大象传媒

Cost gofal plant yn y gwyliau'n uwch nag erioed

PlantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhieni yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn talu 拢168 yr wythnos ar gyfer gofal plant yn ystod gwyliau'r ysgol

  • Cyhoeddwyd

Cymru ydy鈥檙 wlad ddrutaf o ran costau gofal plant yn ystod y gwyliau ysgol.

Yn 么l data newydd gan elusen Coram, mae鈥檙 gost wedi cynyddu 9% yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae鈥檙 ffigyrau yn dangos bod rhieni, ar gyfartaledd, yn talu 拢168 yr wythnos ar gyfer gofal plant unwaith fod drysau鈥檙 ystafell ddosbarth yn cau.

Dywedodd un fam yng Nghaerdydd fod rhieni yn osgoi cael ail fabi tra bod costau byw yn uchel.

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim ar gael i blant tair a phedair oed, a bod hynny ar gael am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Ychwanegon nhw fod hynny'n fwy hael na'r cynnig dros y ffin yn Lloegr, a bod mwy o rieni yn gymwys yng Nghymru hefyd.

鈥楳ae鈥檙 gost yn echrydus鈥

Ar 么l blwyddyn o gyfnod mamolaeth, roedd Alice Evans yng Nghaerdydd wedi troi at ofal plant preifat ar gyfer ei mab.

鈥淒wi鈥檔 gorfod gweithio yn ystod gwyliau鈥檙 ysgol,鈥 meddai.

Mae mab Alice yn derbyn 30 awr o ofal am ddim - polisi sy鈥檔 鈥渨ych鈥 i鈥檙 teulu, ond mae鈥檙 gost yn gyffredinol yn 鈥渆chrydus鈥, meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

鈥淢ae rhieni yn gorfod gwneud penderfynu dylai nhw ddim gorfod gwneud,鈥 medd Alice Evans

"Pob chwe mis mae鈥檙 gost yn cynyddu.

鈥淢ae gen i nifer o ffrindiau - sy鈥檔 rhieni ac yn gweithio - sy鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd iawn gyda chostau gofal plant ar hyn o bryd.鈥

Dywedodd Alice fod ffrindiau eraill yn penderfynu peidio cael plant oherwydd bod y gost mor uchel.

鈥淢ae rhieni yn gorfod gwneud penderfyniadau ddylai nhw ddim gorfod gwneud.鈥

鈥楻hieni yn torri n么l ar gostau鈥

Mae Justine Vedmore yn rhedeg canolfan gofal plant Blue Door Out of School yng Nghaerdydd.

Mae ei th卯m yn darparu gofal yn ystod y gwyliau i blant rhwng tair ac 11 oed.

鈥淢ae ein costau ni wedi codi,鈥 meddai. 鈥淓in trydan, ein nwy, ein biliau bwyd.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae teuluoedd yn cyfri pob ceiniog,' medd Justine Vedmore

Yn 么l Justine, mae鈥檙 argyfwng costau byw yn golygu bod teuluoedd yn cyfri' pob ceiniog.

鈥淢ae rhieni yn trio ffeindio ffyrdd newydd i dorri costau gan ddefnyddio mam-gu a thad-cu neu weithio o adre tra鈥檔 edrych ar 么l eu plant," meddai.

I blentyn dan bump oed, mae diwrnod o ofal a bwyd, rhwng 07:30 a 18:00, yn costio 拢50, tra bod hynny'n 拢45 i blentyn dan bump oed.

Yn 么l Justine, mae'r rhan fwyaf o鈥檙 rhieni yn deall bod y gost yn golygu gwasanaeth sy'n eu galluogi i weithio diwrnod llawn.

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Judith Owen, perchennog meithrinfa Pitian Patian yng Nghaernarfon, ei bod wedi gweld costau'r busnes yn cynyddu.

"Allai ddim dychmygu bod 'na unrhyw berson ar wyneb y ddaear ar hyn o bryd lle mae costau nhw ddim wedi cynyddu mewn un ffordd neu'r llall," dywedodd.

