Cynghorwyr yn trafod cau ysgol leiaf Ynys M么n
- Cyhoeddwyd
Bydd cynghorwyr ym M么n yn trafod cynnig i gau ysgol gynradd leiaf yr ynys, sydd 芒 dim ond naw o ddisgyblion.
Mae adroddiad fydd yn mynd o flaen cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Sgrwtini Corfforaethol yn argymell cau Ysgol Gymuned Carreglefn ar ddiwedd y flwyddyn ysgol bresennol.
Y bwriad, os yn dderbyniol gan gynghorwyr, yw symud y naw disgybl i Ysgol Gymuned Llanfechell o fis Medi 2024.
Mae鈥檙 ddwy ysgol yn nalgylch Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019
Mae cost y pen fesul disgybl Ysgol Gymuned Carreglefn yn 拢17,200 - dros dair gwaith cost gyfartalog disgyblion cynradd y sir o 拢5,240.
Mae nifer y disgyblion yng Ngharreglefn wedi gostwng o 42 yn 2012 a 15 yn 2020 ac mae swyddogion yn rhagweld yr angen i wario 拢317,350 ar gostau cynnal a chadw'r adeilad.
Yn 么l yr adroddiad, mae rhagolygon hefyd yn awgrymu bydd pum disgybl neu lai yn mynychu鈥檙 ysgol pe bai'n parhau ar agor wedi Medi 2024.
'Effaith gadarnhaol ar safonau addysg'
Gan fod gan Carreglefn lai na 10 o ddisgyblion mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn nodi nad oedd angen i'r awdurdod gynnal ymgynghoriad cyffredinol cyn dilyn y broses ffurfiol i'w chau.
Er hynny, y bwriad yw cynnal ymgynghoriad 28 diwrnod ar rybudd statudol cyn dod i benderfyniad terfynol.
Os bydd yr ysgol yn cau, bwriad swyddogion yw cynnal trafodaethau gyda鈥檙 gymuned leol ar 鈥渟icrhau hyfywedd tymor hir adeilad presennol yr ysgol fel adnodd cymunedol os oes angen鈥.
Dywedodd Marc Berw Hughes, cyfarwyddwr addysg, sgiliau a phobl ifanc Cyngor M么n, mai'r ysgol sydd 芒鈥檙 gost uchaf fesul disgybl o holl ysgolion cynradd Cymru.
鈥淏ellach, dim ond naw o ddisgyblion sydd yn Ysgol Carreglefn a hynny鈥檔 gyfystyr 芒 80% o leoedd gwag.
"Mae pedwar o鈥檙 disgyblion yma ym mlwyddyn chwech ac mae鈥檙 ysgol ei hun yn rhagweld y bydd pump neu lai o ddisgyblion yn mynychu o fis Medi 2024 ymlaen."
Ychwanegodd: 鈥淒isgwylir i鈥檙 cynnig gael effaith gadarnhaol ar safonau addysg ac, os bydd y Pwyllgor Gwaith yn cytuno cau, byddai rhybudd statudol yn cael ei gyhoeddi yn unol 芒鈥檙 Cod Trefniadaeth Ysgol.
"Byddai hyn hefyd yn sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio 芒 holl ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru.鈥
Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan aelodau o Bwyllgor Sgrwtini Corfforaethol y cyngor ddydd Mawrth, gyda鈥檙 penderfyniad terfynol yn un i鈥檙 Pwyllgor Gwaith.