Gwynoro Jones 'ddim yn difaru gadael y Blaid Lafur'
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-Aelod Seneddol Llafur Gwynoro Jones yn dweud nad yw'n difaru gadael y blaid ym 1981, gan awgrymu ei fod yn anghytuno gyda'u safbwynt ar sawl mater ar y pryd.
Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement ar 大象传媒 Radio Wales, dywedodd Mr Jones - gafodd ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin yn Nh欧鈥檙 Cyffredin yn 1970 a 1974 - fod gwahaniaeth barn yngl欧n 芒 datganoli, y farchnad gyffredin a'r iaith yn gwneud pethau'n "anodd" iddo.
"Wi'n cofio'r ddyddie 'na - o 67 i ddechrau'r 80au - fel cyfnod lle roeddwn i'n ymladd Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, doedd Llafur a fi ddim yn yr un man nes cyfnod John Smith a Tony Blair," meddai.
Yn y cyfweliad mae Gwynoro Jones hefyd yn trafod ei frwydrau gwleidyddol yn erbyn Gwynfor Evans, a'i berthynas gydag "etholaeth arbennig" Caerfyrddin.
- Cyhoeddwyd28 Chwefror
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2016
Mae buddugoliaeth Gwynfor Evans yn isetholiad Caerfyrddin ym mis Gorffennaf 1966 yn cael ei ystyried ymhlith y digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.
Dyma oedd y sedd gyntaf erioed i Blaid Cymru ei chipio, ond yn 么l Mr Jones, ni ddylai hynny erioed fod wedi digwydd:
"Bu farw'r Fonesig Megan (Lloyd George) yn sydyn ar 么l ennill mwyafrif o 9,000, ond dylai hi erioed wedi cael sefyll - roedd hi ar ei gwely angau mewn gwirionedd," meddai.
"Gwilym Prys Davies oedd yr ymgeisydd mwy neu lai, a'r hyn dylai fod wedi digwydd, yw dweud wrth Megan ei bod hi'n well pe bai hi ddim yn sefyll, ac mi fyddai Gwilym wedi ennill.
"Ond pwy oedd am ddweud wrth merch David Lloyd George eu bod nhw'n methu sefyll - roedd yn amhosib!
"Felly pan fu hi farw, roedd nifer o bobl wedi eu siomi, yn teimlo bod y blaid wedi eu camarwain ac wedi eu gadael i lawr, a dyna pryd ddechreuodd y cyfan."
Dywedodd fod buddugoliaeth Gwynfor Evans wedi newid yr awyrgylch o fewn etholaeth Caerfyrddin.
"Roedd yn gyfnod chwerw, cyfnod rhanedig ac yn aml iawn yn gyfnod eithaf cythryblus," meddai.
"Doedd hi ddim cweit fel bod pentrefi wedi eu rhannu yn un garfan neu'r llall, ond mi oedd 'na unigolion yng Nghefneithin a Foelgastell - yr enwog Jac a Wil er enghraifft.
"Roedd Jac yn ddyn Plaid Cymru mawr, a nes i dreulio llawer o amser gyda fe... ac ro'n i'n mwynhau ei gwmni. Roedden ni'n goddef ein gilydd - doedd hi ddim yn ddrwg os oeddech chi'n ffrindiau, ond os oeddech chi'n elynion o'r cychwyn, roedd e'n gallu bod yn ddrwg!"
Ychwanegodd fod y Blaid Lafur yn benderfynol o rwystro Gwynfor Evans gan mai fo oedd y ffigwr amlycaf yr oedd gan Blaid Cymru drwy'r wlad.
'Roedd gen i deimlad fy mod i mewn trwbl'
Yn 么l Mr Jones, fe wnaeth o ennill yr etholiad ym 1970 oherwydd cyfuniad o "waith caled a chamgymeriadau" gan Gwynfor Evans.
Nododd hefyd nad oedd o erioed wedi bwriadu bod yn wleidydd, ond bod y Blaid Lafur wedi awgrymu y byddai'n "fuddsoddiad ar gyfer y dyfodol" oherwydd ei gefndir amaethyddol, glofaol ac addysgol yn ogystal 芒'r ffaith ei fod yn Gymro Cymraeg.
Fe lwyddodd i gadw ei afael ar y sedd yn etholiad mis Chwefror 1974 - a hynny o drwch blewyn. Roedd gan y Blaid Lafur fwyafrif o dair pleidlais.
