Cyn-bencampwr snwcer Ray Reardon wedi marw yn 91 oed
- Cyhoeddwyd
Mae un o s锚r mwyaf y byd snwcer, y Cymro Ray Reardon, wedi marw yn 91 oed.
Fe enillodd Reardon, oedd yn enedigol o Dredegar, bencampwriaeth y byd chwe gwaith.
Roedd y Cymro wedi cael diagnosis o ganser.
Dywedodd y cyn-bencampwr Mark Williams bod Reardon wedi 鈥渞hoi snwcer ar y map鈥 a bod gan chwaraewyr heddiw 鈥渄dyled fawr鈥 iddo.
Reardon oedd enillydd cyfres gyntaf Pot Black y 大象传媒 ym 1969, ac ym 1985 cafodd ei gynnwys ar restr anrhydeddau Penblwydd y Frenhines.
Enillodd ei bencampwriaeth gyntaf yn 1970, cyn ennill ar bum achlysur arall erbyn 1978 鈥 gan guro chwaraewyr fel Alex 鈥淗urricane鈥 Higgins.
Fe wnaeth Reardon ymddeol o鈥檙 gamp ym 1991, yn 58 oed.
Gweithiodd fel ymgynghorydd i Ronnie O鈥橲ullivan, gan gynnwys pan enillodd ef bencampwriaeth y byd yn 2004.
'G诺r bonheddig go iawn'
Cafodd tlws enillydd y Welsh Open ei enwi ar 么l Ray Reardon yn 2016.
Wrth dalu teyrnged i Reardon ddydd Sadwrn, dywedodd y cyn-bencampwr Jimmy White ei fod wedi colli "ffrind agos" oedd yn "gawr" yn y gamp.
Dywedodd Dennis Taylor ei fod wedi cael teithio'r byd 芒 "g诺r bonheddig go iawn", wrth i'r sylwebydd a chyn-chwaraewr John Virgo ei alw'n "anrhydedd" adnabod Reardon.
Ychwanegodd y sylwebydd snwcer Gareth Blainey iddo holi Reardon sawl tro ar hyd y blynyddoedd, "yn fwyaf diweddar ychydig cyn ei benblwydd yn 90 oed," a'i fod yn drist clywed am farwolaeth y "g诺r bonheddig".