大象传媒

Cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n gwneud ymarfer corff

Wal dringo
  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru yn gwneud mwy o ymarfer corff, ond yn profi mwy o fwlio yn yr ysgol, yn 么l arolwg cenedlaethol.

Mae bron i chwarter y bechgyn (23%) yn gwneud o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd, sef y canllaw cenedlaethol 鈥 sydd i fyny o 21% yn 2019 a 2021, yn 么l arolwg iechyd a lles Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN).

Mae 14% o ferched yn bodloni鈥檙 canllawiau ymarfer corff, sydd dal i fod yn isel, ond mae'n gynnydd o鈥檙 12% oedd yn cyrraedd y targed yn 2021.

Fodd bynnag, dywedodd bron i 37% o bobl ifanc eu bod wedi cael eu bwlio, i fyny o 32% yn 2021.

Cynnydd yn 'galonogol' ond mwy i'w wneud

Fe wnaeth bron i 130,000 o ddisgyblion mewn 200 o ysgolion uwchradd ledled Cymru ateb yr holiadur oedd yn gofyn cwestiynau ar bynciau megis iechyd meddwl a defnydd alcohol.

Dywed Lorna Bennett, ymgynghorydd gwella iechyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod y cynnydd mewn gweithgaredd corfforol yn 鈥済alonogol iawn鈥 ond dywedodd fod angen gwneud mwy.

鈥淢ae nifer y bobl ifanc sy鈥檔 bodloni鈥檙 canllawiau ar gyfer gweithgaredd corfforol yn parhau鈥檔 isel ac mae鈥檔 bwysig ein bod ni鈥檔 parhau i weithio i sicrhau bod gweithgaredd corfforol yn dod yn rhan o fywydau mwy o bobl ifanc yng Nghymru,鈥 meddai.

Bydd yr adroddiad yn cael ei ddefnyddio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a chyrff gan gynnwys Chwaraeon Cymru i ddatblygu polis茂au newydd.

Bu cynnydd hefyd yn nifer y disgyblion sy'n gwneud ymarfer corff y tu allan i'r ysgol, ond mae gwahaniaeth sylweddol rhwng plant o gefndiroedd tlotach.

Roedd bron i hanner (45%) y plant o deuluoedd mwy cefnog yn gwneud ymarfer corff egn茂ol y tu allan i鈥檙 ysgol bedair gwaith yr wythnos, o'i gymharu 芒 32% o blant o deuluoedd tlotach.

Fe wnaeth Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd ddefnyddio鈥檙 data o'r arolwg i ddatblygu ffyrdd newydd o gynyddu gweithgaredd corfforol.

Mae Jane Crawshaw yn rhedeg y rhaglen gyfoethogi sy鈥檔 cynnig gweithgareddau gan gynnwys dringo, nofio, hunanamddiffyn, beicio, criced, p锚l-droed a bocsio.

鈥淢ae鈥檔 lleihau absenoldebau gan eu bod wrth eu bodd yn gwneud y gweithgareddau, ac maen nhw鈥檔 gwenu ac yn hapus ac yn cyflawni rhywbeth na fydden nhw fel arfer,鈥 meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jane Crawshaw fod y rhaglen gyfoethogi yn "lleihau absenoldebau gan eu bod wrth eu bodd yn gwneud y gweithgareddau

Mae鈥檙 disgyblion yn dweud fod y rhaglen wedi dod 芒 nifer o fanteision.

鈥淒ydw i ddim yn gwneud llawer o chwaraeon y tu allan i鈥檙 ysgol ond mae hyn yn well oherwydd rydych chi鈥檔 dysgu cymaint ac mae wedi gwneud i mi ystyried rhoi cynnig ar chwaraeon eraill fel p锚l-droed, dringo, a bocsio,鈥 meddai Husnaia, 12.

Dywedodd Jayden, 12, ei fod yn chwarae p锚l-droed ar y penwythnos ond ei fod hefyd yn mwynhau'r cyfle i wneud gweithgareddau yn yr ysgol.

Dywedodd Ameeia, 15: 鈥淒ydw i ddim yn cael cyfle i wneud hyn y tu allan i鈥檙 ysgol, oherwydd mae鈥檔 costio gormod, felly mae hyn yn fraint.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ameeia a Jayden eu bod wrth eu bodd yn dilyn y rhaglen gyfoethogi yn yr ysgol

Ond dyw hi ddim yn f锚l i gyd wrth i鈥檙 arolwg ddangos fod pobl ifanc yn eu harddegau yn dioddef mwy o fwlio yn yr ysgol nag unrhyw arolwg blaenorol yn y degawd diwethaf.

Mae 37% wedi profi bwlio wyneb yn wyneb a bwlio seibr, sy鈥檔 gynnydd o 32% o blant yn 2021.

"Mae'n frawychus," meddai Lorna Bennett, gan ychwanegu bod "gr诺p sylweddol o bobl ifanc yn gorfod delio 芒 chael eu bwlio, sy'n effeithio ar iechyd meddwl".

Er mwyn ceisio mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 mater, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag ysgolion i gyflwyno rhaglen allanol sydd wedi鈥檌 gynllunio i helpu ysgolion i gefnogi iechyd meddwl myfyrwyr, yn ogystal ag atal a mynd i鈥檙 afael 芒 bwlio.

Pynciau cysylltiedig