Pensiynwr coll wedi'i ganfod mewn car yn y m么r - cwest

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Clywodd y gwrandawiad nad oedd amgylchiadau amheus ynghylch marwolaeth Reginald Rees
  • Awdur, Meleri Williams
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Cafodd corff dyn 98 oed aeth ar goll o Abertawe ei ddarganfod yn ei gar, yn y m么r, clywodd agoriad cwest.

Clywodd Llys y Crwner Abertawe i Reginald Rees o bentref Crofty gael ei ganfod yn agos at glogwyn ym Mae Rhosili ar 18 Awst.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys gyhoeddi fod Mr Rees ar goll ar 14 Awst ar 么l i bryderon gael eu codi am ei 鈥渉wyliau gwael鈥.

Cafodd ei weld ddiwethaf yn gyrru car Renault Captur coch o鈥檌 gartref.

Fe ddangosodd archwiliad post-mortem iddo ddioddef nifer o anafiadau yn dilyn gwrthdrawiad.

Clywodd y crwner Aled Gruffydd nad oedd amgylchiadau amheus ynghylch ei farwolaeth ac fe gafodd y cwest ei ohirio tan fis Chwefror.