Gemau'r Gymanwlad yn 'gyfle pwysig i roi Cymru ar y map'
- Cyhoeddwyd
Mae athletwraig o Gymru yn dweud fod cynnal Gemau'r Gymanwlad yn "gyfle pwysig i roi Cymru ar y map".
Daw sylwadau Hannah Brier wedi rhywfaint o ansicrwydd am leoliad y gemau nesaf ar 么l i dalaith Victoria yn Awstralia dynnu 'n么l oherwydd costau uchel.
Ddydd Mawrth, daeth cadarnhad y bydd Gemau'r Gymanwlad yn 2026 yn cael eu cynnal yn Glasgow.
Gan mai dim ond cyfnod byr sydd gan yr Albanwyr i baratoi, bydd y gemau ar raddfa lai na'r arfer - ac yn cynnwys llai o gampau.
Y gred yw y bydd y digwyddiad yn cynnwys rhwng 10 a 13 o gampau, o'i gymharu 芒 18 o gampau yn 2014.
Mae Hannah Brier - y gwibiwr 100 a 200m - yn un sydd 芒'i golygon ar gystadlu yn y gemau ymhen dwy flynedd.
Y tro diwethaf i'r gemau ymweld 芒 Glasgow yn 2014, oedd y tro cyntaf iddi gystadlu yn y gemau a hithau ond yn 16 oed ar y pryd.
Roedd hi hefyd yn rhan o d卯m Cymru yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad yn 2022.
Dywedodd mai Gemau'r Gymanwlad yw'r "unig siawns s'da pobl sy'n neud athletau yng Nghymru i gystadlu dros Gymru mewn pencampwriaeth" o'r fath.
Yn sgil yr ansicrwydd diweddar yngl欧n 芒 lleoliad y gemau, dywedodd Ms Brier fod y cyfnod yma wedi achosi tipyn o boen meddwl.
"O'n i methu neud dim byd i 'neud gwahaniaeth, jyst gobeithio fod y gemau yn mynd yn eu blaen".
Er iddi gydnabod fod "cynrychioli Prydain yn fraint enfawr" dywedodd "does dim byd yn cwrdd 芒'r teimlad o roi crys Cymru arno... s'dim byd yn gallu cymharu 'da fe... mae'n amazing".
"Dwi wedi cael fy nghodi lan yng Nghymru, dwi'n Gymraes a dwi mor browd o hwnna".
Digwyddiad ar raddfa lai
Dywedodd llywydd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, Chris Jenkins, y bydd Glasgow yn cynnal digwyddiad "o'r radd flaenaf" gan osod safon ar gyfer y dyfodol.
Nododd y byddai cyllid ychwanegol gan Awstralia yn cefnogi'r cais i ddod 芒'r gemau i'r Alban.
Roedd yn mynnu na fyddai'r gemau angen gwariant gan lywodraethau'r Alban neu'r DU, ac yn hytrach, byddai'n cael ei ariannu gan fuddsoddiad o 拢100m gan Ffederasiwn y gemau Olympaidd, yn ogystal ag incwm preifat.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Gemau'r Gymanwlad Awstralia gynnig "pontio unrhyw ddiffyg ariannol".
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cynnig 拢2.3m i helpu gyda chostau iechyd a diogelwch gan alw ar Lywodraeth yr Alban i wneud yr un peth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022