Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diffoddwyr yn delio gyda th芒n mawr mewn hen ysgol
Ffynhonnell y llun, Paul Roberts
Mae'r gwasanaethau brys yn delio gyda th芒n mawr ar safle hen ysgol yn Abertawe.
Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod sawl criw wedi eu hanfon i'r digwyddiad yn hen Ysgol Gorseinon.
Mae lluniau'r adeilad o'r awyr yn dangos fod o leiaf un ystafell fawr wedi'i dinistrio'n llwyr gan y fflamau.
Mae trigolion a busnesau sydd wedi'u heffeithio gan fwg wedi cael eu cynghori i aros y tu fewn a chau eu ffenestri a drysau.