"Pan da chi'n rhedeg busnes ma' hyn yn gorfod cael effaith negyddol ar y cwsmer.

"Mae codi prisiau ddim yn rhywbeth da ni'n neud yn ysgafn, da ni wirioneddol yn trio'n gorau glas i gadw y prisiau mor rhesymol 芒 phosib."

Ac mae Judith wedi gweld effeithiau prisiau cynyddol ar ei chwsmeriaid.

"Dros y blynyddoedd ma' 'na bobl wedi dewis nain a thaid yn gwarchod un diwrnod ychwanegol fel bod nhw'n lleihau ar y gost ond dwi yn teimlo'n gry' dros y ffaith bod rhaid i rieni sylweddoli mai ddim ni sydd yn dewis cynyddu'r gost yma.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Judith Owen, perchennog meithrinfa Pitian Patian yng Nghaernarfon, ei bod wedi gweld costau'r busnes yn cynyddu

"Dwi'n gwybod am rieni sy'n mynd allan i weithio ac er mwyn cadw'r swyddi yna 'ma nhw'n gwario tu 70% o'u cyflog ar ofal plant.

Ychwanegodd y byddai rhagor o gymorth gan y llywodraeth i'w groesawu.

"Mae gynno ni wrth gwrs costau cyflogi staff. Dwi'n cefnogi 100% ein llywodraeth yn annog ni i dalu cyflog gwell i'n gweithwyr ond wrth gwrs dydy'r llywodraeth ddim yn rhoi dim arian i ni tuag at y gost ychwanegol yna."

Ychwanegodd ei bod yn falch bod rhieni yng Nghymru yn gallu cael hyd at 30 awr o ofal plant am ddim bob wythnos ond teimla bod angen ehangu'r cynllun yma i gynnwys rhagor o deuluoedd.

Mae data newydd yngl欧n 芒 chostau gofal plant yn ystod gwyliau ysgol ar draws Prydain yn awgrymu bod Cymru ar frig y rhestr ar hyn o bryd.

Mae teuluoedd yng Nghymru yn gwario 拢168 yr wythnos ar gyfartaledd, tra bod y gost yn 拢156 yn Lloegr a 拢157 yn Yr Alban.

Mae鈥檙 data ar sail gofal sy鈥檔 cael ei gynnig yn breifat neu gan awdurdodau lleol, ac yn cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Dyw鈥檙 data ddim yn cynnwys y gost ar gyfer gweithgareddau achlysurol fel chwaraeon neu ddrama.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae data yn awgrymu fod gofal plant yn ystod gwyliau'r ysgol yn ddrutach yng Nghymru na gweddill Prydain

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd gofal plant a darpariaeth chwarae, gan gynnwys cynlluniau chwarae gwyliau鈥檙 haf.

"Mae ein Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer plant tair a phedair oed i rieni cymwys, sy'n cynnwys rhieni mewn addysg neu hyfforddiant 鈥 o鈥檌 gymharu 芒 38 wythnos y flwyddyn yn Lloegr, i rieni sy'n gweithio yn unig," meddai llefarydd.

"Mae hyn yn cynnwys rhywfaint o ddarpariaeth gwyliau.

"Dros wyliau'r haf rydyn ni hefyd yn ariannu ein cynllun Gwaith Chwarae, gan ddarparu cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel.

"Ar ben hynny, mae ein cynllun Bwyd a Hwyl ar gael ym mhob un o ardaloedd yr awdurdodau lleol, ac mae鈥檙 cynllun hwnnw鈥檔 mynd i鈥檙 afael ag atal plant rhag colli prydau bwyd yn ystod y gwyliau.

"Mae awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol hefyd yn gweithio i gefnogi plant a theuluoedd dros yr haf, a dylai rhieni gysylltu 芒'u Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am fwy o wybodaeth."

Pynciau cysylltiedig