Premiwm treth cyngor ar ail dai Sir Ddinbych i godi i 150%
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo cynlluniau i godi premiwm treth cyngor o 150% ar berchnogion ail dai a thai gwag hirdymor.
Mae perchnogion o'r fath eisoes yn talu 100% yn fwy na'r gyfradd treth cyngor arferol ers mis Ebrill 2024, yn dilyn penderfyniad ym Medi 2023.
Bryd hynny hefyd penderfynwyd y byddai鈥檙 premiwm yn cynyddu i 150% yn Ebrill 2025.
Mae premiwm ychwanegol o 50% ar gyfer cartrefi sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn ers pum mlynedd neu fwy.
Dydd Mawrth fe wnaeth aelodau'r cabinet gymeradwyo'r polisi ar gyfer Ebrill 2025 yn unfrydol, a chytuno i'w adolygu ar gyfer 2026/27.
'Hyrwyddo cymunedau cynaliadwy'
Yn y cyfarfod dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, mai'r "pwrpas yw cynyddu鈥檙 tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych er mwyn hyrwyddo cymunedau cynaliadwy".
"Dyna鈥檙 elfen bwysig.鈥
- Cyhoeddwyd17 Hydref
- Cyhoeddwyd24 Medi
- Cyhoeddwyd3 Hydref
Mae Llywodraeth Cymru yn caniat谩u i gynghorau godi hyd at 300% o bremiwm ar ail gartrefi a thai gwag, ond clywodd cynghorwyr fod eithriadau ar gael.
Mae sawl cyngor wedi cyflwyno premiwm o'r fath, ond yn ddiweddar fe wnaeth cynghorwyr Sir Benfro bleidleisio i'w leihau o 200% i 150%, dim ond chwe mis ar 么l cyflwyno'r gyfradd uwch.