Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyn-swyddog 'wedi cael cysylltiad rhywiol 芒 charcharor'
Clywodd llys bod cyn-swyddog carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael cysylltiad rhywiol dros y ff么n gyda charcharor y mae honiad ei bod wedi cael perthynas amhriodol ag ef.
Mae Ruth Shmylo, 26, wedi ei chyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus mewn cysylltiad 芒'i hamser fel swyddog carchar.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y drosedd honedig wedi digwydd rhwng 1 Rhagfyr 2020 ac 17 Ebrill 2021, pan ddaeth cyfnod prawf Ms Shmylo yn y swydd i ben.
Mae Ms Shmylo yn gwadu'r cyhuddiad yn ei herbyn.
Ceisio cysylltu 'bron bob dydd'
Dywedodd yr erlynydd Matthew Cobbe bod Ms Shmylo wedi bod mewn perthynas amhriodol gyda'r carcharor, sydd heb ei enwi, yn ystod ei chyfnod yn gweithio yng Ngharchar y Parc.
Ychwanegodd bod y carcharor wedi rhoi darn o bapur iddi gyda'i rif arno, a'i bod hi "wedi honni i deimlo dan bwysau i'w ffonio".
Ond dywedodd Mr Cobbe, "mewn gwirionedd, roedd ganddi nifer o opsiynau a dewisiadau y gallai fod wedi gwneud", gan gynnwys adrodd wrth staff bod y gan y carcharor ff么n.
Cafodd y carcharor ei symud i garchar Manceinion ym Mai 2021, a honnir bod y galwadau ff么n rhwng y ddau wedi parhau.
"Mae ton y sgyrsiau yna'n ein galluogi i gyrraedd casgliad teg... ei bod hi mewn perthynas gyda'r carcharor tra'r oedd wedi bod yng Ngharchar y Parc", dywedodd Mr Cobbe.
Ychwanegodd nad oedd Ms Shmylo wedi gwneud "ymdrech go iawn" i ddod 芒'r berthynas i ben, a heb adrodd y cysylltiad gyda staff y carchar chwaith.
'Ddim yn bosib diffinio natur eu perthynas'
Fe glywodd y llys bod y carcharor yn ceisio "cysylltu bron bob dydd" yn ystod y cyfnod y gweithiodd hi yng Ngharchar y Parc, a phan geisiodd hi roi stop ar y cysylltiad, fe fyddai'n bygwth niweidio rhywun petai hi'n gwrthod ateb ei alwadau.
Mewn un achos pan oedd Ms Shmylo yn pryderu bod y carcharor am niweidio carcharor arall yn dilyn bygythiadau, fe wnaeth hi "achosi i'r carcharor arall aros yn ei gell am ddiwrnod cyfan", yn hytrach nag adrodd y broblem, dywedodd Mr Cobbe.
Ychwanegodd yr erlyniad bod Ms Shmylo wedi cyfaddef wrth gael ei chyfweld ei bod hi wedi bod yn "cael rhyw dros y ff么n gyda'r carcharor", ond mai'r carcharor oedd "yn dweud pethau wrthi hi" yn rhan fwyaf y galwadau.
"Golygai hyn ei bod hi'n cymryd rhan yn weithredol mewn rhyw dros y ff么n gyda'r carcharor am ran ohono", dywedodd Mr Cobbe.
Fe glywodd y llys hefyd er bod pwysau ar Ms Shmylo, ei bod hi wedi "gwrthod dweud wrth y carcharor ei bod hi'n ei garu" yn ystod galwadau ff么n rhwng y ddau.
Dywedodd Mr Cobbe: "Yn blaen, mae e'n ystyried dyfodol gyda hi."
Er bod gobeithion a disgwyliadau'r carcharor yn wahanol i'w rhai hi, ychwanegodd, "gadawodd i lawer o'i sylwadau fynd heb gael eu cywiro".
Er "nad oedd yn bosib diffinio natur eu perthynas yn glir", dywedodd Mr Cobbe nad oedd hynny'n golygu nad oedd perthynas anaddas wedi digwydd.
Mae'r achos yn Llys y Goron Caerdydd yn parhau.