Osian Roberts: 'Yr awydd yno' i hyfforddi unwaith eto
- Cyhoeddwyd
Mae'r pum mis diwethaf wedi bod yn brofiad newydd i Osian Roberts.
Am y 30 mlynedd diwethaf mae o wedi gweithio yn ddi-stop yn y byd p锚l-droed.
Ond ar y funud mae cyn is-reolwr Cymru a Crystal Palace yn mwynhau amser i ffwrdd o'r g锚m, ac mae o鈥檔 defnyddio鈥檙 amser i ystyried beth i'w wneud nesaf.
"Dwi wedi cael fy ngalw'n workaholic dros y blynyddoedd," meddai.
"Ond mi oedd yn rhaid i mi weithio'n galed yn y swyddi yr oeddwn i ynddynt.
"Doeddwn i ddim yn siwr sut 'swn i'n ymdopi heb swydd.
"Dwi wedi cael br锚c, treulio amser gyda theulu a ffrindiau, wedi bod ar wyliau a wedi bod yn gweld ein wyres gyntaf yn LA.
"Dwi wedi gwneud pethau nad oeddwn i'n gallu eu gwneud tra'n gweithio'n y byd p锚l-droed."
Roedd swydd ddiwethaf Osian yn Crystal Palace fel is-reolwr i Patrick Vieira, ond fe ddaeth eu cyfnod gyda'r clwb i ben ym mis Mawrth - ac mae bellach yn teimlo鈥檔 barod am swydd newydd.
"Mae'r awydd i ddychwelyd yno, ond tydw i ddim wedi brysio mewn i ddim byd," meddai.
"Dwi wedi bod yn meddwl yngl欧n 芒 be' fysa鈥檔 fy siwtio orau, a be' fysai'n fy nghyffroi.
"Dwi wedi bod yn gyfarwyddwr technegol, yn rheolwr ac yn brif hyfforddwr, yn is-reolwr ac is-hyfforddwr ar dimau rhyngwladol ac ar glybiau.
"Am y rhan fwyaf o fy ngyrfa dwi wedi arwain cyrff gwahanol ac arwain timau. Dwi wedi arfer gwneud penderfyniadau mawr.
鈥淢ae bod yn rheolwr, prif hyfforddwr neu鈥檔 gyfarwyddwr technegol yn eich galluogi chi i wneud hynny.
"Dyna sy'n apelio fwyaf ar y funud 鈥 ond pwy 芒 wyr efallai y bydd 'na rywbeth arall yn cael ei gynnig i mi fydd yn apelio."
Lle ddechreuodd popeth
Fe ddechreuodd gyrfa hyfforddi Osian yn yr Unol Daleithiau ar 么l derbyn ysgoloriaeth i fynd i Brifysgol Furman yn Greenville, De Carolina.
Roedd yn chwaraewr-reolwr gyda鈥檙 New Mexico Chillies yn yr American Professional Soccer League 鈥 sef y brif adran yn yr Unol Daleithiau ar y pryd.
Bu鈥檔 rhaid iddo ymddeol o chwarae yn 27 oherwydd anaf i'w gefn.
Ond fe arhosodd yn yr Unol Daleithiau fel cyfarwyddwr hyfforddi Albuquerque United, cyn dychwelyd i Gymru yn 1991 i fod yn Swyddog Datblygu P锚l-Droed Ynys M么n.
Yn ystod ei gyfnod yn y swydd honno fe gafodd ei benodi'n brif hyfforddwr t卯m dan-16 a th卯m dan-18 Cymru, ac fe gafodd gyfnod wrth y llyw gyda th卯m 'B' Cymru.
Dyna oedd yr unig dro mae t卯m dan-16 Cymru wedi ennill y Victory Shield ddwy flynedd yn olynol.
"Rhwng fy ngwaith gyda'r timau iau, t卯m 'B' Cymru, ac wrth gwrs y t卯m cyntaf, dwi wedi bod yn brif hyfforddwr neu鈥檔 is-hyfforddwr ar y lefel rhyngwladol am dros 350 o gemau," meddai.
