大象传媒

Glaw trwm: Ffyrdd dan dd诺r ac oedi difrifol i deithwyr

Llifogydd ym Mhenarl芒gFfynhonnell y llun, Hawarden Happy Dogs
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr olygfa y tu allan i ganolfan g诺n ym Mhenarl芒g, Sir y Fflint ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae degau o rybuddion llifogydd mewn grym yng Nghymru ddydd Iau yn dilyn glaw trwm dros nos.

Mae 'na oedi o hyd hefyd ar wasanaethau tr锚n ledled Cymru.

Bu'n rhaid cau tair ysgol yn gynnar ym Mhowys ddydd Mercher ac fe apeliodd heddluoedd ar yrwyr i fod yn ofalus ar y ffyrdd.

Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru eu bod yn ymateb i "nifer o alwadau yn ymwneud 芒 llifogydd" yn ardal Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae'r gwasanaeth yn gofyn i bobl "beidio 芒 gyrru ar ffyrdd sydd dan dd诺r".

Ffynhonnell y llun, Jess Hart
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aeth car yn sownd yn y d诺r yn Wrecsam brynhawn Mercher

Mae 'na oedi difrifol ar drafnidiaeth gyhoeddus oherwydd y llifogydd.

Dywed Trafnidiaeth Cymru bod y sefyllfa yn amharu ar wasanaethau tr锚n rhwng Aberystwyth a'r Amwythig, Caerdydd a'r Amwythig a rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog.

Doedd dim modd i drenau redeg fore Iau rhwng Crewe a Chester.

Mae teithiau wedi eu gohirio rhwng Crewe a'r Amwythig, Wrecsam a Bidston a rhwng Henffordd a'r Amwythig gan effeithio ar wasanaethau ehangach.

Mae 'na lai o deithiau hefyd rhwng Birmingham New Street a'r Amwythig.

Ffynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae trafferthion ar reilffyrdd, fel y llifogydd yma dros y ffin yn Amwythig, yn golygu nad oes gwasanaethau rhwng gogledd a de Cymru

Mae'r tywydd gwlyb wedi achosi "amodau gyrru anodd ar ein ffyrdd", yn 么l llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam ddydd Mercher.

"Mae lefelau afonydd yn parhau'n uchel ac mae'r tir yn wlyb... mae ganddon ni dimau allan yn delio 芒'r sefyllfa ac yn anffodus rydyn ni wedi gorfod cau rhai ffyrdd.

"Rydyn ni'n annog gyrwyr i gadw golwg ar arwyddion sy'n dweud bod ffyrdd wedi cau. Byddan nhw'n parhau ar gau tan fod lefelau d诺r yn gostwng."

Ffynhonnell y llun, Hawarden Happy Dogs
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Abi Devenport fod "y d诺r fel nant yng nghanol y l么n" ym Mhenarl芒g

Fe rybuddiodd Cyngor Powys bod "llifogydd d诺r wyneb sylweddol ar draws ein rhwydwaith priffyrdd".

"Mae'r gwaethaf o'r llifogydd hyd yma yng ngogledd y sir ond mae pob ardal mewn cyflwr uwch o risg.

"Gyda hyd yn oed mwy o law yn cael ei ragweld heno, gallai鈥檙 amodau fynd yn llawer gwaeth o hyd, felly byddwch yn ofalus, peidiwch 芒 theithio os nad oes rhaid i chi a chael y wybodaeth ddiweddaraf drwy wefan Cyfoeth Naturiol Cymru."

Ffynhonnell y llun, Hawarden Happy Dogs
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae staff yng nghanolfan Hawarden Happy Dogs yn Sir y Fflint yn dweud bod noson "ddi-gwsg" o'u blaenau

Mae Abi Devenport yn byw ac yn gweithio ar safle Hawarden Happy Dogs ar Lannau Dyfrdwy a dywedodd wrth 大象传媒 Cymru bod "y d诺r fel nant yng nghanol y l么n".

Dywedodd bod y d诺r wedi cyrraedd eu canol wrth iddyn nhw geisio mynd 芒 ch诺n yn 么l at eu perchnogion.

"Gan fod gymaint o anifeiliaid yma, allwn ni ddim gadael neu ddianc," dywedodd.

Mae'n rhagweld noson ddi-gwsg ac y bydd yn rhaid iddi godi'n rheolaidd i edrych ar lefel y d诺r.

Pynciau cysylltiedig