大象传媒

Achos trywanu Ysgol Dyffryn Aman yn dymchwel ar 么l 'anghysondeb'

Ysgol Dyffryn AmanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd dwy athrawes a disgybl eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae'r achos yn erbyn merch 14 oed a drywanodd tri pherson mewn ysgol yn Sir G芒r wedi dymchwel ar 么l "anghysondeb mawr" yn y rheithgor.

Cafodd dwy athrawes - Liz Hopkin a Fiona Elias - a disgybl eu trywanu yn ystod amser egwyl yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill.

Roedd merch - nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoed - wedi cyfaddef ei bod wedi trywanu ond wedi gwadu ceisio llofruddio.

Ond yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC y bydd achos arall yn dechrau o'r newydd ar 27 Ionawr, 2025.

Dywedodd y barnwr ei bod yn "anfoddhaol iawn rhyddhau'r rheithgor, yn enwedig i'r ferch 14 oed a fydd yn gorfod sefyll ei phrawf eto".

Ychwanegodd: "Mae anghysondeb mawr wedi bod yn y rheithgor ac rydyn ni i gyd yn cytuno fod hyn wedi amharu yn anadferadwy ar ein gallu ni i ystyried y mater hwn.

"Gyda'r amharodrwydd mwyaf posib, bydd yn rhaid i mi ryddhau鈥檙 rheithgor hwn."

Gofynnodd y barnwr i un aelod o'r rheithgor aros ar 么l wrth i aelodau'r cyhoedd adael y llys.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Liz Hopkin a Fiona Elias eu hanafu yn y digwyddiad

Ar ddiwrnod yr ymosodiadau, cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys dau hofrennydd ambiwlans awyr, eu galw i'r lleoliad.

Roedd cyllell wedi ei chanfod ar dir yr ysgol.

Cafodd y tri dioddefwr anafiadau nad oedd yn fygythiad i fywyd ond bu'n rhaid i Ms Hopkin, a gafodd ei thrywanu yn ei gwddf, gael ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.

Cafodd yr ysgol ei rhoi dan glo ac arhosodd ar gau'r diwrnod canlynol er mwyn cynnal ymchwiliadau.