Cwis Bob Dydd yn dychwelyd am bedwerydd tymor
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwis ar ffurf ap sy'n cael ei gynhyrchu gan S4C yn dychwelyd am bedwerydd tymor wythnos nesaf.
Gwyliau i bedwar o bobl mewn chalet sg茂o moethus yn M茅ribel yn Ffrainc fydd prif wobr Cwis Bob Dydd sy'n ailddechrau ddydd Llun 20 Mai.
Wrth ei lawnsio ym mis Hydref 2022, dywedodd y sianel bod y cwis yn ymgais i ehangu eu cyrhaeddiad tu hwnt i gynulleidfa teledu gonfensiynol.
Yn 么l S4C mae nifer dilynwyr y cwis bellach yn "bron i 20,000" sy'n bedair gwaith y nifer - 5,000 - oedd wedi cofrestru ar gyfer y tymor cyntaf.
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023
Mae'r cwis yn rhedeg am 20 wythnos rhwng misoedd Mai a Hydref ac yn cael ei gyflwyno gan Megan Ll欧n ac Ameer Rana-Davies.
Mae'n gosod 10 cwestiwn y dydd ond mae'r cwestiynau'n wahanol i bawb.
Y nod i'r cystadleuwyr yw i'w hateb yn gywir a hynny mor gyflym 芒 phosib - mae'r sg么r yn dibynnu ar gyfuniad o'r ddwy elfen.
Mae bod ar frig y sgorfwrdd yn destun balchder ond trwy raffl mae'r brif wobr yn cael ei hennill.
Mae rhywun yn derbyn tocyn bob tro maen nhw'n cystadlu ar y cwis, ac felly mae'r siawns o ennill y wobr yn cynyddu po fwyaf maen nhw'n cystadlu.
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan wedi i鈥檙 tymor orffen.