大象传媒

Ynys B欧r: Cyhoeddi adolygiad o honiadau cam-drin plant

Ynys B欧r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Comisiynwyd yr adolygiad gan y Tad Jan Rossey, arweinydd Abaty Ynys B欧r

  • Cyhoeddwyd

Mae abaty yng Nghymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol i honiadau hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol.

Ers blynyddoedd mae Kevin O'Connell wedi ymgyrchu am ymchwiliad i honiadau ganddo ef ac eraill sy'n dweud eu bod wedi eu cam-drin ar Ynys B欧r, ar arfordir Sir Benfro.

Mae'r Tad Jan Rossey, arweinydd newydd yr abaty Sistersaidd, bellach wedi cyhoeddi ei fod wedi comisiynu Jan Pickles OBE i arwain "adolygiad trylwyr", ac mae hefyd wedi penodi cyn-Ddirprwy Gomisiynydd Plant Cymru, Maria Battle, fel arweinydd diogelu newydd.

Dywedodd y Tad Jan: 鈥淵n yr un modd 芒 llawer o sefydliadau eraill, mae Ynys B欧r, yn y gorffennol, wedi derbyn honiadau yn ymwneud ag aelodau o鈥檙 gymuned o fynachod am eu hymddygiad tuag at blant.鈥

鈥淩ydym yn parhau i fod yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd diogel gyda gweithdrefnau effeithiol ar gyfer diogelu pawb sy鈥檔 ymweld, yn byw neu鈥檔 gweithio ar yr ynys.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ymchwiliad yn "ddechrau", meddai Kevin O'Connell sy'n dweud y cafodd ei gam-drin ar Ynys B欧r

Nid oes amserlen ar gyfer yr adolygiad, ond fe fydd y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi.

Wrth ymateb i鈥檙 newyddion, dywedodd Mr O鈥機onnell wrth Newyddion S4C fod y cyhoeddiad yn 鈥渄dechrau鈥.

Dywed mai dim ond oherwydd ei flynyddoedd o ymgyrchu a gwaith Ymgyrch Goroeswyr Ynys B欧r, a sefydlodd ef, mae hyn yn digwydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y Tad Kotik yn dod i gysylltiad 芒 phlant oedd yn ymweld ag Ynys B欧r

Honnodd dwsinau o bobl iddyn nhw gael eu cam-drin yn rhywiol gan fynach oedd yn byw ar yr ynys.

Bu farw鈥檙 Tad Thaddeus Kotik yn 1992 heb wynebu unrhyw gyhuddiadau troseddol i honiadau iddo gam-drin plant rhwng 1977 a 1982.

Cafodd chwech o鈥檌 ddioddefwyr honedig eu digolledu gan yr abaty mewn setliad y tu allan i鈥檙 llys ym mis Mawrth 2017, ac mae nifer o rai eraill wedi cyflwyno honiadau ers hynny.

Dywedodd yr arweinydd diogelu newydd, Maria Battle, bod yr adolygiad "yn y broses o aros am ganlyniadau".

"Byddwn yn argymell bod y canfyddiadau鈥檔 cael eu gwneud yn gyhoeddus.

鈥淕obaith yr arweinydd newydd yw clywed gan unrhyw un sydd wedi鈥檌 effeithio.

鈥淢ae hyn yn rhan o鈥檙 broses iach谩u.鈥