Monty Python: Codi 拢100,000 at gerflun Terry Jones ym Mae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae ap锚l codi arian i greu cerflun efydd i goffau un o s锚r Monty Python yn ei dref enedigol yng ngogledd Cymru wedi llwyddo i gasglu bron i 拢100,000.
Mae ymgyrch Python on the Prom, sydd wedi denu cefnogaeth gan actorion megis Emma Thompson a Steve Coogan, yn gobeithio codi 拢120,000 i ddylunio a chreu cerflun o Terry Jones ar y promen芒d ym Mae Colwyn.
Yn 77 oed bu farw Terry Jones o fath prin o ddementia yn 2020.
Gyda bwriad i gynnal arddangosfa yn y dref fis nesaf, mae ei deulu wedi darparu dwsinau o luniau ac eitemau nas gwelwyd o'r blaen o'i archif personol.
'Llwyth o syniadau'
Fe lansiwyd yr ymgyrch mis Medi gan blant Terry Jones, Sally a Bill.
Dywedodd Sally Jones eu bod wedi cael sawl awgrym am sut y dylai'r cerflun edrych.
鈥淧an rydych chi鈥檔 cychwyn ymgyrch fel hon does gennych chi ddim syniad beth fydd yr ymateb ac mae wedi bod yn hynod gadarnhaol.
"Mae pobl ledled y byd ar gyfryngau cymdeithasol yn siarad am yr ymgyrch, gyda llwyth o syniadau am yr hyn y dylai'r cerflun fod."
Ychwanegodd: "Rydyn ni eisiau gwneud ychydig o ymgynghori, ond rydyn ni hefyd yn gweithio gyda'r artist Nick Elphick i edrych ar wahanol ystumiau a gweld sut y gallai'r cerflun weithio orau ar y prom sy'n edrych allan i'r m么r."
Yn gweithio gyda nhw ar y cynllun mae Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy.
Dywedodd cadeirydd y gr诺p, Dilwyn Price, eu bod wedi "rhyfeddu" at lwyddiant yr ymgyrch hyd yma.
"'Da ni bron wedi cyrraedd 拢100,000, sy'n anhygoel o swm," meddai.
"Mae bob dim i'w weld yn mynd yn dda a 'da ni'n edrych ymlaen wrth gwrs at gyrraedd y nod."
Dywedodd i Terry dreulio ei bum mlynedd cyntaf yn byw yn Hen Golwyn, a'i fod yn "Gymro i'r carn".
"Roedd Terry a John Cleese yn cael sgyrsiau difyr iawn am Gymru a Lloegr," ychwanegodd Dilwyn.
"Roedd yn gefnogol tu hwnt i Theatr Colwyn... roedd ei daid yn arwain y gerddorfa yn y theatr ei hun ac roedd ei nain a'i fodryb yn canu a dawnsio ar y llwyfan."
- Cyhoeddwyd5 Medi
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2020
'Roedd gan Terry angerdd am fywyd'
Mae teulu Terry Jones hefyd wedi agor ei archif bersonol o luniau o bob cyfnod o鈥檌 fywyd i鈥檞 harddangos yn Oriel Colwyn fis nesaf.
Mae'r curadur Paul Sampson yn mynd drwy gannoedd o luniau ac eitemau cofiadwy i benderfynu pa rai fydd yn cael eu harddangos.
Dywedodd Sally Jones fod y teulu wedi dod ar draws llawer o ddeunydd ers etifeddu archif ei thad.
"Roedd Dad yn dda iawn am gadw popeth mewn trefn, ond rydw i'n agor ffeiliau ac mae pethau anhygoel yn popio allan.
"Felly dwi newydd ddod 芒 ch锚s llawn arall o Lundain i Paul ei weld."
Ychwanegodd Paul Sampson: "Roedd gan Terry angerdd am fywyd, wnes sylwi ar hynny pan wnes i gyfarfod ag o ychydig o weithiau, a gallaf weld hynny yn y lluniau hyn.
"Alla'i weld yr angerdd a'r cariad hwnnw at fywyd ac at gomedi."