"Ro'n i'n gyfforddus iawn hyd at Chwefror 74, do'n i heb weld gormod o arwyddion y byddai hi'n rhy agos. Efallai fy mod i'n ddall, ond ro'n i'n hyderus iawn."
Yn ei lyfr newydd, 'Only Three Votes: The Battle for the Political Soul of Wales in 1970s Carmarthen', mae Gwynoro Jones yn s么n am r么l ei wraig ar noson yr etholiad: "Roedd gen i deimlad fy mod i mewn trwbl, a daeth na neges drwodd bod tair menyw o stad cyngor yn y dref heb bleidleisio.
"Off a hi wedyn (ei wraig) i gnocio ar eu drysau, a gofyn iddyn nhw roi eu cotiau a'u sgidiau ymlaen dros eu dillad nos er mwyn dod allan i bleidleisio."
"Efallai nad oeddwn i wedi rhoi digon o gefnogaeth i'r glowyr yn ystod y streiciau yn y cyfnod yna, doeddwn i ddim yn cefnogi streicio anghyfreithlon, a dwi'n meddwl fy mod i wedi colli 1,000 - 2,000 o bleidleisiau yn Llandybie a Brynaman oherwydd hynny."
Pwysleisiodd Gwynoro Jones pa mor falch oedd o i fod wedi gallu cynrychioli etholaeth Caerfyrddin.
"Mae'n etholaeth arbennig, does dim dwywaith am hynny, ac un o'r rhesymau mawr am hynny yw bod yr etholaeth a'r etholwyr yn rhanedig.
"Ond yn dweud hynny, mae 'na lot fawr o ddatganolwyr y tu mewn i'r Blaid Lafur yng Nghaerfyrddin, ond mae'r tensiwn yma rhwng y blaid a Llafur wedi bodoli nawr ers dyddiau Gwynfor a fina - a sain gwybod os gorffennith e.
"Dyna le dechreuodd e, dyna le oedd y crucible, a dyna pam fod Mark Drakeford yn dweud yn y llyfr - 'os chi am wybod am Gymru heddiw, darllenwch am y blynyddoedd hynny'."
Ychwanegodd fod y bwrlwm a'r angerdd dros wleidyddiaeth yn parhau yn gryf yn ardal heddiw.
"'O'n i'n glanhau beddi ger Foelgastell yn ddiweddar... fe basiodd boi heibio, cyn-brifathro ysgol Cefneithin, doeddwn i heb ei weld ers blynyddoedd, a dyma fe'n gofyn 'pam arhoses di ddim yn 79? Oeddet ti'n dwp.
"Ond meddyliwch am hynny, 50 mlynedd yn ddiweddarach a dyma oedd ar ei feddwl e!
"Mae hanes i'r etholaeth, ma' 'na hanes i wleidyddiaeth yr etholaeth."
Fi a'r Blaid Lafur 'ddim yn yr un man'
Fe adawodd Gwynoro Jones y Blaid Lafur ym 1981 pan ffurfiwyd plaid yr SDP, ond mae'n mynnu nad yw hynny yn rhywbeth mae o'n ei ddifaru.
"Wi'n difaru falle bo' fi ddim wedi aros yn 79 a gweld yr holl broses trwyddo ac ailennill Caerfyrddin, ond byddwn i wedi gadael y blaid yn 82 neu 83 beth bynnag.
"Ro'n i'n anghytuno gyda safbwynt y blaid - 'oedden nhw'n erbyn datganoli, ac yn erbyn y farchnad gyffredin. Roedd hi'n anodd yng Nghymru, yn rhanedig iawn o ran yr iaith ac o ran datganoli.
"Doedd y Blaid Lafur a fi ddim yn yr un man, a fuodd y Blaid Lafur a fi ddim yn yr un man nes John Smith a Tony Blair."
Ychwanegodd fod Cadeirydd Llafur yng Nghymru wedi dweud wrtho mewn digwyddiad yn haf 1974 bod nifer o aelodau asgell chwith y blaid am ei weld yn colli.
"Dwi'n aml yn meddwl, ai fi adawodd y Blaid Lafur, neu'r Blaid Lafur wnaeth fy ngadael i?"
Mae modd gwrando ar y cyfweliad yn llawn ar raglen Sunday Supplement ar wefan neu ap 大象传媒 Sounds.