大象传媒

Coroni Gwynfor Dafydd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Disgrifiad,

Dywedodd Gwynfor Dafydd ei fod yn "brofiad hollol wefreiddiol" dod i'r brig yn ei eisteddfod leol

  • Cyhoeddwyd

Gwynfor Dafydd yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

Daeth y bardd o Donyrefail i鈥檙 brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 33 o geisiadau.

Mae'n derbyn gwobr ariannol o 拢750 hefyd, a hynny am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc 'Atgof'.

Cafodd y pwnc ei ddewis i nodi canrif union ers i Prosser Rhys ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-p诺l am bryddest ar yr un pwnc, yn s么n am ei berthynas rywiol gyda dyn arall, pan oedd bod yn hoyw yn anghyfreithlon.

Wrth iddo gael ei longyfarch ar y llwyfan gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood, cafodd y bardd ei gofleidio gan ei fam, Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Helen Prosser yn cofleidio ei mab, Gwynfor Dafydd, ar 么l iddo gael ei enwi fel enillydd y Goron

Cafodd y bardd buddugol ei eni a'i fagu yn Nhonyrefail yn Rhondda Cynon Taf, ac fe aeth i ddwy o鈥檙 ysgolion lleol, Ysgol Gynradd Tonyrefail ac Ysgol Llanhari.

Dechreuodd farddoni yn yr ysgol uwchradd, yn y mesur caeth i ddechrau, yn sgil ymweliad gan Mererid Hopwood 芒鈥檙 ysgol.

Enillodd Gadair yr Urdd pan oedd yn dal i fod yn ddisgybl yn Llanhari yn 2016, ac yna am yr eildro ar ei domen ei hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr Taf ac El谩i yn 2017.

Aeth i Brifysgol Caergrawnt i astudio llenyddiaeth Almaeneg a Sbaeneg, ac fe dreuliodd flwyddyn yn gweithio i鈥檙 Siambr Fasnach Brydeinig yn Chile.

Mae Gwynfor Dafydd bellach yn gweithio fel newyddiadurwr i'r 大象传媒 ar raglenni News at Six a鈥檙 10 O鈥機lock News.

Casgliad o gerddi 'ffraeth a ffyrnig'

Y beirniaid eleni oedd Guto Dafydd, Elinor Gwynn a Tudur Dylan Jones.

Dywedodd Tudur Dylan fod Gwynfor Dafydd - o dan y ffugenw 'Samsa' - wedi llwyddo i "ennyn ystod o emosiynau ynom".

Wrth draddodi o鈥檙 llwyfan, dywedodd fod Samsa yn "cyflwyno dilyniant sy鈥檔 digwydd gweddu鈥檔 berffaith i fro鈥檙 Eisteddfod eleni, am mai yn ei thir a鈥檌 daear hi y mae ei wreiddiau.

"Mae ganddo berthynas bell ac agos gyda鈥檌 ardal a chyda鈥檌 thrigolion. Mae鈥檔 teimlo鈥檔 un 芒鈥檙 gymdeithas, ac eto fymryn ar wah芒n," meddai.

Ychwanegodd Guto Dafydd yn ei feirniadaeth: 鈥淒yma gasgliad ffraeth a ffyrnig, mydryddol a meistrolgar, sy鈥檔 archwilio鈥檔 gariadus-gritigol berthynas y bardd 芒鈥檙 cymoedd a gyflwynodd ei dad-cu iddo鈥檔 blentyn."

Dywedodd Elinor Gwynn fod y cerddi yn "plethu hiwmor a dwyster, y presennol a鈥檙 gorffennol, a sylwebaeth grafog gyda myfyrdodau teimladwy am ei hunaniaeth ei hun".

"Mewn ffordd wreiddiol a gafaelgar mae鈥檔 cynnig cipolwg ar y profiadau, y straeon a鈥檙 mythau sy鈥檔 creu ein lleoedd ac yn siapio ein perthynas 芒 nhw," meddai.

'Mae meddwl am ffugenw bron mor anodd 芒'r ysgrifennu!'

Tra'n siarad ar raglen Eisteddfod S4C dywedodd Gwynfor Dafydd: "Maen nhw'n gerddi am y cymoedd - roedd hynny'n anochel. Es i ati yr amser yma llynedd ac fe gymerodd hi tua saith mis i mi eu hysgrifennu."

Ganrif ers coroni Edward Prosser Rhys am ei gerdd 'Atgof' - dyna hefyd oedd y testun eleni.

"Roedd hi'n amhosib anwybyddu y cysylltiad yna ac mae cerdd yn y casgliad sy'n dathlu'r cymoedd wrth gwrs, ond hefyd yn trafod culni a cheidwadaeth sydd efallai yma, a'i bod yn anodd tyfu lan yn berson sydd efallai yn wahanol.

"Fe ysgrifennais gerdd chwe mlynedd yn 么l - oedd ddim yn hunangofiannol - am brofiad bachgen hoyw yn dod mas i'r rhieni. Roedd hi'n anodd anwybyddu'r cysylltiad ganrif ers i Proser Rhys ennill ar yr un testun."

A beth oedd arwyddoc芒d y ffugenw, Samsa?

"Fe enillodd Rhys Iorwerth llynedd dan y ffugenw Gregor. Yn nofel enwog 'The Metamorphosis' gan yr awdur Franz Kafka, enw'r prif gymeriad yw Gregor Samsa.

"Roeddwn i'n meddwl bydden i'n cadw rhyw fath o ddilyniant. Mae meddwl am ffugenw bron mor anodd 芒'r ysgrifennu!"

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap 大象传媒 Cymru Fyw ar neu .

Pynciau cysylltiedig