'Gweledigaeth glir ar gyfer p锚l-droed yng Nghymru'
Cafodd Osian Roberts ei benodi yn Gyfarwyddwr Technegol Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn 2007 鈥 gan ddod yn ffigwr dylanwadol o fewn y g锚m yng Nghymru.
"Mi oeddwn i'n teimlo fod gen i'r wybodaeth a'r profiad i ddatblygu strategaeth ar gyfer y timau rhyngwladol, ac ar gyfer p锚l-droed ar lawr gwlad,鈥 meddai.
"Mi oeddwn i eisiau gweld p锚l-droed yng Ngymru yn ffynnu, gweld timau y dynion a鈥檙 merched yn cyrraedd cystadlaethau mawr, ac mi oeddwn i eisiau datblygu hyfforddwyr Cymreig."
Pan gafodd y diweddar Gary Speed ei benodi鈥檔 rheolwr ar Gymru yn 2010, fe ymunodd Osian 芒'i d卯m hyfforddi.
"Fe ddaeth Gary ar y cwrs Trwydded A UEFA yn Aberystwyth, a fi oedd yn cynnal y cwrs.
"Ar 么l iddo gael ei benodi fe ofynnodd i fi ymuno 芒'i d卯m hyfforddi 鈥 fel hyfforddwr ifanc fe ddywedodd y bysai鈥檔 gwerthfawrogi fy mhrofiad i.
"Dwi'n ei gofio'n dod i noson wobrwyo y t卯m dan-16 yn 2011, a dweud yn gyhoeddus wrth y chwaraewyr a鈥檜 rhieni: 'Dwi eisiau rhoi'r un sylfaen i'r t卯m cyntaf a be' mae Osh wedi ei roi i'r t卯m dan-16.
"Mi oedd y ddau ohonan ni ar yr un dudalen."
Mae cyfnod Speed wrth y llyw yn cael ei gydnabod fel dechrau oes aur p锚l-droed Cymru, gyda'r uchafbwynt yn dod o dan arweinyddiaeth Chris Coleman.
Gydag Osian fel is-reolwr Coleman, fe lwyddodd Cymru i gyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf ers 58 o flynyddoedd, a chyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016.
"Mi oedden ni eisiau t卯m oedd yn gallu cyrraedd cystadlaethau yn rheolaidd, a hefyd gwneud yn siwr fod 'na ddigon o chwaraewyr ifanc yn dod drwy'r system oedd yn ddigon da i chwarae ar y lefel ryngwladol.
"Mi oedd ganddon ni weledigaeth a chynllun pendant, a mi oedd ganddon ni staff da lwyddodd i weithredu hyn."
Cyfnod 'hyfryd' ym Morocco
Pan adawodd Coleman am Sunderland yn 2017, fe gafodd Osian ei gyfweld am y swydd, ond Ryan Giggs gafodd ei benodi.
Er hynny fe benderfynodd Giggs gadw Osian yn rhan o'i d卯m hyfforddi.
Ond roedd gwaith Osian wedi dal sylw Cymdeithas B锚l-droed Morocco, ac fe gafodd ei benodi fel eu Cyfarwyddwr Technegol yn 2019.
"Dwi erioed wedi bod mewn sefyllfa lle'r oeddwn i'n chwilio am swydd newydd," meddai.
"Mi oeddwn i'n caru gweithio dros Gymru 鈥 mi fyswn yn hawdd fod wedi gallu aros yn y swydd tan i fi ymddeol.
"Ond mi ydw i hefyd wedi mwynhau teithio a rhannu syniadau.
"Dwi wedi gweithio i UEFA yn arsylwi mewn pencampwriaethau ac wedi cynnal gweithdai hyfforddi ar draws y byd.
"Fe ges i wahoddiad i fynd draw i Morocco gan lywydd eu cymdeithas tra'r oeddwn i'n Armenia yn gweithio i UEFA.
"Pan esboniodd ei weledigaeth i fi, roeddwn i'n gallu gweld pa mor awyddus yr oedden nhw i ddatblygu p锚l-droed yn y wlad, ac mae hi'n wlad hyfryd.
