大象传媒

'Angen trin dyfarnwyr p锚l-droed gyda mwy o barch'

Dyfarnwr p锚l-droedFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dyfarnwyr p锚l-droed llawr gwlad yng Nghaerdydd wedi dewis peidio 芒 chymryd rhan mewn gemau y penwythnos hwn mewn ymateb i achosion diweddar o gamdriniaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae dau o'r cynghreiriau sy'n cael eu heffeithio gan streic dyfarnwyr p锚l-droed yng Nghaerdydd y penwythnos hwn wedi gohirio eu gemau.

Mae cynghreiriau'r Cardiff Combination a Chynghrair Dydd Sul Lazarou wedi dweud eu bod nhw wedi gwneud hynny i gefnogi safiad y dyfarnwyr.

Dyw Cynghrair Rhanbarth Caerdydd (Cardiff and District) ddim wedi gohirio gemau ond maen nhw wedi dweud wrth dimau nad oes raid iddyn nhw chwarae.

Ddechrau'r wythnos fe gyhoeddodd Cymdeithas Dyfarnwyr Caerdydd na fydden nhw'n cymryd rhan mewn gemau y penwythnos hwn mewn ymateb i achosion diweddar o gamdriniaeth.

Fe ddaeth y cyhoeddiad yn dilyn ymosodiad honedig ar ddyfarnwr yn dilyn g锚m brynhawn Sul.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Ifan Emyr bod ei d卯m, CPD Treganna, yn cefnogi safiad y dyfarnwyr, er y siom o fethu cyfle i chwarae

Un o'r timau sydd wedi eu heffeithio yw CPD Treganna - t卯m newydd a gafodd ei sefydlu gan griw o ffrindiau dros yr haf. Maen nhw'n cystadlu yng Nghyngrair Cardiff Combination.

"Da' ni'n gutted - dan ni ishe chwarae pob penwythnos," meddai'r chwaraewr canol cae, Ifan Emyr.

Er hynny, meddai, mae'r t卯m yn cefnogi streic y dyfarnwyr.

"Mae dyfarnwyr yn caru eu swydd nhw gymaint ag ydan ni'n caru chwarae p锚l-droed. Maen nhw isho bod yna.

"Maen nhw'n cymryd amser mas dydd Sadwrn a dydd Sul i wneud y gwaith. Maen nhw angen cael eu trin gyda mwy o barch."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna beryg na fydd dyfarnwyr eisiau cario ymlaen os yw pobl yn parhau i'w sarhau, medd Owen Edwards

"Mae'n bwysig iawn bod y refs yn cael ein cefnogaeth," meddai Owen Edwards, is-gapten y t卯m.

"Ar y cyfan mae ymddygiad pobl yn ein gemau ni wedi bod yn iawn ond mae 'na rai yn meddwl eu bod nhw'n gallu siarad 芒'r dyfarnwr fel maen nhw isho...

"Os yw hwnna am gario 'mlaen bydd mwy o refs yn stopio dyfarnu neu bydd mwy o streics maes o law."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Arweiniad o'r top a chosb mwy difrifol ar dimau ar ddechrau'r tymor" fyddai'n newid ymddygiad at ddyfarnwyr, medd David Morgan

Mae Cynghreiriau Cardiff Combination a Chynghrair dydd Sul Lazarou wedi gohirio gemau'r penwythnos er mwyn dangos cefnogaeth i'r dyfarnwyr.

Dywed Cynghrair Rhanbarth Caerdydd nad yw'r streic yn cael llawer o effaith arnyn nhw am fod timau'n gyfarwydd gyda chwarae heb ddyfarnwyr swyddogol bob penwythnos.

Maen nhw wedi dweud y gall timau ddewis a ydyn nhw am chwarae. Mae gwrthwynewbyr Clwb Sparta wedi dewis peidio chwarae.

Tra'n cydymdeimlo gyda'r dyfarnwyr maen nhw'n amau gwerth y streic.

"Dyw canlso un penwythnos ddim yn mynd i wneud llawer o wahaniaeth," meddai rheolwr y clwb, David Morgan.

"Mae angen arweiniad o'r top a chosb mwy difrifol ar dimau ar ddechrau'r tymor er mwyn newid eu hymddygiad."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n bryder gan Cobi Flowers nad yw pawb yn cymryd y sefyllfa gwbl o ddifri

Mae Cadeirydd Sparta, Cobi Flowers, yn poeni nad yw timau yn cymryd y sefyllfa o ddifri.

Mae sawl t卯m wedi trefnu gemau gyfeillgar dros y penwythnos, meddai.

"A fydd y timau wedi newid, neu wedi cymryd unrhyw sylw o beth sydd wedi digwydd yr wythnos yma os maen nhw'n chwarae friendlies dros y penwythnos? Sa i'n si诺r," meddai.

'Mae pawb yn gwneud camgymeriadau'

Mae Matthew Jones wedi bod yn dyfarnu yn y gogledd ers 20 mlynedd, a dyw e ddim yn synnu fod dyfarnwyr Caerdydd wedi gweithredu.

Bu bron i ddyfarnwyr Eryri wneud yr un peth ychydig flynyddoedd yn 么l, meddai.

"Nid chwarae bach ydy gwneud rhywbeth fel hyn - mae 'na potential neith cymdeithasau eraill ddilyn yr un trywydd oni bai bod pethe'n gwella," dywedodd.

Mae e am weld y Gymdeithas B锚l-droed yn ganolog yn ymdrin 芒 honiadau o fygwth, yn hytrach na'r cymdeithasau lleol.

Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, meddai, ac mae angen derbyn fod hynny'n rhan o'r g锚m.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Ti'm yn mynd ar gae p锚l-droed i benderfynu bod ti am gosbi rhif saith am faglu rhywun neu be bynnag - ti jyst yn trio dy orau i reoli'r g锚m fel ti'n ei weld o.

"Y gwir ydy mi wyt ti'n 'neud camgymeriadau - llawer o gamgymeriadau - bob dydd Sadwrn a dyna sydd eisiau i chwaraewyr gofio."

Ar ddiwedd y dydd, meddai Owen Edwards o GPD Treganna, dim ond g锚m yw hi.

"Mae pawb ishe ennill ond dydyn ni ddim mewn Champion's League final - mae pawb yn chwarae am hwyl."