Canser y coluddyn: 'Y driniaeth ydy鈥檆h ffrind chi'
- Cyhoeddwyd
Cafodd Lindsey Ellis o鈥檙 Bala ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2021 pan oedd hi鈥檔 39 oed, yn fuan wedi genedigaeth ei phumed plentyn. Ar 么l anwybyddu ei symptomau am flynyddoedd, roedd y canser wedi lledu erbyn i Lindsey fynd am help meddygol.
Wedi sawl llawdriniaeth, radiotherapi a cemotherapi mae Lindsey wedi gwella ac yn awyddus i rannu ei stori er mwyn annog pobl i drafod symptomau canser y coluddyn yn fwy agored.
Oedi cyn mynd at y meddyg
Dechreuodd Lindsey brofi symptomau rai blynyddoedd cyn y diagnosis ond bu鈥檔 ceisio delio gyda鈥檙 peth ei hun, fel mae鈥檔 ei esbonio mewn sgwrs gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio ar Radio Cymru: 鈥淧an o鈥檔 i鈥檔 bwyta rhai bwydydd fatha chips, tatws a pasta o鈥檔 i鈥檔 cael poen bol a teimlo鈥檔 bloated ond ddim yn gwneud dim byd am y peth, jest meddwl mod i鈥檔 gallu rheoli鈥檙 symptomau drwy beidio bwyta y bwydydd 'na.
鈥淥'n i鈥檔 meddwl bod fi鈥檔 dioddef o syndrom coluddyn llidus (irritable bowel syndrome neu IBS) 鈥 o'n i wedi bod yn darllen i fyny am yr afiechyd hynny ac o鈥檔 i鈥檔 meddwl fod o鈥檔 ffitio.
鈥淒wi鈥檔 meddwl fod yr ofn o falle cael camera a colonoscopy, a jest yn teimlo鈥檔 embarrassed a ddim isho mynd a gorfod cael y math yna o driniaeth a ymchwilio yn bellach.
鈥淥edd genna鈥檌 griw agos o ffrindiau ac oeddan ni鈥檔 siarad lot 鈥 mae 'na lot o s么n am IBS ac mae lot o bobl yn trio gwneud pethau fatha cutio carbs. O'n i鈥檔 tueddu meddwl falla fod gen i bethau tebyg i鈥檔 ffrindiau ac mae rhywun yn siarad ei hun allan o fynd i鈥檙 doctor.鈥
Symptomau鈥檔 gwaethygu
Yn 2021 pan oedd Lindsey yn feichiog gyda Doti, ei phumed plentyn, dechreuodd ei hiechyd ddirywio: 鈥淥鈥檔 i鈥檔 teimlo fatha fod rhywbeth yn pwyso.
鈥淎 phan o鈥檔 i鈥檔 30 wythnos gyda hi o鈥檔 i鈥檔 teimlo mod i ddim yn mynd i allu mynd i ddiwedd y beichiogrwydd ac mi ddoth hi鈥檔 gynnar.
鈥淎r 么l iddi gyrraedd gafon ni Covid yn y t欧 a jest teimlo bod fi heb wella o鈥檙 Covid yn iawn - y teimlad 'ma o flinder.
鈥淔el mam ifanc 'dan ni 'di blino o hyd ond oedd hwn yn flinder gwahanol, oedd o鈥檔 llorio fi. O鈥檔 i鈥檔 gorwedd lawr yn y prynhawn oedd ddim fel fi o gwbl ac mae rhywun yn dechrau meddwl fod rhywbeth mwy yn bod.鈥
Poen
Ac yna un nos Sul bu rhaid i Lindsey fynd am help ar frys i鈥檙 adran argyfwng yn yr ysbyty yn Wrecsam: 鈥淵n y diwedd 'nes i gael blockage llwyr lle o'n i methu mynd i鈥檙 toilet.
鈥淥edd o鈥檔 waeth na geni鈥檙 plant felly dipyn o boen. O fan 'na 'nath y siwrne gychwyn.
鈥淕es i colonoscopy yn syth ar 么l mynd i鈥檙 adran argyfwng a dwi鈥檔 cofio gorwedd yna a gweld fod rhywbeth mawr o鈥檌 le yn wynebau y meddygon i gyd. Wedyn cael gwybod.
