大象传媒

Eisteddfod yn ymddiheuro am 'anghyfleustra' maes parcio

Ciw
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd ciwiau hir yn wynebu teithwyr oedd yn ceisio gadael maes Eisteddfod yr Urdd nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi ymddiheuro am yr "anghyfleustra" wrth i nifer gael trafferthion wrth geisio gadael y maes nos Lun.

Dywedodd rhai wrth Cymru Fyw eu bod yn aros dros awr mewn ciw i adael y maes ym Meifod, gan symud ychydig fetrau yn unig yn y cyfnod.

Dywedodd un oedd yn aros bod y ciw wedi "difetha diwrnod da i ni", wrth i filoedd geisio gadael ar ddiwedd y diwrnod cyntaf o gystadlu.

Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol, dywedodd yr Eisteddfod bod timau'n "gweithio'n galed i gael pawb allan cyn gynted 芒 phosib".

'Difetha diwrnod da'

Dywedodd Wendy Davies, sy'n athrawes yn Ysgol y Dderwen: "Ni 'di bod yn aros yn y car am dros awr ac 20 munud ar hyn o bryd.

鈥淒a ni wedi symud ryw 20 metr, falle, felly ddim yn hapus iawn.鈥

Roedd Owena o Bwllheli yn y car gyda thri o blant yn cynnwys babi bach, a dywedodd bod "dim trefn o gwbl".

Ar 么l bron i awr yn y ciw, dywedodd bod ceir yn "ymuno o bob cyfeiriad yma".

鈥淢ae鈥檔 difetha diwrnod da i ni."

Roedd Nia Griffith wedi bod yn disgwyl dros 45 munud: 鈥淢ae hi鈥檔 dechrau peryglu yma 'swn i鈥檔 d'eud.

"Mae 鈥榥a lot o geir yn trio mynd trwy le reit gyfyng i weld a phawb yn trio mynd gwahanol ffyrdd.

鈥淚a bechod fod o鈥檔 ddiweddglo fel hyn i ddiwrnod mor dda fel arall.鈥

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Eisteddfod yr Urdd a鈥檙 Celfyddydau

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Eisteddfod yr Urdd a鈥檙 Celfyddydau

Mewn datganiad, diolchodd Eisteddfod yr Urdd i bobl am eu hamynedd wrth i "gannoedd adael y maes yr un pryd".

"Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra", ychwanegodd y datganiad.

"Mae ein timoedd yn gweithio yn galed i gael pawb allan o'r meysydd parcio yn ddiogel a chyn gynted 芒 phosib."

'Trio datrys y broblem'

Roedd diwrnod agoriadol yr eisteddfod yn mynd yn "arbennig o dda, tan tua 17:30," meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

Dywedodd fod y maes yn "orlawn" a'n "llawn iawn o gynnwrf gan bobl ifanc, llawn iawn o deuluoedd yn mwynhau" dydd Llun, ond ei bod yn "cydnabod ddoe ar ddiwedd y dydd oedd 'na broblemau yn y maes parcio".

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, ymddiheurodd i'r "nifer helaeth o deuluoedd oedd yn aros yn y ceir am awr neu ddwy ddoe".

Dywedodd y prif weithredwr: "Dio ddim yn rhywbeth 'da ni'n hapus fod o 'di digwydd ond 'da ni wedi ymateb.

"Mae trafodaethau wedi digwydd hefo Cyngor Sir Powys, hefo'r heddlu a hefo'r Urdd neithiwr... 'Da ni'n trio datrys y broblem."

Pynciau cysylltiedig