大象传媒

Achosion o'r feirws Tafod Glas mewn tair dafad yng Ngwynedd

DefaidFfynhonnell y llun, Shaun Whitmore/大象传媒
  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檙 feirws Tafod Glas wedi cael ei ganfod mewn tair dafad sydd wedi鈥檜 symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr.

Dyma'r tro cyntaf i'r math 3 o'r Tafod Glas gael ei ddarganfod yng Nghymru.

Mae ffermwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus a phrynu anifeiliaid o ffynhonnell ddiogel.

Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu gan rai mathau o wybed sy'n brathu, ac yn effeithio ar anifeiliaid fel gwartheg, geifr, defaid, ceirw, alpacas a lamas.

Nid yw鈥檔 effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Gavin Watkins: "Byddwn yn rhoi mesurau ar waith i atal y clefyd rhag lledaenu o鈥檙 tair dafad yma, a鈥檔 nod ni o hyd yw cadw Cymru鈥檔 rhydd o鈥檙 tafod glas.

鈥淢ae鈥檔 bwysig siarad 葍鈥檆h milfeddyg, a phrynu anifeiliaid o ffynonellau diogel er mwyn diogelu ein buchesau a鈥檔 heidiau ac atal unrhyw ymledu pellach ar y clefyd allan o Gymru.鈥

Ychwanegodd: "Byddwn yn annog pob ffermwr a phawb arall sy'n cadw anifeiliaid cnoi cil a chamelidau i gadw llygad am arwyddion o鈥檙 tafod glas."

Ffynhonnell y llun, Sefydliad Pirbright
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n bosib i wybed m芒n heintio da byw gydag un brathiad

Mae achosion o BTV-3 wedi eu canfod yn nwyrain Lloegr dros y mis diwethaf.

Dywedodd Is-Lywydd yr undeb amaeth NFU Cymru, Abi Reader, bod hi'n "hanfodol ein bod oll yn parhau'n wyliadwrus rhag yr haint".

Ychwanegodd bod angen i ffermwyr gysylltu 芒'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn syth "os oes unrhyw bryderon y gallai'r clefyd fod ar eich fferm".

Pynciau cysylltiedig