Dyn wedi marw ar 么l disgyn o chweched llawr neuadd
- Cyhoeddwyd
Mae myfyriwr 19 oed wedi marw ar 么l disgyn o ffenestr ar chweched llawr un o neuaddau preswyl Prifysgol Abertawe.
Bu farw Matthew Gilbert o'i anafiadau yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ddydd Mercher, 24 Ebrill.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw i gampws Singleton y brifysgol yn oriau m芒n bore Sul, 14 Ebrill.
Mae swyddogion arbenigol Heddlu De Cymru yn rhoi cefnogaeth i'w deulu.
'Myfyriwr hynod addawol'
Dywedodd y brifysgol eu bod "wedi鈥檔 syfrdanu a鈥檔 tristau yn arw o glywed am farwolaeth Matthew Gilbert".
"Danfonwn ein cydymdeimlad dwysaf i鈥檞 deulu yn eu galar.
"Roedd Matthew yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf hynod addawol a oedd yn astudio LLB y Gyfraith gyda Throseddeg.
"Bydd colled fawr ar ei 么l, ymysg ei gyfeillion a鈥檌 gydnabod.
"Rydym yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr a staff yn ystod y cyfnod heriol hwn."
Mae Mia Brown, 19, yn byw yn y fflat lle wnaeth Matthew Gilbert gwympo, ond doedd hi ddim wedi cwrdd 芒鈥檙 myfyriwr.
鈥淢ae鈥檔 iasol,鈥 dywedodd. 鈥淒yw e ddim yn teimlo鈥檔 real.
鈥淢ae pawb yn siarad amdano - rhywbeth mor anghyffredin. Doeddwn i byth yn disgwyl i hyn ddigwydd.
鈥淩y鈥檔 ni wedi cael cefnogaeth achos fe ddaeth rhai o hyd iddo, roedd pobl yn ei adnabod, rhai yn yr un darlithoedd 芒 fe.
鈥淩o鈥檔 i鈥檔 gobeithio y byddai鈥檔 goroesi. Mae鈥檔 ofnadwy.鈥