大象传媒

Cymru i chwarae yn Lloegr yn sgil gig Taylor Swift

Rygbi CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae perfformiadau gan Taylor Swift a'r Foo Fighters yng Nghaerdydd yn golygu y bydd t卯m rygbi Cymru yn chwarae g锚m yn Lloegr ym mis Mehefin.

Gyda'r cyngherddau yn Stadiwm Principality, ni fyddai'r g锚m yn erbyn De Affrica wedi gallu cael ei chwarae yng Nghaerdydd.

Bydd yr ornest felly yn digwydd yn stadiwm Twickenham, bron i 150 o filltiroedd o Gaerdydd - gyda Chymru y t卯m oddi cartref.

Bydd y g锚m ar 22 Mehefin yn ymarfer ar gyfer cyfres Cymru yn Awstralia, gyda'r garfan yn herio'r Wallabies yn Sydney a Melbourne ym mis Gorffennaf.

Nid yw Stadiwm Principality ar gael ar gyfer g锚m De Affrica gan fod Taylor Swift yn perfformio ar 18 Mehefin, a chyngerdd Foo Fighters ar 25 Mehefin.

Bad blood gyda rygbi Cymru?

Dyma fydd g锚m gyntaf De Affrica ers iddyn nhw ennill Cwpan y Byd ym Mharis yn Hydref 2023.

Cafodd Cymru eu trechu 52-16 y tro diwethaf iddyn nhw chwarae'r Springboks - a hynny mewn g锚m gyfeillgar cyn Cwpan y Byd.

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ei fod yn "hynod gyffrous" ar gyfer gemau Cymru dros yr haf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd taith 'Eras' 'Taylor Swift yn cyrraedd Stadiwm Principality ar 18 Mehefin

Bydd g锚m derfynol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig hefyd yn cael ei chwarae'r un diwrnod 芒'r g锚m yn erbyn y Springboks.

Mae hyn yn golygu y gallai Cymru fod heb rhai chwaraewyr os fydd rhanbarth o Gymru yn cyrraedd y rownd derfynol.

Y Gweilch yw'r rhanbarth sydd uchaf ar hyn o bryd yn y seithfed safle, gyda'r wyth t卯m uchaf yn cyrraedd y gemau ail gyfle.

Dywedodd prif hyfforddwr De Affrica Rassie Erasmus bod ei d卯m yn gyffrous i ddychwelyd i Twickenham, a bod "atgofion melys" o'r fuddugoliaeth dros Seland Newydd.

Ychwanegodd Warren Gatland y byddai cyfle i'w garfan ifanc brofi her "yn erbyn pencampwyr y byd mewn lleoliad niwtral yn brofiad hynod o bwysig".

Mae鈥檙 erthygl hon wedi cael ei haddasu i egluro mai Cymru ydy鈥檙 t卯m oddi cartref yn y g锚m yn erbyn De Affrica yn Twickenham.