´óÏó´«Ã½

Y fro Gymraeg: Dirywiad yn 'peryglu ei dyfodol fel iaith genedlaethol'

Protest hawl i fyw mewn cymunedau Cymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Prif neges adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yw bod angen atebion penodol ar gyfer cymunedau Cymraeg mewn meysydd sy'n effeithio ar yr iaith bob dydd

  • Cyhoeddwyd

Mae "unrhyw ddirywiad i’r Gymraeg yn y cymunedau Cymraeg dwysedd uwch yn peryglu ei dyfodol fel iaith genedlaethol" yn ôl Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg.

Fe ddangosodd data Cyfrifiad 2021 bod yr iaith yn colli tir yn y fro Gymraeg yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr.

Dywedodd Mr Drakeford y bydd y llywodraeth yn ymateb i 57 argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg "yn gynnar yn y flwyddyn nesaf".

Roedd y Comisiwn dan gadeiryddiaeth Dr Simon Brooks yn dweud bod angen dynodi "ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch" i gryfhau'r iaith fel un gymunedol.

Ond ychwanegodd Dr Brooks wrth gyhoeddi'r adroddiad ym mis Awst, "dyw e ddim yn fater o ddweud bod y naill gymuned yn bwysicach na'r llall, dydyn nhw ddim".

‘Prosiect Bro’

Nod y comisiwn oedd ymateb i’r lleihad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad yr iaith, neu ble bu hynny'n wir tan yn gymharol ddiweddar.

Dywedodd Mr Drakeford wrth y Senedd brynhawn Mawrth y bydd ail gam y Comisiwn "yn edrych ar y Gymraeg yn yr ardaloedd hynny sydd wedi colli’r Gymraeg fel iaith gymunedol ond bod adfywiad wedi bod yn rhai o’r ardaloedd hyn yn ddiweddar.

"Bydd y Comisiwn yn edrych ar ein polisi a’n rhaglenni gwaith er mwyn deall sefyllfa’r Gymraeg yn yr ardaloedd hyn hefyd".

Cyhoeddodd hefyd bod y llywodraeth yn gweithio ar ‘Prosiect Bro’ er mwyn "deall yn well beth yw’r sefyllfa a’r heriau yn y cymunedau Cymraeg dwysedd uwch".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bil y Gymraeg ac Addysg yn mynd trwy'r Senedd ar hyn o bryd

Mae'n brosiect sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar y cyd gyda Phrifysgol yr Ynysoedd a’r Ucheldiroedd a Choleg Crist Rhydychen i gynnal arolwg sosioieithyddol, gan adeiladu ar waith tebyg sydd wedi ei wneud yn Iwerddon a’r Alban.

"Dyma’r tro cyntaf i’r fethodoleg gael ei defnyddio yng Nghymru," meddai Mr Drakeford am y prosiect tair blynedd fydd yn cyflwyno adroddiad terfynol i Lywodraeth Cymru yn 2026.

"Fy ngobaith i yw y bydd Prosiect Bro hefyd yn adrodd y stori y tu ôl i’r ystadegau, pwy sy’n siarad Cymraeg, ble maen nhw’n ei siarad hi, a beth allwn ni ei wneud i’w helpu nhw ei siarad hi’n amlach," meddai'r cyn-brif weinidog.

Ychwanegodd y bydd Bil y Gymraeg ac Addysg, sy'n mynd trwy'r Senedd ar hyn o bryd, "yn sicr yn creu cyfle i bontio rhwng y byd addysg a’r byd gwaith".

Dywedodd Tom Giffard ar ran y Ceidwadwyr ei fod yn "croesawu" Prosiect Bro, oherwydd "mae yna fwy na jest ystadegau ond straeon i egluro pam fod pobl yn gadael cymunedau.

"Mae hwnna’n bwysig iawn os dydyn ni fel gwleidyddion yn mynd i sôn am bolisïau newydd o ran beth sy’n gweithio a beth sydd ddim."

Ychwanegodd: "Y peth mwyaf pwysig yw bod addysg Gymraeg ar gael i’r bobl sydd yn ei moyn hi, a dyw hwnna ddim yn mynd i ddigwydd heb athrawon."

Ar ran Plaid Cymru, fe wnaeth Heledd Fychan groesawu'r ffaith y bydd ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ymchwilio i ardaloedd sydd â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg.

"Mi fyddwn i'n dadlau, efallai fel rhywun o Ynys Môn yn wreiddiol, ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mhontypridd, fod rôl y Gymraeg yn y cymunedau hyn yn eithriadol o bwysig," meddai.

"Mae yna gymuned Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, nid jest y mater o ran faint sydd yna yn gallu siarad a chael y cyfleoedd felly drwy'r system addysg, ac i weithio yn y Gymraeg hefyd."

Rhybuddiodd: "Mae'n glir felly o'r adroddiad hwn bod gwneud fel yr ydym ar y funud ddim am gyflawni nod Cymraeg 2050", sef y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg.

Sir Gaerfyrddin welodd y gostyngiad mwyaf yn y ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021 - gostyngiad o 43.9% yn 2011 i 39.9% yn 2021. Sir Gâr welodd y gostyngiad mwyaf rhwng Cyfrifiad 2001 a 2011 hefyd.

Roedd y canrannau uchaf o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yng ngogledd orllewin Cymru, gyda 64.4% yng Ngwynedd a 55.8% yn Ynys Môn.

Roedd pob awdurdod lleol wedi gweld gostyngiad yng nghanran y plant tair i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021.