大象传媒

拢200,000 o gosb yn sgil marwolaeth marchoges ifanc

Angharad ReesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Angharad Rees o'i hanafiadau oriau wedi'r diwyddiad ar 27 Mai 2012

  • Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr digwyddiad ceffyl a thrap ym Mhort Talbot wedi cael gorchymyn i dalu dros 拢200,000 mewn dirwy a chostau wedi i farchoges ifanc gael ei lladd wrth gymryd rhan.

Fe gafodd Angharad Rees, 18, o Abaty Nedd, anafiadau angheuol i'w phen pan gafodd ei thaflu o'r cerbyd roedd yn ei yrru yn y digwyddiad yn 2012.

Fe gafodd ei hanafu wrth gymryd rhan yn 'The Marathon' ym Mharc Gwledig Afan Argoed - digwyddiad a gafodd ei drefnu gan y British Driving Society (BDS).

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod dim gorfodaeth ar unrhyw un i wisgo offer diogelwch gan gynnwys helmedau, a bod y trefnwyr heb gael caniat芒d y Comisiwn Coedwigaeth i gynnal y digwyddiad.

Fe ddigwyddodd y ddamwain wrth i Ms Rees farchogaeth trap dwy olwyn oedd wedi ei harneisio i'w cheffyl ei hun, Magic.

Roedd hi wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau marchogaeth ers yn 11 oed ac yn yrrwr trap profiadol, ond dyma oedd y tro cyntaf iddi gymryd rhan mewn digwyddiad oddi-ar-y-ffordd cystadleuol.

Wrth iddyn nhw droi lawr llwybr cul, serth fe gollodd rheolaeth ac fe gafodd ei thaflu o'r trap.

Cafodd anafiadau difrifol o ganlyniad i daro ei phen yn erbyn coeden a bu farw yr un diwrnod.

Cyfres o fethiannau

Dywedodd yr erlyniad bod y farwolaeth yn ganlyniad i gyfres o fethiannau o ran trefnu a rheoli'r digwyddiad.

Doedd y trefnwyr heb archwilio offer a doedd dim rhaid i gystadleuwyr wisgo helmedau diogelwch.

Clywodd yr achos bod hi'n "ddiwrnod poeth ac fe ddewisodd Angharad i beidio gwisgo helmed".

Ffynhonnell y llun, AGC Photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Angharad Rees yn cymryd rhan mewn gweithgareddau marchogaeth ers yn 11 oed

Clywodd y llys gan dystion bod ceffylau, o bosib, wedi cael eu dychryn gan feiciau modur mynydd cyn y ddamwain, bod y llwybr yn amhriodol ar gyfer gyrru ceffyl a thrap a'r asesiad risg yn ddiffygiol.

Dywedodd yr erlyniad y dylid fod wedi gwneud gwisgo helmedau diogelwch yn orfodol yn sgil natur risg uchel y digwyddiad, ac y byddai hynny, mwy na thebyg, wedi "osgoi" marwolaeth Ms Rees.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan glwb lleol oedd yn aelod o'r BDS ond sydd ddim yn bodoli mwyach.

Fe blediodd y BDS yn euog i bedwar cyhuddiad dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle mewn gwrandawiad blaenorol.

Wrth osod dirwy o 拢90,000 a chostau o 拢140,000, dywedodd y Barnwr Geraint Walters fod llwybr y cystadleuwyr yn "hollol annigonol... am amryw o resymau".

Awgrymodd bod "llai o fanylder" o ran y gwaith trefnu "nag yn achos "g诺yl eglwys".

Roedd y diffynnydd, meddai, "heb fynd ati'n fwriadol i dorri corneli neu ganiat谩u arferion anniogel" ond yn hytrach "wedi dibynnu'n llwyr ar drefniadau diogelwch y clwb lleol" wrth ysgwyddo'r dyletswydd cyfreithiol i sicrhau diogelwch.

Pynciau cysylltiedig