Teulu o Fethel yn chwilio am ddeintydd GIG 'ers blynyddoedd'
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Fethel ger Caernarfon yn dweud ei bod wedi methu 芒 dod o hyd i ddeintydd Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) newydd ers i'w deintydd blaenorol droi'n breifat yn 2021.
Dywedodd Kelly O鈥橠onnell, 41, bod ganddi bedwar o feibion ac felly doedd mynd at ddeintydd preifat "ddim yn opsiwn oherwydd y costau uchel".
Yn 么l ffigyrau swyddogol, dim ond 44.8% o boblogaeth Cymru oedd wedi derbyn triniaeth ddeintyddol ar y GIG rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023, tra bod y ffigwr hwnnw yn is fyth yn y gogledd (36.6%).
Mae鈥檙 sefyllfa yn achos pryder i Aelod Seneddol Arfon, Sian Gwenllian, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor er mwyn ceisio mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem.
Yn 么l Llywodraeth Cymru, does dim cynlluniau pendant i agor ail ysgol ddeintyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, ond maen nhw鈥檔 anelu i recriwtio a chadw mwy o ddeintyddion yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
Mae Ms O鈥橠onnell yn dweud iddi dreulio oriau yn ceisio cysylltu gyda sawl deintyddfa ar draws Arfon a thu hwnt dros y pedair blynedd diwethaf yn chwilio am lefydd i gleifion GIG.
鈥淒wi jyst methu ffeindio unrhyw le sy鈥檔 cymryd cleifion newydd ar y gwasanaeth iechyd," meddai.
"Gwaeth na hynny, dwi wedi cael sawl lle yn dweud bod eu rhestrau aros nhw鈥檔 llawn hyd yn oed.鈥
'Trafferthion staffio'
Ychwanegodd: 鈥淢ae鈥檔 andros o bryder achos dim ond un set o ail ddannedd 'da ni鈥檔 cael a dim ots faint dwi鈥檔 pwysleisio, ac yn dweud wrth y plant bod angen brwsio dannedd a pheidio bwyta pethau melys maen nhw鈥檔 mynd i fynd yn groes i hynny.
"A dyna鈥檙 rheswm wedyn am gael deintydd achos maen nhw鈥檔 cadw golwg ar y sefyllfa ac yn gallu rhoi cyngor.
"Mae鈥檙 plant yn fwy tebygol i wrando ar ddeintydd na鈥檜 mam.鈥
Mae nifer y deintyddfeydd yng Nghymru wedi codi鈥檔 raddol dros y tair blynedd diwethaf i 1,434. Ond mae鈥檙 ffigwr dal i fod yn is o'i gymharu 芒 2019, sef 1,506.
Mae trafferthion staffio yn bryder yn y maes ar hyn o bryd hefyd.
Yng ngogledd Cymru mae gan 41.3% o ddeintyddfeydd swyddi deintyddion gwag. Mae hynny聽10% yn uwch na鈥檙 cyfartaledd ar draws Cymru.
Un rhan o鈥檙 ateb, meddai Sian Gwenllian, AS Arfon, yw creu ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor.
Mae Ms Gwenllian wedi comisiynu adroddiad annibynnol sy鈥檔 gosod y ddadl dros gael ysgol ddeintyddol yn y gogledd - bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym Mangor ddydd Gwener.
鈥淢ae ein sefyllfa ddeintyddol ni ar draws Cymru yn argyfwng, ond yn enwedig yma yn y gogledd," meddai.
"Dwi鈥檔 cael negeseuon yn fwyfwy aml am bobl sydd methu cael mynediad at ddeintydd GIG. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu 芒 chynllunio o ran y gweithlu meddygol, gan gynnwys deintyddion.
"A r诺an, 'da ni mewn sefyllfa lle does dim digon o ddeintyddion gennym ni yma. Mae creu ysgol ddeintyddol newydd yma ym Mangor yn gallu chwarae rhan flaenllaw yn ateb y broblem."
Ychwanegodd Ms Gwenllian: 鈥淒wi鈥檔 ymwybodol nid diffyg staff ydy鈥檙 unig ffactor sydd wedi achosi鈥檙 argyfwng yma ond mae'n sicr yn rhan sylweddol o鈥檙 jig-so ehangach.
"Byddai mwy o ddeintyddion yn golygu mwy o apwyntiadau a鈥檙 ffordd o gael mwy o ddeintyddion i aros a gweithio yng Nghymru yw ysgol ddeintyddol newydd yma ym Mangor.鈥
'Ofn gorfod mynd i'r ysbyty'
Erbyn hyn mae Ms O'Donnell wedi gallu cofrestru ei phlentyn ieuengaf, sy鈥檔 ddyflwydd oed, gyda deintydd GIG.
Ond doedd dim modd i weddill y teulu gael eu cofrestru yno hefyd.
鈥淢ae gen i ofn ei fod yn mynd i gyrraedd pwynt lle na鈥檙 unig opsiwn os oes 'na broblem fawr gyda dant yw mynd i鈥檙 ysbyty, ac maen nhw dan ddigon o bwysau fel y mae," meddai.
"Dwi wedi gallu cael ein henwau ni ar restr aros un practis, ond mae鈥檙 rhestr mor hir bydd rhaid aros o leiaf tair blynedd.
"Dwi鈥檔 nabod sawl person arall rownd fa'ma sydd yn yr un sefyllfa hefyd. Mae angen i rywbeth newid yn reit sydyn neu bydd pethau ond yn gwaethygu."
Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, 鈥渘ad oes gan y llywodraeth unrhyw gynlluniau pendant i agor ail ysgol ddeintyddol yng Nghymru ar hyn o bryd.
"Ond, maen nhw鈥檔 gweithio i recriwtio a chadw mwy o ddeintyddion yng Nghymru gan gynnwys cynllun newydd sy鈥檔 cynnig cymorth ychwanegol i ddeintyddion dan hyfforddiant mewn ardaloedd o Gymru lle mae wedi profi鈥檔 anodd recriwtio deintyddion newydd.鈥
Ychwanegodd y llefarydd eu bod nhw鈥檔 鈥減arhau i weithio gyda鈥檙 sector i archwilio sut y gall diwygio鈥檙 contract deintyddol cenedlaethol annog deintyddfeydd i gydweithio ac ymateb yn y ffordd orau i anghenion eu cymunedau.鈥