'Sioc enfawr' wedi marwolaeth yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl o Gilgerran yn Sir Benfro wedi bod yn s么n am eu "sioc enfawr" am farwolaeth dyn ar 么l codi pryderon am ei les.
Fe aeth Elizabeth Evans a Carl Thomas i'r t欧 yn Llwyncelyn ger Cilgerran nos Iau, ar 么l sylwi nad oedd y dyn wedi cael ei weld yn lleol ers misoedd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth dyn yn Llwyncelyn.
Does neb wedi cael ei arestio ac maen nhw'n parhau i ymchwilio.
Yn 么l yr heddlu, fe aethon nhw i d欧 yn yr ardal ar 4 Gorffennaf ar 么l i "bryderon gael eu codi am les pobl oedd yn byw yno."
Dywedodd Elizabeth Evans wrth 大象传媒 Cymru ei bod hi'n bryderus am y dyn ers misoedd : "Roedd fy mhartner a finnau yn bryderus iawn am nad oedden ni wedi gweld y dyn ers peth amser.
"Roedden ni am fynd lawr i'r t欧 er mwyn lleddfu pryderon pobl ac er mwyn sicrhau ei fod yn iawn.
"Roedden ni'n meddwl bod hi'n well cysylltu gyda'r heddlu."
Dywedodd Ms Evans bod y newyddion am ei farwolaeth wedi bod yn "sioc enfawr" i'r gymuned glos ger Cilgerran.
"Dyw hyn erioed wedi digwydd o'r blaen. Mae cymuned glos yma. Mae hi'n drueni bod hyn wedi para am fisoedd. Mae hi'n drueni na wnaethon ni rhywbeth cyn nawr."
Yn 么l ei phartner, Carl Thomas, roedd y dyn wastad yn barod i'w gyfarch ar y stryd.
Dywedodd: "Aethon ni lawr oherwydd concern y community.
"Mae'n sioc enfawr i'r gymuned beth sydd wedi digwydd achos roedd e'n foi ffein.
"Roedd e'n siarad yn neis, roedd e'n gweud helo i ti.
"'Na beth oedd y concern oedd bod e ddim yn pasio. October wnes i weld e diwethaf, blwyddyn diwethaf."
Mae'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un heb esboniad ar hyn o bryd.