'Trysor Saunders Lewis' yn cyrraedd y Llyfrgell Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn llawn trysorau.
Pan gafodd Ffion Dafis wahoddiad gan Dr Maredudd ap Huw (Curadur Llawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol) i weld un o 'greiriau'r genedl,' prin yr oedd hi'n disgwyl gweld yr hyn oedd ar y bwrdd o'i blaen mewn bocs maint cas sbectol.
Ond, roedd cliwiau eraill wedi eu gwasgaru ar draws y bwrdd yngl欧n 芒'r sawl oedd yn berchen ar y bocs a'i gynnwys.
Daeth yn amlwg yn fuan iawn mai eiddo Saunders Lewis oedden nhw, ac yn fwy na hynny, rhywbeth gafodd, o bosib, ei ddefnyddio i ffurfio un o ddogfennau enwocaf yr iaith Gymraeg.
Cyn mynd ati i agor y bocs, roedd rhyfeddodau eraill ar y bwrdd oedd yn haeddu sylw.
Yma oedd rhai o ddram芒u Saunders Lewis, gan gynnwys, Blodeuwedd, Esther a Siwan.
Roedd Maredudd ap Huw yn eu galw nhw'n 鈥榡ig-so creadigol鈥.
鈥淒oes dim un llawysgrif wreiddiol yma na drama wreiddiol. Does dim Blodeuwedd mewn drafft na ddrafftiau gwahanol o Esther na ddim byd.
鈥淩oedd Saunders yn berson creadigol iawn ond mae gen i ofn, unwaith oedd y dram芒u wedi cael eu cyhoeddi doedd yna ddim un o鈥檙 sgriptiau yn cael eu cadw.鈥
Adolygiad Kate Roberts
Roedd act gyntaf Blodeuwedd i鈥檞 gweld yn rhifyn y gaeaf o'r Llenor yn 1923, ond roedd yn rhaid disgwyl tan 1948 cyn gweld y ddrama gyflawn.
Roedd cais wedi dod yn 1947 gan Theatr Garthewin am ddrama Gymraeg newydd, a dyma Saunders Lewis yn cwblhau Blodeuwedd a鈥檌 hanfon atyn nhw i鈥檞 pherfformio.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gop茂au gwreiddiol o gynllun gwisgoedd trawiadol y perfformiad cyntaf gan y cynllunydd Morris Jones.
Yn ystod y perfformiadau roedd 'na adolygwyr yn y gynulleidfa. Ar y noson gyntaf, un oedd yn bresennol oedd cyfaill agos iawn i Saunders Lewis, neb llai na Kate Roberts.
Ar y pryd Kate Roberts oedd yn gyfrifol am bapur newydd Y Faner a hithau hefyd oedd yn adolygu dram芒u'r cyfnod ar gyfer y papur.
Fe ddisgrifiodd Kate Roberts berfformiad yr actorion yn y ddrama fel un 鈥榗aboledig wych, mewn drama anodd.鈥
Roedd hi鈥檔 gwbl amlwg yn y cyfnod fod Kate Roberts a Saunders Lewis yn gohebu gyda'i gilydd yn aml, y naill a鈥檙 llall yn canmol gwaith ei gilydd.
Mae un o鈥檙 llythyrau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos Saunders Lewis yn dweud ei fod wedi darllen Te鈥檔 y Grug o leiaf dwywaith gan ddweud fod 鈥榞raen proffesiynol ar y straeon i gyd.鈥
Nesaf ar y bwrdd o drysorau oedd rhai o lawysgrifau'r ddrama Siwan, drama y mae Ffion Dafis ei hun wedi bod yn rhan allweddol ohoni yn ddiweddar.
Fe bortreadodd Ffion y cymeriad Siwan mewn monolog yng nghynhyrchiad y Theatr Genedlaethol yn 2008.
Mae copi o鈥檙 Radio Times o Chwefror 1954 yn dangos fod cynhyrchiad radio o'r ddrama Siwan wedi cael ei darlledu ar donfeddi鈥檙 大象传媒.
A dyma gyrraedd y bocs.
鈥淥s ydi hon yn be鈥 dwi鈥檔 feddwl ydi hi, dwi yn mynd i fod wrth fy modd,鈥 meddai Ffion.
Yn y bocs mae ysgrifbin du gyda llofnod Saunders Lewis wedi naddu arni gan 鈥榙dosbarth yr aelwyd 1938-39.鈥
Dywedodd Meredudd ap Huw, 鈥淢ae hi鈥檔 grair hynod, hynod o ddiddorol, wedi dod i mewn yng nghanol casgliad o bapurau'r diweddar Ken Owen o Farian-glas, Sir F么n.
鈥淢ae hi鈥檔 ysgrifbin pwysig, mae hi鈥檔 mynd 芒 ni yn 么l i 1938-39 pan oedd Saunders wedi鈥檌 ryddhau o鈥檙 carchar ac wedi colli ei swydd yn Abertawe cyn symud i ffermio yn Aberystwyth."
Un dirgelwch mawr ynghylch yr ysgrifbin yw ei defnydd i ysgrifennu rhai o glasuron dramatig yr iaith Gymraeg.
'Moment hynod arbennig'
Ond mae tystiolaeth yn bodoli sy鈥檔 dangos efallai fod Saunders Lewis wedi defnyddio鈥檙 union ysgrifbin i ysgrifennu ei ddarlith, Tynged yr Iaith yn 1962.
Mae llun o 1962 gafodd ei dynnu gan y Western Mail a鈥檌 gyhoeddi yn y gyfrol Bro a Bywyd Saunders Lewis yn dangos Saunders wrth ei ddesg yn ei gartref ym Mhenarth ac o鈥檌 flaen y botel inc a鈥檙 union ysgrifbin.
Mae Maredudd ap Huw yn pwysleisio nad amgueddfa yw鈥檙 llyfrgell ac nad ydyn nhw fel arfer yn derbyn casgliadau personol, ond roedd hi鈥檔 amhosib peidio derbyn y casgliad yma.
Cyn rhoi鈥檙 ysgrifbin n么l yn y bocs, dywedodd Ffion Dafis ei bod wedi 鈥減rofi un o fomentau hynod arbennig ei bywyd鈥 o gael gafael yn yr ysgrifbin sydd wedi bod yn gyfrifol, efallai, am lunio rhai o lenyddiaeth bwysicaf yr iaith Gymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022