大象传媒

Dynes a merch 2 oed wedi eu taro gan fws yn Abertawe

Oystermouth RoadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y ddwy eu taro ar Heol Oystermouth, tu allan i ddigwyddiad Gwledd y Gaeaf

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes a merch ddyflwydd oed wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar 么l cael eu taro gan fws yn Abertawe.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Heol Oystermouth ynghanol y ddinas - tu allan i ddigwyddiad Gwledd y Gaeaf - tua 18:30 nos Sul.

Fe gafodd y ddynes a'r plentyn eu cludo i'r ysbyty er mwyn asesu eu hanafiadau, ond y gred yw nad ydynt yn rhai sy'n bygwth eu bywyd, yn 么l yr heddlu.

Cafodd y ffordd ei hailagor yn ddiweddarach nos Sul.

Pynciau cysylltiedig