鈥溾橬es i fynd am CT sgan a ddaethon nhw n么l a dweud fod 'na diwmor mawr yno. 'Nathon nhw ddweud wrtha'i ar y pryd i baratoi am y gwaethaf.
鈥淥herwydd lleoliad y tiwmor roedd y ffaith mod i methu pasio dim byd yn argyfwng. 鈥楴es i orfod cael triniaeth yn syth bin i osod stoma 鈥 dyna oedd y cam cyntaf.
鈥淥edd o鈥檔 lwcus fod y llawfeddyg wedi dweud, 'dwi鈥檔 mynd i ganslo popeth prynhawn ma, mae'n rhaid i fi osod stoma i ti'. Lwcus achos mi oedd o bron 芒 rupturo.鈥
Ar 么l y colonoscopy cafodd Lindsey ddiagnosis o ganser y coluddyn ar y bore Llun ac roedd sganiau yn dangos fod y canser wedi lledu i鈥檙 nodau lymff ac i鈥檙 groth.
Meddai: 鈥淎r 么l y profion pellach o鈥檔 i鈥檔 gwybod fod o ddim wedi lledu i鈥檙 afu a鈥檙 ysgyfaint. Oedd rhywun yn dathlu ychydig bach am hynny ond oedd y sefyllfa dal wedi mynd yn bell.
鈥淎 dyna鈥檙 peth - mi ddylswn i wedi mynd at y doctor blynyddoedd yn gynt ac mi fyddwn wedi bod mewn lle lot gwell.鈥
Wedi sioc y diagnosis, ymateb cyntaf Lindsey oedd i fwrw mlaen gyda鈥檙 driniaeth: 鈥淢ae rhywun yn cael sioc ac ofn fod y canser yn mynd i gael y gorau a llorio rhywun ond mae rhywun hefyd yn mynd mewn i fight mode.
鈥淥鈥檔 i jest ishe gwybod beth oedd y cynllun a cychwyn ar y siwrne i drio curo y canser.鈥
Triniaeth
Cafodd Lindsey 26 sesiwn o radiotherapi dros chwe wythnos ac wedyn tri mis o cemotherapi.
Meddai: 鈥淥edd yn mynd 芒 fi i mis Hydref. Ac o鈥檔 i'n digwydd bod yn dathlu 'mhen-blwydd yn 40 oed yn y mis Hydref yna a ges i鈥檙 newyddion fod y driniaeth wedi golygu mod i wedi cael complete response.
鈥淥edd y canser wedi mynd ac 'nes i ddewis cymryd y llawdriniaeth i dynnu y darn yna o鈥檙 bowel o 'na a chael hysterectomy llawn.
"Ges i鈥檙 newyddion yn dilyn hynny - oedd y canser dal yn y celloedd a nes i orfod gael tri mis arall o cemotherapi.
鈥淒wi n么l yn y gwaith ac yn byw bywyd r诺an.鈥
Neges Lindsey
Meddai: 鈥淥鈥檔 i鈥檔 gwneud esgusodion i beidio mynd at y doctor oherwydd bod gen i ofn mod i鈥檔 mynd i orfod gael camera a rhywun yn edrych yn fanylach ar y rhan yna o鈥檙 corff ond mae mor bwysig mynd yn gynnar achos mae鈥檙 canlyniadau o fynd yn gynnar at y doctor yn gymaint gwell.
鈥淎c maen nhw鈥檔 gallu edrych mewn i bethau ac mae鈥檙 triniaeth gymaint haws os ydy o wedi cael ei ddal yn gynnar.
鈥淵 neges ydy i beidio bod ofn y driniaeth 鈥 y driniaeth ydy鈥檆h ffrind chi a dydy o byth yn mynd i fod mor ddrwg 芒 mae rhywun yn ei ddychmygu.
鈥淢ae wedi 'neud i rywun edrych ar fywyd yn wahanol, mae'n gwneud i rywun feddwl mae bywyd yn fyr iawn ac mae鈥檔 rhywbeth precious iawn ac mae eisiau gwneud yn fawr o bob munud.
鈥淢ynd at y doctor mor fuan 芒 mae rhywun yn teimlo dydy pethau ddim yn iawn achos chi sy鈥檔 nabod corff eich hunain. Os fyddwn i wedi bod yn onest efo fi fy hun buaswn i wedi mynd at y doctor yn gynt ond oedd yr ofn bod 'na rywbeth mawr yn bod.鈥