gafodd ei gynnal yn Llandudno, fod Jones yn gweithio i wella'r amgylchiadau ar y fferm, ac o ganlyniad ni fyddai'n cael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid yn y dyfodol.

Fe gafodd yr achos ei ohirio nes 3 Hydref pan fydd Jones yn cael ei ddedfrydu.

Dywedodd y barnwr Timothy Petts: "Mae hwn yn achos difrifol o ystyried nifer yr anifeiliaid.

"Bydd rhaid penderfynu os fydd y ddedfryd o garchar yn cael ei gohirio neu ddim."

Cafodd Ms Judson wybod y byddai'n ei chael yn ddieuog yn ffurfiol fis nesaf.

Dywedodd Jones wedi'r gwrandawiad bod Ms Judson yn disgwyl babi yn y cyfnod dan sylw.

Pynciau cysylltiedig