大象传媒

Geraint Davies: Cyd-aelod yn gwneud honiadau yn erbyn AS

Geraint Davies a Charlotte NicholsFfynhonnell y llun, San Steffan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Charlotte Nichols (dde) yn honni fod Aelodau Seneddol fel Geraint Davies (chwith) yn teimlo'n "anghyffyrddadwy"

  • Cyhoeddwyd

Mae AS Llafur wedi cyhoeddi mai hi yw un o'r menywod sydd wedi gwneud cwyn am aflonyddu rhywiol yn erbyn AS o Gymru.

Dywedodd Charlotte Nichols wrth raglen 大象传媒 Panorama fod Geraint Davies wedi rhoi ei law ar ei chanol tra'i bod yn gweithio'n hwyr.

Mae Mr Davies wedi cael ei wahardd gan y Blaid Lafur ers mis Mehefin.

Ms Nichols, yr aelod dros Ogledd Warrington, yw'r achwynydd cyntaf i wneud ei hun yn gyhoeddus.

Dywedodd cyfreithwyr ar ran Mr Davies, yr aelod dros Orllewin Abertawe, ei fod yn gwadu pob honiad yn ei erbyn.

Wedi cael ei rhybuddio amdano

Mae o leiaf pedwar o fenywod eraill wedi gwneud honiadau yn erbyn yr AS, a hynny dros gyfnod o flynyddoedd.

Disgrifiodd Ms Nichols sut y daeth Mr Davies ati tra roedd wrth ymyl peiriant twll yn y wal mewn rhan o San Steffan sydd heb deledu cylch cyfyng.

Dywedodd y Blaid Lafur ei fod wedi ei wahardd o鈥檌 waith yn dilyn honiadau 鈥渉ynod o ddifrifol鈥 o 鈥測mddygiad cwbl annerbyniol鈥.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Charlotte Nichols: "Roeddwn wedi ei osgoi am y rhan fwyaf o鈥檓 mlwyddyn gyntaf yn y Senedd"

Dywedodd Ms Nichols ei bod wedi cael ei rhybuddio cyn iddi gael ei hethol i gadw draw o hyd o 30 o bobl yn San Steffan oherwydd pryderon am aflonyddu rhywiol.

Un o鈥檙 ASau cyntaf iddi gael rhybudd amdano wrth ddod i mewn i San Steffan oedd Mr Davies, meddai.

鈥淩oeddwn wedi ei osgoi am y rhan fwyaf o鈥檓 mlwyddyn gyntaf yn y Senedd," meddai.

鈥淯n noson ar 么l pleidlais hwyr iawn des i lawr at y peiriant arian i dynnu ychydig o arian parod i gael tacsi adref, ac ar y coridor hwnnw does dim teledu cylch cyfyng.... dydy o ddim yn cael ei ddefnyddio yn helaeth yr adeg hynny o'r nos.

"Felly, roedd hi'n dawel ac fe ddaeth i fyny y tu 么l i mi pan oeddwn i wrth y peiriant arian, rhoi ei law ar gefn fy nghanol a dweud 'Rwy'n falch ein bod yn cael mynd adref nawr'."

Ychwanegodd fod y diwylliant yn San Steffan yn teimlo'n wenwynig ar adegau.

鈥淥s yw pobl yn dianc gyda rhywfaint o鈥檙 ymddygiad lefel is yma, mae鈥檙 person hwnnw yn dechrau teimlo nad oes modd ei gyffwrdd,鈥 meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Caroline Nokes yn credu bod ymddygiad o'r fath yn weddol eang ar draws y Senedd

Ychwanegodd AS Llafur Caergaint, Rosie Duffield, ei bod hithau wedi cael ei rhybuddio am Mr Davies ar 么l dechrau yn San Steffan.

"Roedd pawb yn y Blaid Lafur yn gwybod am y dyn yma," meddai.

Dywedodd cyfreithwyr ar ran Mr Davies wrth Panorama ei fod yn 鈥渓lwyr wadu鈥 pob honiad yn ei erbyn ac fe gafodd ei atal gan reolau鈥檙 Blaid Lafur rhag gwneud sylw er mwyn osgoi rhagfarnu ymchwiliadau ac unrhyw wrandawiad yn y dyfodol.

Ond mae AS Ceidwadol Romsey a Gogledd Southampton, Caroline Nokes, yn credu bod ymddygiad o'r fath yn weddol eang ar draws y Senedd

"Rwy'n meddwl ei fod yn gyffredin ym mhob plaid," meddai.

"Anaml iawn y mae aflonyddu rhywiol yn ymwneud 芒 rhyw, mae bron bob amser yn ymwneud 芒 ph诺er."