大象传媒

Gemau Olympaidd: Medal arian i'r nofiwr Matt Richards

Matt RichardsFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r nofiwr Matt Richards wedi ennill medal arian yn ras dull rhydd 200m y dynion yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.

Daeth yn ail o drwch blewyn - 0.02 eiliad oedd y gwahaniaeth - i David Popovici o Romania.

Dyma'r fedal gyntaf i gael ei hennill gan athletwr o Gymru ym Mharis - a medal Olympaidd gyntaf Richards mewn ras unigol,

Fe greodd hanes yng Ngemau Tokyo yn 2021 wrth ennill medal aur, gyda鈥檌 gyd-Gymro Callum Jervis, yn y ras gyfnewid dull rhydd 4x200m.

Mae'n ychwanegu'r fedal at yr aur a enillodd pan fachodd deitl byd y llynedd yn y 200m dull rhydd.

Pynciau cysylltiedig