Caernarfon: Yr heddlu wedi delio 芒 'digwyddiad gyda chi'
- Cyhoeddwyd
Bu ffordd ar gau yng Nghaernarfon ddydd Sul wrth i'r heddlu ddelio gyda "digwyddiad yn ymwneud 芒 chi" ynghanol y dref.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar ffordd Penrallt Uchaf toc wedi 11:00.
Fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans hefyd fynychu'r digwyddiad.
Does dim rhagor o wybodaeth hyd yma am y ci na natur y digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu y bydd ganddyn nhw bresenoldeb yn yr ardal "am beth amser" tra bo'u hymchwiliad yn parhau.
Ychwanegon nhw nad oes rheswm i'r gymuned ehangach boeni.