大象传媒

'Braint' cyfarfod 芒 bachgen o Ethiopia flynyddoedd wedi'r newyn

Tweli Griffiths a JosephFfynhonnell y llun, Tweli Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tweli Griffiths yn cwrdd eto 芒'r plentyn a gyfarfu yn Ethiopia yn 1985

  • Cyhoeddwyd

Ddeugain mlynedd ers i Michael Buerk ddarlledu ei adroddiad ysgytwol am y newyn ar gyfandir Affrica, mae newyddiadurwr o Gymru'n dweud bod y cyfnod yn parhau i fod yn fyw yn ei gof.

Daeth argyfwng Ethiopia i sylw'r byd ar ddechrau'r 1980au, wrth i filiynau o bobl gael eu heffeithio gan newyn a arweiniodd at gannoedd o filoedd o farwolaethau.

Aeth Tweli Griffiths i Ethiopia rai misoedd wedyn, ac mae'n dweud na allai "feddwl am yr un adroddiad ers hynny sydd wedi bod mor bwerus ag un Michael Buerk".

Tra'n gohebu i raglen Y Byd ar Bedwar yn nhre Korem, mae Mr Griffiths yn cofio'n arbennig cwrdd 芒 Mohammed - bachgen newynog bump oed a oedd newydd weld ei fam yn cael ei bwyta'n fyw gan bac o hyenas.

"Nid dim ond pobl oedd yn newynu - roedd yr anifeiliaid gwyllt yn newynog hefyd ac yn aml gyda'r nos fe fydden nhw'n ymosod ar bentrefi yn chwilio am fwyd," meddai Mr Griffiths.

Ffynhonnell y llun, Tweli Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tweli a Mohammed (a gafodd ei ailenwi yn Joseph) yn 1985

Yn 2005 fe ddychwelodd Mr Griffiths i Ethiopia ddwy waith - yr eildro aeth yno yn arbennig i ymweld 芒 Mohammed ond bu'n gryn dasg i gael hyd iddo gan fod yr eglwys uniongred a'i fagodd wedi newid ei enw.

"Trwy ddyfalbarhau a lwc a bendith fe ddaethon ni o hyd iddo yn fyw ac yn iach mewn gwasg argraffu yn Awassa yn ne Ethiopia a'i enw erbyn hyn oedd Joseph - roedd y cyfan yn fraint ac yn anrhydedd.

"Roedd mynd yn 么l yn arbennig i'w gyfarfod yn werth bob munud o'r straen o geisio dod o hyd iddo," meddai.

"O'dd e ddim yn cofio fi ond yn falch o fy ngweld i - ond ddim mor falch ag o'n i o'i weld e."

Ffynhonnell y llun, Tweli Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tweli Griffiths yn cofio hefyd am ferch fach yn y mynyddoedd yn casglu caniau pop gwag i鈥檞 rhoi i鈥檞 mam i gario d诺r

Wrth gofio am ei ymweliad dywed Mr Griffiths fod pethau wedi gwella cryn dipyn yn Ethiopia erbyn iddo ef a'r criw gyrraedd yn 1985.

Erbyn hynny yn sgil y cyhoeddusrwydd roedd yna lawer o gymorth wedi llifo yno, a'r hyn roeddech yn ei weld, meddai, oedd rhesi diddiwedd o bobl yn disgwyl am y bwyd i'w cyrraedd.

"Peth cynta o'ch chi'n sylwi arno oedd gwallt y plant - roedd gwallt pob plentyn wedi ei dorri i si芒p croes fel bod gan yr angylion rhywbeth i afael ynddo wrth fynd 芒 nhw i'r nefoedd."

Ffynhonnell y llun, Tweli Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tweli Griffiths ar fin hedfan i鈥檙 mynyddoedd yn 1985 mewn hofrennydd Llu Awyr Gwlad Pwyl

"Roedd Michael Buerk wedi disgrifio'r sefyllfa argyfyngus fel newyn Beiblaidd wrth i 100 o bobl y dydd farw - ac roedd y gwallt 'ma yn cadarnhau y ddelwedd Feiblaidd.

"Mae'n debyg bod ystafelloedd newyddion ar draws y byd wedi mynd yn hollol ddistaw wrth iddyn nhw weld adroddiad ysgytwol Michael Buerk yn dod lawr y lein."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yng Nghymru fe gododd y g芒n Dwylo Dros y M么r arian at newyn Ethiopia

Un o'r rhai a welodd adroddiad Michael Buerk oedd y canwr Bob Geldof ac erbyn Nadolig 1984 roedd wedi recordio c芒n gyda cherddorion blaenllaw eraill, o dan yr enw Live Aid.

Llwyddodd Do They Know It's Christmas? i godi miliynau o bunnau at yr achos.

Yng Nghymru daeth nifer o gerddorion at ei gilydd i recordio'r g芒n Dwylo Dros y M么r.

"Erbyn heddi does dim anarferol am weld erchylltra ar y teledu - Gaza yn arbennig ac Wcr谩in," ychwanegodd Mr Griffiths.

"Efallai bod dod yn fwy cyfarwydd 芒'r adroddiadau cyson yma ar y newyddion yn ein himiwneiddio ni yn erbyn y sioc o weld cymaint o ddioddefaint yn ein byd."

Pynciau cysylltiedig