Gweithiwr iechyd 'wedi cam-drin cleifion bregus'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod cynorthwyydd meddygol dan hyfforddiant wedi cyffwrdd 芒 dwy ddynes yn rhywiol pan nad oedd "unrhyw gyfiawnhad meddygol" dros wneud hynny.
Roedd Ieuan Crump yn gweithio yn Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbr芒n pan ddigwyddodd yr ymosodiadau honedig ar 10 ac 13 Awst 2021.
Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd yr erlyniad ei fod wedi gwneud hynny "er mwyn ei foddhad rhywiol ei hun".
Mae Mr Crump yn gwadu naw cyhuddiad - chwech o ymosodiad rhyw, a thri o ymosodiad drwy dreiddiad.
'Chwalu ymddiriedaeth'
Wrth agor yr achos yn ei erbyn, dywedodd Matthew Roberts ar ran yr erlyniad fod Mr Crump wedi cam-drin cleifion oedd mewn "cyflwr bregus tu hwnt".
"Doedd dim rheswm na chyfiawnhad meddygol o gwbl i'w organau rhywiol gael eu gweld na'u cyffwrdd gan y diffynnydd," meddai Mr Roberts.
Ychwanegodd fod "ymddiriedaeth yn rhan greiddiol o'r proffesiwn meddygol," a bod Mr Crump wedi chwalu'r ymddiriedaeth yna mewn modd "grotesg".
Dywedodd nad oedd Mr Crump wedi ceisio dadlau fod y modd a archwiliodd y ddwy ddynes yn feddygol angenrheidiol, ond ei fod yn gwadu eu cyffwrdd yn amhriodol o gwbl.
"Mae'n fater syml felly o bwy sy'n dweud y gwir," meddai.
Clywodd y llys fod Mr Crump wedi cynnal archwiliad ar bledren un ddynes ar ddau ddiwrnod gwahanol, wrth iddi adfer yn dilyn llawdriniaeth.
Yn 么l yr erlyniad, fe roddodd ei fysedd yn ei fagina ar 10 Awst 2021 wrth geisio gosod cathetr, yn ogystal 芒 chyffwrdd ei horganau rhywiol.
Dridiau'n ddiweddarach, fe wnaeth Mr Crump ei harchwilio eto cyn iddi adael yr ysbyty, ble mae honiad iddo wneud yr un peth.
Doedd dim staff eraill yn bresennol yn ystod yr un o'r archwiliadau yma, meddai'r erlyniad.
Fe wnaeth yr holl ymosodiadau honedig yn achos yr ail ddynes ddigwydd ar 13 Awst, gyda'r erlyniad yn dweud bod "tebygrwydd amlwg" rhwng profiadau'r ddwy.
Roedd yr ail ddynes wedi mynd i'r ysbyty gyda chyflwr ar y coluddyn, ond doedd hi ddim yn yr un ystafell 芒'r ddynes gyntaf.
Dywedodd yr erlyniad fod Mr Crump wedi cynnal archwiliad pledren arni hi hefyd, a'i fod wrth wneud hynny wedi cyffwrdd yn ei organau rhywiol, rhoi ei fys yn ei fagina, ac yna cyffwrdd yn ei phen-么l.
"Does byth angen hynny wrth gynnal archwiliad ar y bledren," meddai Mr Roberts. "Ond doedd hi ddim yn gwybod hynny."
Dychwelodd Mr Crump i wneud ail archwiliad pledren yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, ond fe wnaeth y ddynes ddweud wrtho nad oedd hi eisiau archwiliad arall a ffonio ei mam.
Dywedodd yr erlyniad fod Mr Crump hefyd wedi gofyn cwestiynau "hollol amhriodol" i'r ddynes am ei hanes rhywiol.
Gwadu cyffwrdd yn amhriodol
Cafodd Mr Crump ei arestio ar 17 Awst 2021, wedi i staff meddygol gael gwybod am beth oedd wedi digwydd yn ystod yr archwiliadau a rhoi gwybod i'r heddlu.
Wrth gael ei holi, meddai'r erlyniad, fe wnaeth Mr Crump wadu cyffwrdd y ddwy ddynes yn amhriodol, gan ddweud ei fod wedi cyffwrdd rhan isaf y stumog yn unig wrth eu harchwilio.
"Pa mor debygol yw hi bod dwy ddynes ifanc... wedi gwneud cwynion bron yn union yr un peth am sut wnaeth o eu cam-drin yn rhywiol?" gofynnodd Mr Roberts.
