Carcharu mam 'sbeitlyd' am ddwyn etifeddiaeth ei merched
- Cyhoeddwyd
Mae mam wedi ei charcharu ar 么l dwyn etifeddiaeth gwerth 拢50,000 gan ei dwy ferch.
Cafwyd Katherine Hill, 53 oed o Alltwen ym Mhontardawe, a鈥檌 thad Gerald Hill, 93 oed o Fairwood yn Abertawe, yn euog o dwyll drwy gamddefnyddio grym mewn achos yn Llys y Goron Abertawe fis diwethaf.
Dydd Gwener cafodd Katherine Hill ei dedfrydu i 30 mis o garchar, ac fe gafodd Gerald Hill ddedfryd o 12 mis dan glo, wedi ei ohirio am 18 mis.
Disgrifiwyd y diffynyddion gan y barnwr, Greg Bull KC, fel 鈥減obl cwbl anonest鈥.
- Cyhoeddwyd29 Mai
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
Clywodd y llys fod yr arian wedi ei adael i ddwy ferch Katherine Hill, Jessica a Gemma Thomas, gan eu nain, Margaret Hill, a fu farw yn 2013.
Roedd Katherine Hill hefyd wedi derbyn 拢40,000.
Dywedodd y bargyfreithiwr dros yr erlyniad, James Hartson, wrth y llys fod etifeddiaeth y merched i fod i gael ei gadw mewn ymddiriedolaeth tan iddyn nhw droi'n 25, gyda'r diffynyddion yn gweithredu fel ymddiriedolwyr.
Ychwanegodd Mr Hartson fod y merched yn fregus oherwydd 鈥渞oedden nhw鈥檔 15 oed ac yn 12 oed pan wnaethon nhw etifeddu鈥檙 arian, doedd ganddyn nhw ddim rheolaeth drosto".
Rhwng Mawrth 2016 a Mawrth 2017, clywodd y llys fod arian wedi'i dynnu o'r cyfrif lle鈥檙 oedd yr arian yn cael ei gadw ar 10 achlysur, a bod 拢35,000 wedi鈥檌 dynnu allan mewn tair gweithred yn unig.
Clywodd y llys nad oes cyfnod o le mae'r arian hwnnw heddiw, a bydd y Ddeddf Elw Trosedd nawr yn dod i rym er mwyn ceisio adennill yr arian.
'Parhau i gael effaith andwyol'
Daeth gweithredoedd y diffynyddion i鈥檙 amlwg yn 2018 pan oedd Gemma Thomas eisiau rhywfaint o鈥檙 arian i鈥檞 ddefnyddio fel blaendal i brynu t欧.
Yn wreiddiol cafodd ymchwiliad sifil ei lansio cyn i'r teulu gysylltu 芒'r heddlu.
Clywodd y llys fod Katherine Hill wedi gofyn i鈥檞 thad 93 oed ei helpu i gymryd yr arian, a bod Gerald Hill 鈥渨edi ei recriwtio a鈥檌 ecsbloetio gan Katherine Hill er mwyn cyflawni鈥檙 twyll".
Dywedodd Mr Hartson fod Hill 鈥測n amlwg yn cymryd rhan trwy ecsbloetio neu orfodi鈥 gan ei ferch.
Clywodd y llys pan geisiodd y merched adennill yr arian am y tro cyntaf drwy hawliad gan yswirwyr, dywedodd Mr Hartson iddo fethu oherwydd i'r diffynyddion honni fod y merched eisoes wedi ei dderbyn.
Honnodd y diffynyddion fod y dioddefwyr wedi derbyn yr arian, a bod yr yswirwyr yn eu credu ac 鈥渘i chafodd yr hawliad ei dalu".
Ychwanegodd Mr Hartson: 鈥淢ae colli etifeddiaeth y dioddefwr yn parhau i gael effaith andwyol ddifrifol arnyn nhw.鈥
Darllenwyd datganiadau effaith ar ddioddefwyr ar ran merched Hill yn y llys.
Gweithred llawn 'trachwant a sbeit'
Wrth amddiffyn Hill dywedodd Matt Murphy wrth y llys nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau blaenorol, ac roedd pobl wedi ymddiried ynddi i oruchwylio 鈥渕iloedd o gyfrifon鈥 yn ei r么l flaenorol yn gweithio mewn banc stryd fawr.
Dywedodd Harry Dickens, ar ran Hill, "nad yw'n debygol o aildroseddu, mae ar ddiwedd ei oes".
Ychwanegodd Mr Dickens: 鈥淣id oes ganddo deulu sy'n siarad gydag o. Mae ar ei ben ei hun. Does ganddo neb.鈥
Dywedodd wrth Katherine Hill iddi ddwyn yr arian allan o 鈥渄rachwant a sbeit.鈥
Dywedodd y Barnwr Greg Bull KC bod y ddau wedi cymryd rhan mewn 鈥渢wyll bwriadol鈥 a'i fod yn fodlon fod Hill "wedi gwylltio cymaint bod eich merched wedi derbyn mwy o arian na chi, nes i chi gymryd eu hetifeddiaeth".
Ychwanegodd iddi ddefnyddio鈥檙 arian 鈥渇el arf yn erbyn eich merched eich hun", "i鈥檞 sbeitio nhw a鈥檆h cyn-诺r鈥, ond mai Katherine Hill oedd "prif ysgogydd y sgam鈥.
鈥淣i allaf ddychmygu tor-ymddiriedaeth mwy sinigaidd na hyn," ychwanegodd.
Dywedodd Jessica Thomas, sy'n 21, ei fod yn 鈥渁nodd deall sut y gall fy nheulu fy hun achosi cymaint o niwed鈥 a'i bod wedi dioddef 鈥渢rawma meddwl difrifol鈥 a bod angen cwnsela arni yn ystod ei harddegau.
Mewn datganiad a ddarllenwyd ar ran Gemma Thomas, clywodd y llys fod gweithredoedd y diffynyddion wedi achosi 鈥渓lawer iawn o straen emosiynol ac ariannol" iddi a鈥檌 bod yn dioddef o 鈥渂ryder ym mhob maes鈥 o鈥檌 bywyd.
Dywedodd fod gweithred ei mam wedi ei gadael 鈥渕ewn llawer o ddyled鈥, gan ei bod yn dibynnu ar yr etifeddiaeth i brynu ei chartref, ond bellach mae arni hi filoedd o bunnau 鈥渟y鈥檔 achosi cymaint o straen i mi".