大象传媒

Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer ffwrnais drydan Port Talbot

TataFfynhonnell y llun, Tata
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd buddsoddi 拢1.25bn mewn ffwrnais drydan yn lleihau allyriadau ac yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur, medd y cwmni

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Tata Steel wedi cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer ffwrnais drydan newydd.

Ddiwedd Medi fe ddaeth y dull traddodiadol o gynhyrchu dur i ben wrth i ffwrnais chwyth 4 gynhyrchu dur am y tro olaf.

Dywed y cwmni eu bod wedi ymgynghori'n helaeth gyda thrigolion lleol, gweithwyr Tata Steel UK ac arbenigwyr eraill cyn cyflwyno'r cais.

Fe ddaeth yr ymgynghoriad i ben ar 15 Hydref.

Ffynhonnell y llun, Tata

Bydd buddsoddi 拢1.25bn mewn ffwrnais drydan yn lleihau allyriadau ac yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur, medd y cwmni.

Mae cau鈥檙 ffwrneisi yng ngweithfeydd dur mwyaf y DU yn rhan o ailstrwythuro a fydd yn cael gwared 芒 2,800 o swyddi.

Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot nawr yn cynnal eu hadolygiad ac ymgynghoriad eu hun ar y cynllun ac mae disgwyl penderfyniad yn gynnar yn 2025.

Mae llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw'n cyfrannu 拢500m tuag at gost y dechnoleg newydd ac os yw'r cais cynllunio yn cael s锚l bendith mae disgwyl i鈥檙 gwaith adeiladu ddechrau ym mis Awst 2025.

Dywedodd Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK: 鈥淩ydym yn falch iawn ein bod bellach wedi cyflwyno ein cais cynllunio a hoffwn ddiolch i bob un sydd wedi cysylltu 芒 ni."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach Jonathan Reynolds: 鈥淢ae鈥檔 wych gweld y cynlluniau hyn yn symud ymlaen yn gyflym wrth i ni ymdrechu i ddatgarboneiddio鈥檙 sector dur."

Pynciau cysylltiedig