Helpu pobl i arafu o brysurdeb bywyd drwy gelf
- Cyhoeddwyd
Mae artist o Wynedd wedi creu llyfr celf i helpu pobl i gamu yn 么l o鈥檜 bywydau prysur a byd 24/7 y cyfryngau cymdeithasol.
Ac mae Glyn Price wedi cyfuno ei fagwraeth yn harddwch Eryri, ei gefndir celf a鈥檌 brofiad o weithio gyda phobl ifanc i greu鈥檙 鈥榣lyfr llesiant鈥.
A鈥檌 obaith ydi y bydd yn helpu pobl o bob oed i werthfawrogi鈥檙 hyn sydd ar eu stepen drws.
鈥淓rs y cyfnod clo ac adeg cofid ro鈥檔 i鈥檔 sylweddoli pa mor anodd mae pethau wedi bod i bobl a ro鈥檔 i isho creu rhywbeth a rhoi cyfle i bobl fyfyrio ac adlewyrchu ac arafu a meddwl lle maen nhw arni efo bywyd,鈥 eglurodd Glyn ar raglen Ffion Dafis ar 大象传媒 Radio Cymru (5 Mai, 2024).
Un o Gwm-y-glo yn Nyffryn Peris ydi Glyn yn wreiddiol ond bellach yn byw gyda鈥檌 wraig a鈥檜 plentyn yng Nghaernarfon.
A gydag Eryri mor agos does ryfedd bod y golygfeydd a鈥檙 ardal wedi bod yn bwysig iddo dros y blynyddoedd ac wedi arwain at ei waith fel artist tirluniau.
Meddai: 鈥淢ae gen i lot o ddiddordeb yn y golau, yn y siapiau, yn y tirlun. Dwi wedi cael fy magu yn Cwm-y-Glo a ro鈥檔 i鈥檔 cerdded lot i Clegir, a Llanberis a dwi wedi bod yn sb茂o ar y mynyddoedd a鈥檙 chwareli a sb茂o ar yr hanes yma i gyd. Dwi鈥檔 teimlo bod hwnna yn rhan ohono i - bod fi yn rhan o鈥檙 tir a鈥檙 tir yn rhan ohono i."
Diddordeb mewn celf ers ysgol
Mae鈥檔 dweud ei fod wedi bod yn ffodus o gael prifathro ysgol gynradd wnaeth annog ei ddiddordeb mewn celf - a bod hynny wedi cario mlaen yn yr ysgol uwchradd.
Aeth yn ei flaen i astudio cwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai Bangor ac yna gradd mewn celf ym Mhrifysgol Caerloyw. Dros y blynyddoedd mae wedi defnyddio celf wrth weithio gyda phobl ifanc tra'n gwneud gwaith 1-1 ac ar brosiectau gyda mudiadau fel GISDA a Chwmni Fran Wen.
Mae hefyd wedi parhau i beintio tirluniau ac roedd yn gam naturiol iddo gyfuno鈥檙 ddwy ran o鈥檌 fywyd ar gyfer y llyfr Golau Arall.
Mae鈥檔 cynnwys ei luniau a geiriau positif i annog myfyrdod.
鈥淒wi鈥檔 meddwl bod o鈥檔 bwysig bod fi鈥檔 rhoi rhywbeth lawr mewn llyfr - a bod pobl eraill yn cael dealltwriaeth o ba mor bwysig ydi mwynau be鈥 sydd ar ein stepan drws a bod yn ddiolchgar a mwynhau be' sgeno ni yn barod,鈥 meddai.
鈥淒wi鈥檔 teimlo yn y byd 鈥榙a ni ynddi heddiw 'ma efo鈥檙 cyfryngau cymdeithasol, mae bob dim yn instant ac yn sydyn. 鈥楧a ni鈥檔 rhoi like ar rwbath, mae o wedi mynd - a 'da ni鈥檔 anghofio amdano fo.
"Ond efo llyfr fel hyn mae o yna i rywun jest tawelu, bod yn ddistaw, arafu, sb茂o ar y llyfr, sb茂o ar y lluniau鈥 cael be' maen nhw isho allan o鈥檙 lluniau a hefyd y geiriau wrth gwrs. Mae鈥檔 gyfuniad o鈥檙 ddau a gobeithio neith o helpu unigolion.鈥
Annog pobl ifanc i ddarllen
Mae Glyn hefyd yn gobeithio fydd y llyfr yn cael effaith ar bobl sydd ddim fel arfer yn darllen Cymraeg:
鈥淕obeithio neith o ennyn diddordeb mewn pobl ifanc i ddarllen mwy - falle rhai sydd ddim mor gryf yn darllen. Gobeithio fydd pobl ddim yn ei ofn o, a wnawn nhw bigo fo fyny a gobeithio neith o helpu rhywun yn rhywle.鈥
Fe fydd arddangosfa o鈥檙 gwaith yn Oriel Plas Glyn y Weddw rhwng 12 Mai a 7 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020