Morloi yn marw ar 么l mynd yn sownd mewn cylchoedd taflu
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae lluniau yn y stori isod all beri gofid.
Mae gr诺p bywyd gwyllt ym mhenrhyn G诺yr yn annog pobl i roi鈥檙 gorau i brynu cylchoedd taflu plastig, gan fod morloi ifanc yn aml yn marw ar 么l mynd yn sownd ynddynt.
Dechreuodd Gr诺p Morloi G诺yr yr ymgyrch ar 么l gweld y cylchoedd taflu'n cael eu gadael ar draethau yn Abertawe a Phenrhyn G诺yr.
Yn 么l Gareth Richards, a ddechreuodd y gr诺p, mae'r cylchoedd yn aml yn mynd yn sownd o amgylch gyddfau'r morloi llwyd.
"Maen nhw'n torri mewn i wddf y morlo, sy'n arwain at haint ac yn anffodus mae llawer yn marw," meddai.
Mae Cyngor Abertawe yn cefnogi'r ymgyrch ac yn gobeithio atal eu defnydd ar draethau yn yr ardal o fis nesaf.
Dywedodd yr RSPCA y gall gostio hyd at 拢15,000 i achub morlo sy'n mynd yn sownd.
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
Dywedodd Mr Richards mai nod yr ymgyrch yw annog cwsmeriaid i roi'r gorau i brynu'r cylchoedd taflu, ac annog siopau lleol i roi'r gorau i'w gwerthu.
鈥淵r hyn rydyn ni ei eisiau yw i bobl ddefnyddio鈥檙 ffrisbi disg traddodiadol yn lle'r rhai lle does dim cylch yn y canol," meddai.
鈥淢ae鈥檙 cylchoedd yn cael eu gwerthu mor rhad, yn aml am 拢1 neu 拢2, felly maen nhw鈥檔 aml yn mynd ar goll neu鈥檔 cael eu gadael ar draethau ac yn cael eu cario i鈥檙 m么r."
Ychwanegodd: 鈥淩ydych chi wedyn yn cael morloi, morloi iau yn benodol, sy'n gweld y rhain fel tegan.
鈥淥nd beth sy鈥檔 digwydd yw bydd y cylch yn mynd dros eu pennau ac yn mynd yn sownd ar eu gyddfau, a dy'n nhw methu dod bant.鈥
'Pobl ddim yn sylweddoli'r niwed'
Mae'r morloi sy'n cael eu hachub o draethau yng Nghymru yn cael eu cludo i ganolfan yng Ngwlad yr Haf i gael triniaeth.
Mewn rhai achosion, gallai gymryd hyd at dri mis i鈥檙 morloi wella.
Ychwanegodd Mr Richards: 鈥淒im ond heddiw dwi wedi gweld morlo yn y m么r yma yn Rhosili gyda marciau o amgylch ei wddf a thag coch RSPCA ar ei flipper.
鈥淢ae hynny'n dangos ei fod wedi mynd yn gaeth mewn cylch neu ryw eitem arall ac mae nawr wedi dychwelyd i鈥檙 gwyllt.
鈥淢ae gennym ni lawer o waith i鈥檞 wneud. Mewn gwirionedd fi ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli鈥檙 niwed sy鈥檔 cael ei achosi gan y cylchoedd taflu.鈥
Mae Elin Carter, 20, yn gwirfoddoli gyda Gr诺p Morloi G诺yr ac yn astudio gwyddoniaeth yr amgylchedd yn y brifysgol.
Dywedodd iddi benderfynu gwirfoddoli ar 么l sylweddoli pa mor niweidiol y gallai eitemau plastig fod i fywyd morol.
鈥淓rs dechrau gwirfoddoli, fi 鈥榙i gweld nifer o forloi sy鈥檔 cael eu cludo i鈥檙 traethau, naill ai maen nhw wedi marw neu maen nhw gydag anafiadau difrifol iawn, sy鈥檔 eu hatal rhag gallu nofio a byw bywyd fel y dylen nhw, oherwydd y cylchoedd taflu yma," meddai.
'Hyd at 拢15,000 i achub morlo'
Dywedodd yr RSPCA ei fod yn fater difrifol ar draws y DU.
Yn 么l yr uwch swyddog bywyd gwyllt, Geoff Edmond, mae鈥檔 broses ddrud a hir i forlo wella ar 么l cael ei ddal.
鈥淎r 么l cael eu hachub, y peth cyntaf i鈥檞 wneud yw cael milfeddyg i dynnu鈥檙 cylch o wddf y morlo," meddai.
鈥淥nd wedyn mae鈥檔 gyfnod hir, hir o reoli鈥檙 anafiadau a鈥檙 boen gyda chyffuriau, nes yn y pendraw mae gobaith y bydd yr anafiadau鈥檔 gwella ac y gellir dychwelyd yr anifail i鈥檙 gwyllt.
鈥淢ae angen eu cadw mewn d诺r halen, ac mae ychwanegu halen at dd诺r yn ddrud iawn, felly gallwch chi fod yn edrych hyd at 拢15,000 pob tro mae angen i forlo gael ei achub.鈥
Mae Cyngor Abertawe, sy'n cefnogi'r ymgyrch, yn gobeithio gwahardd defnydd y cylchoedd taflu ar eu traethau.
Mewn datganiad, dywedodd arweinydd y cyngor, Rob Stewart, bod y cylchoedd yn achosi 鈥減oen, dioddefant a marwolaeth" i'r morloi.
鈥淕allai cylchoedd plastig ladd morloi sy鈥檔 gwneud arfordir G诺yr yn gartref," meddai.
鈥淢ae鈥檙 eitemau鈥檔 cael eu gwerthu鈥檔 rhad iawn ac mae鈥檙 rhai sy鈥檔 cael eu taflu ar ein traethau'n dod yn berygl i forloi chwilfrydig.
鈥淩ydym yn bwriadu trafod y mater yng nghyfarfod llawn y cyngor fis nesaf, ac rwy鈥檔 hyderus y bydd yn cael cefnogaeth.
鈥淵 nod fydd codi ymwybyddiaeth o鈥檙 perygl ac annog pobl leol ac ymwelwyr 芒鈥檔 traethau i roi鈥檙 gorau i ddefnyddio'r cylchoedd taflu 鈥 a defnyddio ffrisbi disg cadarn yn lle 鈥 ac, wrth gwrs, mynd 芒 nhw adref bob amser.鈥