"Mi oedd 'na gyfle i greu rhywbeth arbennig yno. Roeddwn i wedi fy nghyffroi gan y cyfle a'r potensial."
Crystal Palace fel Cymru?
Fe lwyddodd Morocco i greu hanes y llynedd drwy fod y wlad gyntaf o Affrica i gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd, cyn colli 2-0 yn erbyn Ffrainc.
"Mi gefais i'r cyfle i roi rhywbeth mewn lle fydd gobeithio yn para am amser hir iawn i b锚l-droed ym Morocco," meddai Osian Roberts.
"Mae hi wedi bod yn hyfryd gweld y llwyddiant mae'r dynion a'r merched wedi ei gael dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r bobl draw yno'n dal i ddilyn y cynllun gafodd ei osod tra'r oeddwn i yno. Dwi mor hapus drostyn nhw."
Ddwy flynedd mewn i鈥檞 gytundeb fe gafodd Osian alwad ff么n gan gyn-gapten Arsenal, Patrick Vieira, ar 么l iddo gael ei benodi'n rheolwr ar Crystal Palace.
Roedd Vieira wedi gwneud ei gymwysterau hyfforddi dan ofal Osian ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd.
Fe orffennodd Palace yn y 12fed safle yn Uwch Gynghrair Lloegr yn eu tymor cyntaf wrth y llyw, gan ennill gemau yn erbyn Manchester City ac Arsenal.
Fe lwyddon nhw hefyd i gyrraedd rownd cyn-derfynol Cwpan yr FA - cyn i Vieira gael ei ddiswyddo'n gynharach eleni.
"Mi oeddwn i wedi gwrthod y cyfle i weithio yn yr Uwch Gynghrair sawl gwaith cyn hynny," meddai Osian.
"Doeddwn i ddim yn gwybod a fyswn i'n cael cyfle arall. Ella mai dyma fyddai'r cyfle olaf.
"Mi oedd o'n apelio i mi achos mi oedd Palace yn fy atgoffa o Gymru.
"Mi oedden nhw'n underdog yn yr Uwch Gynghrair, yn brwydro i brofi pawb yn anghywir.
"Mae鈥檔 rhyfeddol sut mae ap锚l yr Uwch Gynghrair wedi tyfu ar draws y byd 鈥 ac mi oeddwn i eisiau bod yn rhan o hynny.
"Mi oeddwn i eisiau'r cyfle i weithio yn y gynghrair orau yn y byd."
Lle nesaf? Pwy 芒 诺yr
Dydy Osian ddim yn gwybod lle fydd ei swydd nesaf, ond mae 'na un peth yn sicr - mae eisiau parhau i hyfforddi.
"Ym Morocco ches i ddim y cyfle i hyfforddi gymaint 芒 hynny," meddai.
"Mi oedd gen i swydd bwysig yn datblygu sylfaen ar gyfer popeth a chreu gweledigaeth 鈥 mi oedd yn rhaid i mi benodi鈥檙 bobl gywir, a recriwtio hyfforddwyr a staff.
"Pan es i i Palace mi ges i fy atgoffa faint yr oeddwn i'n mwynhau hyfforddi, yn creu steil o chwarae a dod o hyd i ffyrdd o ennill gemau p锚l-droed.
"Lle nesa'? Pwy 芒 诺yr. Mi oedd gweithio dros Gymru yn deimlad arbennig gan eich bod chi'n gwneud rhywbeth dros eich gwlad.
"Mi oedd gweithio yn Uwch Gynghrair Lloegr yn brofiad gwych 鈥 pwy fysa ddim eisiau gweithio yno eto? Mae hynny yn amlwg yn apelio.
"Dwi'n agored i'r syniad o deithio eto. Mae 'na brosiectau cyffrous yn digwydd ar draws y byd lle mae p锚l-droed yn datblygu.
"Pwy 芒 诺yr os mai un o'r rheiny fydd yn dal fy sylw ac yn fy nghyffroi fwyaf?"