Carchar am oes i ddyn am lofruddio tad yn Nhrefforest
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio tad i bedwar yn sgil dyled am gyffuriau.
Cafodd Daniel Rae, 30, ei drywanu i farwolaeth mewn t欧 ar Stryd y Dywysoges yn Nhrefforest ger Pontypridd ar 17 Rhagfyr 2023.
Dydd Iau clywodd Kieran Carter, 23 o ardal Birmingham, y bydd yn treulio o leiaf 17 mlynedd yn y carchar.
Roedd teulu Daniel Rae yn y llys, a dywedon nhw eu bod wedi'u "torri" gan ei farwolaeth "ddisynnwyr".
Fe gafodd dau berson arall ddedfrydau wedi'u gohirio am droseddau'n gysylltiedig 芒'r achos.
Clywodd y llys fod Kieran Carter yn delio cyffuriau a'i fod wedi dod i d欧 Daniel Rae i n么l arian a oedd yn ddyledus iddo.
Roedd cymdogion wedi clywed s诺n ffraeo a dadlau, ac wedi clywed Mr Rae yn gofyn i Carter alw'r gwasanaeth ambiwlans.
Bu farw Daniel Rae wedi iddo golli gwaed ar 么l cael ei drywanu yn ei goes.
Wrth ddedfrydu Carter, dywedodd y barnwr, Mr Ustus Nickin ei fod wedi bod yn "ddideimlad" i beidio 芒 galw'r ambiwlans, ac mai "dim ond chi sy'n gwybod beth yn union ddigwyddodd y noson honno".
Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol nad oedd Carter "yn bwriadu lladd" ond ei fod yn amlwg yn "gyfrifol" am farwolaeth Mr Rae.
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf
Hefyd ddydd Iau cafodd Amy Jones, 37 o ardal Glyn-coch, ei dedfrydu i 10 mis o garchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, am wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Clywodd y llys ei bod wedi trin anaf i law Carter, a'i helpu i deithio i Birmingham.
Cafodd Chad Joy, 33 a hefyd o ardal Glyn-coch, ei ddedfrydu i naw mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis, am gynorthwyo troseddwr.