´óÏó´«Ã½

Pum munud gyda... Angharad Price

Angharad PriceFfynhonnell y llun, Angharad Price
  • Cyhoeddwyd

Yn ei nofel gyntaf ers 14 mlynedd, Nelan a Bo, mae’r awdur Angharad Price yn adrodd hanes dau ffrind a’r newidiadau enfawr yng Nghymru ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Hon yw nofel gyntaf Angharad ers iddi gyhoeddi Caersaint yn 2010.

Bu Cymru Fyw’n ei holi am ei gwaith a’r ysbrydoliaeth tu ôl ei llyfr newydd:

Nelan a Bo yw’ch nofel gyntaf ers 14 mlynedd – pam eich bod wedi aros mor hir i gyhoeddi nofel newydd?

Mae’n debyg bod ’na gyfuniad o resymau (ar ben y ffaith fod nofelau’n cymryd amser hir i’w sgwennu!). Mi gymerodd amser i mi ddod i nabod y cymeriadau’n dda, a hefyd i ddeall y cefndir hanesyddol.

Roedd ’na lawer o ailsgwennu er mwyn trio cael pethau’n iawn. Ro’n i hefyd yn brysur yn sgwennu pethau eraill – dwi wedi cyhoeddi dau lyfr academaidd, dwy gyfrol o ysgrifau a drama yn y cyfnod yna. Heb sôn am drio byw! Ond roedd y nofel ar y gweill ar hyd yr adeg a’r cymeriadau’n byw a bod yn fy mhen ac yn tyfu yng nghwmni ei gilydd.

Hefyd, gan ei bod yn nofel hanesyddol, roeddwn isio bod yn sicr bod y manylion bychain yn gywir. Er enghraifft, mae cymeriad Seffora’n feddyges lysieuol, felly roedd angen dysgu am rinweddau gwahanol blanhigion.

Roedd angen darllen am ddulliau chwarelydda cynnar, ac am helyntion cau’r tir ym mhlwy Llanddeiniolen. Heb sôn am sut y daeth ein capeli cyntaf i fod yn sgil y Diwygiad Methodistaidd.

Mae’r holl angerdd a’r aberth aeth i mewn i godi ein capeli wedi cael ei anghofio braidd erbyn heddiw. Dwi’n gobeithio y bydd y nofel yn ein hatgoffa o hynny – bod ’na wewyr yn waliau ein capeli ni. A deud y gwir, mae’r nofel yn agor ac yn cau yn y presennol – gyda chigfran sy’n gofyn inni wrando ar y waliau’n siarad.

Ffynhonnell y llun, Angharad Price
Disgrifiad o’r llun,

Dyffryn Peris, lle mae'r nofel wedi ei gosod, gyda chwarel Dinorwig a'r Wyddfa yn y pellter

Mae’r stori yn cychwyn ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyfnod rydych chi’n disgrifio fel y cyfnod cafodd y Gymru fodern ei chreu – pam mae’r cyfnod yma mor bwysig?

Hanes fy mhentre genedigol sydd yma mewn gwirionedd, sef Bethel ger Caernarfon. Fel llawer o bentrefi modern Cymru, mi dyfodd y pentref yn sgil diwydiannu (chwarel lechi Dinorwig yn achos Bethel) a thwf y capeli.

Mi ddigwyddodd hynny yn fras ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dros nos rywsut roedd ’na wareiddiad Cymraeg newydd wedi dod i fod. Mae’r nofel yn darlunio sut y digwyddodd y newid hwnnw – be’ gafodd ei ennill a be’ gafodd ei golli hefyd. Mae’r ddau brif gymeriad, Nelan a Bo, yn profi’r newidiadau yn eu bywydau eu hunain. Dydyn nhw byth yr un fath wedyn.

Mae’n stori am themâu oesol sef cariad a chyfeillgarwch – beth sy’n ysbarduno chi o ran y themâu yma?

Mae cyfeillgarwch Nelan a Bo yn ganolog i’r stori. Perthynas o gariad ydi hon, ac mae hynny’n bwysig yn y nofel am ei bod yn cynrychioli rhywbeth arhosol – ynghanol yr holl gyfnewidiadau. Er hynny, oherwydd y chwyldro sy’n digwydd, mae’r cariad yn cael ei siglo i’r eitha.

Mae iaith y cymeriadau yn newid i adlewyrchu'r newidiadau yn y cyfnod - pa ymchwil ydy chi wedi ei wneud i iaith y cyfnod? Sut mae’r iaith Gymraeg wedi newid ers hynny?

Un her wrth sgwennu nofel hanesyddol realaidd ydi trio cael y cywair yn iawn. Ro’n i isio i’r cywair fod yn ffresh a bywiog, ond eto’n gredadwy fel y math o Gymraeg y gallai pobl bryd hynny fod wedi ei defnyddio.

Ac oddi mewn i hynny mae ‘na amrywiadau hefyd. Mae iaith y plantos yn wahanol i iaith yr oedolion. Mae iaith y chwarel yn galetach ac yn cynnwys geiriau mwy technegol.

Iaith rheswm ydi iaith Seffora, a iaith ‘hen bagan’ ydi iaith Nain. Ac wedyn mae anghydffurfiaeth a’r Beibl yn dod ag ieithwedd arall i dafodau’r bobl gyffredin – geiriau hyfryd fel ‘tangnefedd’ a ‘chyfamod’ a ‘gwaradwydd’. Roedd angen i ieithwedd y nofel adlewyrchu’r gybolfa gyfoethog yma i gyd – ond mewn ffordd naturiol gobeithio.

Ffynhonnell y llun, Angharad Price
Disgrifiad o’r llun,

Capel Bethel

O ble ddaeth yr ysbrydoliaeth am y nofel?

Mae'n anodd cofio erbyn hyn be’ oedd yr union ysbrydoliaeth, achos bod cymaint o amser wedi mynd heibio. Dwi'n cofio gweld brân yn hedfan i mewn drwy ffenest y capel roeddwn i'n arfer mynd iddo fo'n blentyn (a'r capel ar werth ar y pryd). Roedd hynny'n un peth a ysgogodd y nofel.

Roedd y capel a'r Ysgol Sul yn rhan naturiol o fywyd llawer o blant y pentref yn y 1970au a'r 1980au, a dydw i ddim yn meddwl bod hynny lawn mor wir erbyn heddiw. Mae cymdeithas wedi seciwlareiddio.

Ond mae 'na fwy na dim ond y grefydd wedi mynd - mae 'na ddarn pwysig o hanes wedi cael ei anghofio, ac mae 'na iaith gyfan wedi mynd efo fo, sef iaith gyhyrog a soniarus y Beibl. Un rheswm dros sgwennu'r nofel oedd cofio sut y daeth yr hanes hwnnw i fod yn y lle cynta - ac i ni ystyried lle mae o erbyn heddiw.

Pynciau cysylltiedig