Ymgyrch gymunedol i ailagor tafarn ym Mlaenau Ffestiniog
- Cyhoeddwyd
Mae gr诺p cymunedol yn gobeithio ailagor tafarn yng Ngwynedd sydd wedi bod ar gau ers wyth mlynedd.
Roedd y Wynnes Arms ym Manod, Blaenau Ffestiniog yn arfer bod yn un o dafarndai mwyaf poblogaidd yr ardal.
Ond ers ei chau yn 2017 mae'r adeilad wedi bod yn segur a bellach ar werth, er bod caniat芒d cynllunio mewn lle i'w throsi yn fflatiau.
Gobaith gr诺p lleol, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus diweddar, yw gallu ailagor y dafarn at fudd y gymuned.
Maen nhw'n gobeithio dilyn 么l troed sawl tafarn gymunedol arall sydd wedi eu sefydlu dros y blynyddoedd diwethaf.
'Mae Manod yn bentref yn ei hun'
Dywedodd Nia Parri-Roberts, sydd wedi byw ym Manod ers dros 30 mlynedd, fod y Wynnes yn arfer bod yn "galon i'r gymuned".
"'Da ni'n dweud fod Manod yn bentref yn ei hun, ond 'da ni'n un gymuned fawr," meddai.
"Mae'r Wynnes wedi bod yn le prysur ofnadwy ac yn agos iawn i'n calonnau ni i gyd.
"Mae'n biti mawr gweld o fel hyn ac mae pawb yn teimlo bod angen gwneud rhywbeth amdano."
Ychwanegodd Ms Parri-Roberts: "O'dd [cau y dafarn] yn drist ofnadwy ond dwi'n meddwl oeddan ni'n teimlo y bydda' rhywun arall yn ei gymryd o drosodd, ddaru ni 'rioed feddwl fysa fo ddim yn agor eto.
"Ond gydag amser, wrth gwrs, oeddan ni'n sylweddoli mai adfail oedd gennym ni a bod o ddim am ailagor."
Ers cau'r dafarn mae sawl cais cynllunio wedi eu cyflwyno i drosi'r adeilad yn fflatiau, gyda'r diweddaraf wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd ym mis Awst eleni.
Ond gyda'r adeilad bellach ar y farchnad, gobaith gr诺p Wynnes Cymunedol yw ei berchnogi fel menter gymunedol, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus llwyddiannus.
"Gafon ni ymateb gwerth chweil i ddweud y gwir, roedd 60 o bobl yno ac oedd 'na dipyn o fwrlwm a theimlad reit gyffrous."
"Oedd pawb yn cytuno fod eisiau ei ailagor fel t欧 tafarn, ond be 'da ni'n feddwl 'neud yw ei wneud yn ganolfan i'r gymuned lle 'da ni am drio cael amryw o weithgareddau wedi eu hanelu at bawb.
"Fysa hyn yn cynnwys gwersi Cymraeg.
"'Da ni wedi cael ein synnu ar yr ochr ora' o ran pa mor angerddol ydy pobl am hyn.
"Ar y dechrau oedden yn meddwl na breuddwyd mawr oedd o a fysa' ni'n cicio ein hunain 'sa ni ddim yn trio, ond r诺an gan fod gymaint o gefnogaeth, 'da ni'n teimlo ein bod ni'n mynd i rywle."
- Cyhoeddwyd29 Chwefror
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2023
'Dipyn o waith i'w wneud'
Dywedodd Gwenlli Evans mai'r cam nesaf fyddai datblygu cynllun busnes.
"Mae 'na gymaint o dafarndai cymunedol ar draws Cymru r诺an, yn helpu dod 芒 chymunedau at ei gilydd, felly mae angen meddwl sut allwn ni wneud yr un peth ym Manod.
"Roedden ni'n falch iawn o gael rhai o bwyllgor y Pengwern [tafarn gymunedol yn Llan Ffestiniog] yn ein cyfarfod agoriadol ond 'da ni hefyd yn trio siarad hefo tafarndai eraill i weld sut aethon nhw o'i chwmpas hi."
Ac er mai cau mae nifer o dafarndai o amgylch y wlad erbyn hyn, mae Gwenlli Evans yn hyderus bod digon o gefnogaeth yn lleol.
"Y gwaith nesaf r诺an fydd sefydlu rhyw fath o gynllun busnes, mae 'na dipyn o waith i'w wneud ond 'da ni'n amlwg angen datblygu elfennau ohono.
"Dwi'n meddwl fysan ni'n torri calon y gymuned os fysan ni'n newid gormod ar y tu fewn, felly cadw pethau'n eithaf tebyg ar y gwaelod ac wedyn edrych ar be allwn wneud fyny grisiau ydi'r bwriad.
'Cynllunio'r parti agor yn barod'
"Dwi wedi'n magu ym Manod, fyswn i wrth fy modd yn gweld rhywbeth yn cael ei greu er lles y gymuned.
"Ond mae Blaenau Ffestiniog yn ardal lle mae dwysedd uchel o fentrau cymdeithasol, sy'n dangos ei fod o'n bosib.
"Mae Nia yn planio'r parti agor yn barod. Ma' 'na dipyn o ffordd i fynd cyn gallu agor y drysau, gan gynnwys gosod y drysau!
"Ond os 'da ni'n gallu cyrraedd hynny fyswn i'n hapus iawn!"