大象传媒

Tynnu arian o gynllun swyddogion heddlu ysgolion

DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O fis Ebrill ni fydd y llywodraeth yn ariannu cynllun sy'n gweld swyddogion heddlu yn mynd i ysgolion

  • Cyhoeddwyd

Mae comisiynwyr heddlu wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ariannu cynllun lle mae swyddogion yn mynd mewn i ysgolion.

Mae School Beat Cymru yn gynllun ar y cyd rhwng y pedwar llu heddlu a Llywodraeth Cymru, ac yn talu am swyddogion heddlu ysgolion.

Ond mae'r llywodraeth wedi penderfynu tynnu eu cyllid yn 么l o fis Ebrill, gan ddweud bod yn rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd, a'u bod yn canolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac achub bywydau.

Mae 68 o swyddogion yn cael eu cyflogi i fynd i ysgolion ledled Cymru i siarad 芒 disgyblion yngl欧n 芒 materion diogelwch a lles.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynllun yn costio 拢1.98m iddynt, a'u bod wedi gorfod gwneud "penderfyniadau anodd iawn" yngl欧n 芒'u blaenoriaethau.

Ysgolion yn 'dibynnu' ar y cynllun

Mae comisiynwyr heddlu a throsedd Cymru yn dweud eu bod yn siomedig ac "rhwystredig na chawson ni wybod am y penderfyniad tan rai dyddiau cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft" cyn y Nadolig.

Mae comisiynwyr Heddlu'r Gogledd a Dyfed-Powys, Andrew Dunbobbin a Dafydd Llywelyn, wedi anfon llythyr at benaethiaid ysgolion o fewn eu hardaloedd yn rhoi gwybod am y newidiadau, gan ddweud y bydden nhw'n ariannu'r cynllun tan ddiwedd y flwyddyn academaidd bresennol.

"Mae Swyddogion Heddlu Ysgolion wedi bod yn cyflwyno cwricwlwm dwyieithog a adolygwyd yn genedlaethol o wersi a ddatblygwyd gan athrawon ar gyfer plant 5-16 oed," medden nhw.

"Yn fwy na hyn, maen nhw鈥檔 darparu cymorth ar gyfer sicrhau diogelwch, lles a datblygiad cyffredinol a gofal bugeiliol disgyblion a鈥檜 hysgolion.

鈥淵n anffodus, mae鈥檙 penderfyniad i dynnu cyllid yn 么l yn un a wnaed gan Lywodraeth Cymru, heb unrhyw ymgysylltu nac ymgynghori ffurfiol gyda heddluoedd Cymru."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Osian Jones yn dweud bod y cynllun yn cychwyn sgyrsiau pwysig o fewn yr ystafell ddosbarth

Un ysgol sydd wedi defnyddio'r cynllun yw Ysgol Plas Coch, Wrecsam.

Yn 么l y pennaeth Osian Jones, mae swyddog heddlu yn mynd i'r ysgol o leiaf unwaith y tymor i siarad gyda disgyblion.

"Mae'r plant yn cael syniad o wahanol them芒u pwysig fel bod yn ofalus gyda meddyginiaeth, y gwahaniaeth rhwng da a drwg, be' i wneud mewn argyfwng." meddai.

"Gyda blwyddyn 4 i 6 mae'r them芒u yn datblygu i drafod ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch ar y we, er bod plant iau yn cael sgyrsiau ar hynny hefyd.

"Ond mae 'na sgyrsiau pwysig am ddiogelwch o ran cyffuriau hefyd, a dydi hi ddim rhy gynnar i drafod hynny.

"Dwi'n deall pam fod rhaid gwneud penderfyniadau o ran cyllid ond 'da ni yn dibynnu ar yr ymweliadau yma i gyfoethogi y cwricwlwm a throi disgyblion yn ddinasyddion cyfrifol."

Dyw hi ddim yn glir beth fydd yn digwydd i School Beat Cymru o fis Medi eleni, ond yn ei lythyr mae Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn addo y bydd ef a'r comisiynwyr eraill yn trafod y camau nesaf.

鈥淢ae diogelwch a lles ein plant yn hollbwysig, a gallai unrhyw leihad o ran cymorth ar gyfer swyddogion heddlu ysgolion beryglu datblygiad ein plant a鈥檔 pobl ifanc, yn fy marn i," meddai.

"Dyna pam, dros yr ychydig fisoedd nesaf, y byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr o bob heddlu ledled Cymru i bwyso a mesur, cyfathrebu 芒 rhanddeiliaid allweddol, a datblygu cynllun ar gyfer y dyfodol.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Alun Michael fod y cyhoeddiad annisgwyl "ddim wedi rhoi cyfle i ni gydweithio gydag ysgolion"

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael mai'r siom oedd peidio cael gwybod am y penderfyniad tan y funud olaf.

"Rwy鈥檔 deall y broblem gyllid i Lywodraeth Cymru, a rhaid 'neud yn glir ni yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar lot o bethau, ond y siom ydi bod adran iechyd y llywodraeth wedi tynnu allan o鈥檙 rhaglen yma gydag ysgolion heb rybudd," meddai.

"Ddaru hynna ddim rhoi cyfle i ni gydweithio gydag ysgolion i weld pa fath o beth fydden ni'n ei wneud yn y dyfodol.

"Dwi'n gwybod bod athrawon eisiau gweld y cysylltiad yn mynd ymlaen, ac wrth gwrs fedrwn ni roi dipyn o arian i gadw pethe i fynd am un tymor tan yr haf.

"Ond rhaid i ni edrych sut y'n ni'n 'neud pethe y ffordd gorau fedrwn ni gyda'r arian sydd ar gael o blismona i gadw y cysylltiad i fynd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 68 o swyddogion wedi bod yn cael eu cyflogi i fynd i ysgolion ledled Cymru i siarad 芒 disgyblion

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau eraill yng Nghymru yn wynebu'r pwysau ariannol anoddaf a welwyd ers tro byd.

"Bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn am ymrwymiadau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac achub bywydau.

"Er gwaetha鈥檙 gyllideb heriol, mae ein cyllid ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau rheng flaen wedi'i ddiogelu o hyd ar 拢67m.

"Mae hynny'n cynnwys mwy o ddyraniadau wedi'u clustnodi ar gyfer plant a phobl ifanc, sef 拢6.25m.

"O ganlyniad, rydym wedi penderfynu dod 芒 chyfraniad Llywodraeth Cymru i Raglen Ysgolion yr Heddlu i ben.

"Daw'r arian hwnnw o'r gyllideb camddefnyddio sylweddau ar hyn o bryd.

"Mae'r sefyllfa o ran llesiant dysgwyr mewn sawl maes pwysig wedi newid yn sylweddol ers i'r rhaglen gael ei sefydlu; yn enwedig ers cyflwyno'r cwricwlwm newydd.

"Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r heddlu ar effaith y newidiadau cyllido, a byddwn yn parhau i wneud hynny."