Brynhawn Mercher cafodd cyfweliad fideo gyda鈥檙 ddynes gyntaf ei chwarae i鈥檙 rheithgor, a ddywedodd ei bod hi wedi dod ar draws Mr Crump am y tro cyntaf ar 10 Awst.
Roedd hi鈥檔 gwella o lawdriniaeth i鈥檞 stumog, a bu achlysur lle bu鈥檔 rhaid i nyrs osod cathetr iddi.
Clywodd y llys fod Mr Crump wedi gofyn i鈥檙 ddynes ddweud wrth y nyrs y byddai鈥檔 hapus iddo ef fod yn yr ystafell hefyd, gan ei fod ar hyfforddiant.
Ond wedi i鈥檙 nyrs gael trafferth yn gosod y cathetr, fe roddodd Mr Crump ymgais arni pan oedd ei gydweithiwr allan o鈥檙 ystafell.
Dyna pryd, meddai鈥檙 ddynes, iddo gyffwrdd ei fagina am y tro cyntaf, a rhoi ei fys yno.
Wedi i aelod arall o staff osod y cathetr, fe wnaeth Mr Crump wedyn gynnal ail archwiliad o鈥檌 phledren heb unrhyw staff arall yn bresennol, er ei bod hi bellach yn pasio d诺r.
Pan soniodd y ddynes wrth nyrsys eraill ei bod hi wedi cael yr ail archwiliad, dywedodd bod golwg o 鈥渂enbleth鈥 arnynt gan na fyddai angen hynny unwaith yr oedd cathetr wedi ei osod.
Ond roedd hi鈥檔 meddwl bod Mr Crump yn bod yn 鈥渄rylwyr鈥, ac felly wnaeth hi ddim cwestiynu鈥檙 peth ar y pryd.
Ychwanegodd y ddynes nad oedd Mr Crump yn gwisgo menyg ar y pryd nac wedi golchi ei ddwylo, a鈥檌 fod wedi cynnig ei helpu i sychu鈥檙 gel a ddefnyddiodd ar gyfer yr archwiliad.
Ar ddiwedd ei shifft, daeth ati unwaith eto i wirio, a鈥檌 harchwilio yn yr un modd gan ofyn iddi dynnu ei throwsus, cyn cyffwrdd ei horganau rhyw unwaith eto.
Dridiau鈥檔 ddiweddarach, pan oedd hi鈥檔 paratoi i adael yr ysbyty, roedd Mr Crump ar shifft unwaith eto ac 鈥渨edi synnu鈥 pan welodd ei bod hi dal yno.
Fe ofynnodd i鈥檞 harchwilio hi unwaith eto, gan gyffwrdd y tu mewn i鈥檞 choes a鈥檌 horganau rhyw.
Dywedodd y ddynes mai Mr Crump oedd yr unig weithiwr iechyd oedd wedi鈥檌 harchwilio mewn modd 鈥渓le oedd angen i mi dynnu fy siorts鈥.
'Dylen i fod wedi sylweddoli'
Cyn iddi adael, fe ddywedodd bod ei hesgidiau hi ar goll ers y llawdriniaeth, ac fe gynigiodd Mr Crump geisio dod o hyd iddynt.
Yna fe ddywedodd wrthi ei fod wedi rhoi ei rif a chyfeiriad e-bost ar nodyn yn ei bag, os oedd hi eisiau cysylltu i drafod ymuno gyda Sefydliad Ambiwlans Sant Ioan.
Dywedodd wrthi beidio s么n am hynny wrth unrhyw un arall, a hynny oherwydd 鈥渃yfrinachedd cleifion鈥.
鈥淩oeddwn i鈥檔 meddwl ei fod yn trio bod yn neis,鈥 meddai.
Y diwrnod canlynol, fe wnaeth Mr Crump ei ffonio pan oedd hi adref, i ddweud nad oedd wedi dod o hyd i鈥檞 hesgidiau eto.
Roedd hynny鈥檔 鈥渙d鈥, meddai, achos 鈥渄dylech chi ddim fod yn ffonio cleifion yn uniongyrchol... a dim ond os ydych chi wedi dod o hyd iddynt鈥.
Wrth gael ei holi ymhellach yn y cyfweliad, dywedodd bod Mr Crump wedi gwneud iddi deimlo鈥檔 鈥渁nghyfforddus鈥 ar adegau, ond ei fod hefyd yn 鈥渂od yn neis鈥 ac nad oedd hi鈥檔 credu bod ei ymddygiad yn 鈥渁narferol鈥.
鈥淒wi鈥檔 teimlo鈥檔 wirion nawr achos dylen i wedi sylweddoli efallai,鈥 meddai.
Mae鈥檙 achos yn parhau.